2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:21, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os yn bosibl, os gwelwch yn dda, arweinydd y tŷ? Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r adolygiad o Flaenau'r Cymoedd a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi—y cam ar ran ddwyreiniol y ffordd honno yw hwn. Ymddengys bod goblygiadau sylweddol o ran cost ac amser, ac mae busnesau yn fy rhanbarth i eisoes wedi gwneud sylwadau ar y sefyllfa drafnidiaeth ofnadwy y maent yn ei hwynebu, gyda lorïau, ceir, faniau, ddim yn symud mewn oedi traffig sylweddol ar y rhan hon o'r rhwydwaith ffyrdd. Mae'n siomedig, o gofio mai dyma'r gwariant cyfalaf mwyaf gan Lywodraeth Cymru ar ffyrdd, nad oes datganiad ar gael gan y Llywodraeth ynghylch math a maint yr adolygiad ac, yn wir, rhai o'r problemau cychwynnol y maen nhw wedi eu nodi. Nid wyf yn credu ein bod wedi cael yr amser na'r cyfle i holi'r Gweinidog—nac Ysgrifennydd y Cabinet, ddylwn i ddweud—ar yr adolygiad hwn. Ac, fel y dywedais, nid rhyw welliant i gilfan yw hwn ond buddsoddiad o £220 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn rhan derfynol cyswllt dwyreiniol ffordd Blaenau'r Cymoedd, ac rwyf i o’r farn y byddai wedi haeddu bod ar y papur gorchmynion y prynhawn yma, ond, gan nad yw ar y papur gorchymyn y prynhawn yma, a allwn ni gael y cyfle i gael datganiad cyflawn a chynhwysfawr gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater hwn?

Yn ail, a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, os yn bosibl, os gwelwch yn dda? Roedd y Prif Weinidog yn ymddangos yn bendant iawn yn ei anerchiad wrthyf y prynhawn yma na fyddai diffyg ym mwrdd iechyd gogledd Cymru, pryd y dangosir diffyg rhagamcanol o £50 miliwn gan y bwrdd ei hun yn ei bapurau bwrdd ei hun, pan fo amseroedd aros yn dyblu yn y bwrdd iechyd penodol hwnnw. Gall rhywun weld sut y gall trigolion yn y gogledd yn arbennig, ond yn enwedig gwleidyddion o’r gwrthbleidiau yn y Siambr hon sydd yma i graffu ar y Llywodraeth, godi eu hysgwyddau mewn anghrediniaeth pan fyddwch chi'n ystyried, bum mis yn ôl, bod y bwrdd iechyd yn y fan honno i fod i wneud arbedion o £10 miliwn y mis. Ac mae peidio â chael unrhyw effaith ar amseroedd aros nac unrhyw effaith ar gadw staff, rwy'n credu, yn afrealistig a dweud y lleiaf. Os yw’n wir y bydd Llywodraeth Cymru yn chwistrellu cronfeydd newydd i'r bwrdd iechyd, ac, yn wir, byrddau iechyd eraill a oedd â diffygion rhagamcanol, yna credaf fod angen gwneud hynny'n gwbl glir a byddwn, felly, yn galw ar yr Ysgrifennydd iechyd i wneud datganiad i egluro'r safbwynt a gymerwyd gan y Prif Weinidog fel y gallwn ni fod yn ffyddiog y bydd y camau sy'n cael eu cymryd yn (a) lleihau amseroedd aros a (b) yn sicrhau bod y diffygion yn y byrddau iechyd yn dod yn ôl o dan reolaeth.