Part of the debate – Senedd Cymru am 3:17 pm ar 24 Hydref 2017.
Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau hynny ac rwy’n edrych ymlaen at drafod a dadlau cadarn parhaus wrth i’r Bil fynd rhagddi i’r camau craffu, ac rwy’n siŵr y byddwn yn sicr yn cael trafodaeth gref o ran y dystiolaeth sy’n sail i’r cynigion yr ydym yn eu gwneud.
Credaf ei bod yn deg dweud ei fod yn ddull newydd, ac rwy’n credu y byddem ni’n dau yn cydnabod hynny. Mae gennym dystiolaeth, pan fo pris alcohol wedi cynyddu a bod y cynnydd hwnnw wedi’i drosglwyddo i unigolion, yna mae’r defnydd yn lleihau ac mae niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yn gostwng ymhellach. Dyna’r dystiolaeth sydd gennym ac rwy’n credu bod honno’n dystiolaeth eithaf cymhellol.
Fodd bynnag, fel y dywedais, rydym yn cydnabod bod hwn yn ddull eithaf radical a newydd, felly rydym wedi ymrwymo i gyhoeddi adroddiad, ar ôl cyfnod o bum mlynedd, ar weithrediad ac effaith y Ddeddf yn ystod y cyfnod hwnnw. A, byddwn yn comisiynu gwerthusiad ac adolygiad llawn o effeithiau gosod isafbris uned yng Nghymru, gan fonitro amrywiaeth eang o ddangosyddion lle byddem yn gobeithio gweld newidiadau, megis nifer y derbyniadau i’r ysbyty o ganlyniad i gamddefnyddio alcohol, marwolaethau o alcohol, gostyngiadau hirdymor mewn sirosis, ac eraill o’r materion iechyd mesuradwy y gellir eu priodoli i alcohol.
Ond, rydym ni wedi cynnwys cymal machlud yn y ddeddfwriaeth hefyd, oherwydd ein bod yn awyddus i sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn cyflawni’r hyn yr ydym ni’n dymuno iddi ei gyflawni. Fel y gwyddom, pasiodd Llywodraeth yr Alban ei Deddf yn 2012, ond nid ydynt wedi gallu dod â hi i rym. Felly, rydych chi’n iawn i ddweud nad oes unrhyw wlad arall yn y DU wedi gweithredu isafbris uned am alcohol. Ar sail yr hyn y mae gwledydd eraill yn ei ddweud wrthym, rydym yn hyderus y bydd yn sicrhau enillion iechyd sylweddol, ond, fel y dywedais, mae angen i ni fod yn hyderus bod y ddeddfwriaeth yn gweithio, felly mae’r cymal machlud wedi’i osod yn y Bil.
Gwnaethoch chi ofyn i mi gadarnhau’r prisiau alcohol a ddyfynnir ar wefan y BBC pe byddai’r isafbris uned yn cael ei osod ar 50c, ac wrth gwrs bydd yn cael ei osod trwy reoliadau a fydd yn dod gerbron y Cynulliad maes o law, pe byddai’r Bil yn pasio trwy’r Cynulliad. Byddai potel o win ar £4.49 yn cynnwys y rhan orau o naw uned, felly, ie, byddai hynny’n gywir. Byddai peint o lager, er enghraifft, yn cynnwys dwy uned, felly, unwaith eto, 50c wedi’i luosi â dau, felly byddem yn cael £1 am hynny. Ac mae’r botel o wirod a ddyfynnir ar y wefan yn botel litr mewn gwirionedd, felly byddai honno’n gwerthu am £20, ond rwy’n credu bod y rhan fwyaf o bobl yn tueddu i brynu gwirodydd mewn poteli llai na photeli litr.
Mae’r materion trawsffiniol yr ydych chi’n eu disgrifio yn rhai yr ydym yn ymwybodol iawn ohonynt hefyd. Rydym yn gwybod y gallai cyfundrefnau gwahanol yng Nghymru a Lloegr effeithio ar ymddygiad defnyddwyr, ond byddai hynny’n dibynnu yn llwyr ar barodrwydd pobl a’u gallu i deithio, ynghyd â, mewn gwirionedd, y gwahaniaeth mewn pris o’i gymharu â chost y cludiant y byddai hyn yn ei achosi hefyd. Mae siopa trawsffiniol eisoes yn bodoli, fel y gwyddom, ond rydym ni’n credu y bydd effaith cyflwyno isafbris uned yn fach iawn, ac mae hyn oherwydd, yn achos y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru, byddai prynu yn Lloegr yn golygu cost o ran amser a theithio ac mae’r gost yn debygol o fod yn fwy nag unrhyw gynilion ar bris alcohol. Yn wir, mae pobl sy’n yfed alcohol ar lefelau niweidiol a pheryglus yn tueddu i brynu alcohol i’w yfed ar unwaith, felly byddai hynny’n amlwg yn lleihau’r cymhelliant i deithio hefyd.
Mae’r Prif Weinidog yn glir mai darn o ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd yw hwn yn bennaf. Fodd bynnag, mae effeithiau posibl mewn mannau eraill, ac rydym yn rhagweld y bydd yn effeithio ar lefelau troseddu. Er enghraifft, amcangyfrifwyd y byddai isafbris uned o 50c yn arwain at ostyngiad o 4.7 y cant mewn troseddau treisgar, gostyngiad o 4.6 y cant mewn difrod troseddol, a gostyngiad o 4.6 y cant mewn lladrata, bwrgleriaeth a dwyn hefyd. Felly, mae’r buddion y tu hwnt i’r manteision corfforol yn unig.
Ac i ddychwelyd at y pwynt cyntaf y gwnaethoch chi, sef yr un am bobl sy’n byw mewn tlodi a phobl ar incwm isel y mae’r ddeddfwriaeth hon yn effeithio arnynt: mae pobl sy’n byw mewn tlodi yn llawer mwy tebygol o ymatal rhag unrhyw alcohol o gwbl ac yn llawer mwy tebygol o fod yn yfed alcohol ar lefelau isel. Mae’r ymchwil yn awgrymu, i bobl sy’n yfwyr niweidiol a pheryglus, bod pobl sydd ar incwm isel neu sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd yn fwy tebygol o ddioddef salwch hirdymor o ganlyniad i yfed gormod o alcohol, felly gall isafbris uned, o bosibl, leihau lefelau yfed niweidiol a pheryglus yn y cymunedau hyn, sy’n golygu y bydd y perygl o niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yn lleihau hefyd. Ystadegyn llwm iawn a ddaeth i law wrth baratoi ar gyfer y Bil hwn oedd bod cyfraddau marwolaethau y gellir eu priodoli i alcohol yn y cymunedau o amddifadedd mwyaf ar gyfer dynion dair gwaith yn uwch nag yn yr ardaloedd o amddifadedd lleiaf, ac mae hynny, i mi, yn dweud bod y ddeddfwriaeth hon yn rhoi cyfle inni roi sylw i fater cryf iawn o anghydraddoldeb iechyd. Nid wyf i’n credu ei bod yn iawn i ni dderbyn canlyniadau iechyd gwaeth i bobl sy’n byw yn ein cymunedau tlotaf.