2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 2:26, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a thrafnidiaeth ar anallu ymddangosiadol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i wella cylchfan heb achosi anhrefn llwyr? Mae pobl oriau'n hwyr yn cyrraedd y gwaith, plant yn hwyr yn yr ysgol, ac mae tystiolaeth bod busnesau bellach yn cael eu heffeithio gan y gwaith o wella cylchfan Pwll-y-Pant. Bwriedir i'r gwaith barhau am hyd at flwyddyn, ac rwy’n ofni, os bydd yn parhau am hyd at flwyddyn ar ei ffurf bresennol, y bydd yn cael effaith economaidd niweidiol hirdymor ac na fydd tref Caerffili yn gallu ailgodi ar ei thraed am beth amser. Dyma un o'r ffyrdd prysuraf yn y wlad. A wnaiff y Llywodraeth ymyrryd er mwyn gwrthdroi’r llanast hwn os gwelwch yn dda?