Part of the debate – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 24 Hydref 2017.
Llywydd, mae gen i dri newid i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon. Rwyf wedi ymestyn datganiad y prynhawn yma ar recriwtio athrawon, ac yn ddiweddarach y prynhawn yma bydd y Prif Weinidog yn gwneud datganiad llafar ar yr wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Brexit. Hefyd, mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i leihau cwestiynau yfory i Gomisiwn y Cynulliad i 15 munud. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes y gellir eu gweld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.