Part of the debate – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 24 Hydref 2017.
Wel, bydd Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr, trwy ei swyddogion, yn ymwybodol o'r anawsterau sy'n ymwneud ag adeiladu'r gylchfan hon. Ond wrth gwrs, mae'n debyg bod enghreifftiau ledled Cymru lle ceir tarfu o ganlyniad i fuddsoddi mewn seilwaith, a fydd, yn y pen draw, yn golygu gwelliant enfawr, rwy'n siŵr, o ran cysylltedd a mynediad, nid yn unig ar gyfer busnes ond i gymudwyr hefyd. Ond rydych chi wedi gwneud eich pwynt heddiw, Steffan Lewis, felly rydym ni’n cydnabod hynny.