3. 3. Datganiad: Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 3:22, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n cefnogi’r Bil yn fawr iawn oherwydd, yn fy marn i, yr amrediad sylweddol o niwed y mae camddefnyddio alcohol a phroblemau yfed yn gyfrifol amdanynt yng Nghymru: iechyd; diwrnodau gwaith a gollir, felly'r effaith economaidd; ac, yn wir, y math o gymdeithas yr ydym ni ac agweddau diwylliannol hynny. Rwy’n derbyn yn llwyr yr hyn y mae’r Gweinidog newydd ei ddweud ei fod yn fater anghydraddoldeb iechyd hefyd. Gwyddom fod bwlch mawr mewn disgwyliad oes a disgwyliad oes iach rhwng ein cymunedau mwyaf cyfoethog a’n cymunedau tlotaf, ac mae’r effeithiau ar iechyd yn sgil camddefnyddio alcohol ac, yn wir, ysmygu yn rhan sylweddol o hynny. Rydym ni wedi cymryd camau ar ysmygu, ac rydym ni’n parhau i wneud hynny. Mae angen i ni gymryd camau pellach, yn fy marn i, o ran problemau yfed hefyd.

Rwy’n credu ein bod ni i gyd yn gyfarwydd â rhai o’r problemau sy’n ymwneud â goryfed mewn pyliau, er enghraifft. Rwyf wedi clywed llawer o ymwelwyr i Gymru yn sylwi ar yr hyn y maen nhw’n yn ei weld fel golygfa arswydus yn ein dinasoedd a chanol trefi ar nosweithiau Gwener a Sadwrn, er enghraifft, gyda’r goryfed sy’n digwydd. Rwy’n credu y gallai’r ddeddfwriaeth hon gael effaith gadarnhaol ar y broblem honno, oherwydd credaf, unwaith eto, y dylem i gyd fod yn gyfarwydd â’r hyn a elwir yn yfed cyn mynd allan, lle mae llawer o brynu alcohol cryf a rhad o archfarchnadoedd, o siopau cornel, a ddefnyddir wedyn cyn mynd allan i dafarndai a chlybiau. Felly, rwy’n credu y gallem ni gael effaith gadarnhaol iawn ar rai o’r problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol hynny o’r mesur hwn.

Ac, wrth gwrs, mae’n cael ei gefnogi’n gryf gan y rhai sydd â phrofiad ac arbenigedd o ddarparu gwasanaethau yn ymwneud â chamddefnyddio alcohol. Darparwyd briff gan Alcohol Concern Cymru, er enghraifft, mewn ymateb i’r datganiad hwn heddiw, a oedd yn gefnogol iawn i’r ddeddfwriaeth ac yn nodi, er enghraifft, eu bod wedi gwneud rhywfaint o siopa yn ddiweddar a chanfod, mewn siopau cornel ac archfarchnadoedd, er enghraifft, 3 litr o seidr cryf ar werth am £3.99, pris uned o 18c; 70 cl o win cyfnerthedig am £2.99, pris uned o 27c; a 70 cl o fodca a gin ar werth am £10, pris uned o 38c. Dyna’r mathau o gynhyrchion sy’n cael eu prynu ac yna mae yfed cyn mynd allan yn dilyn.

Mae Kaleidoscope, er enghraifft, yn fy etholaeth i, sefydliad sy’n darparu gwasanaethau gwerthfawr iawn i’r rheiny sydd â phroblemau camddefnyddio alcohol, unwaith eto yn cefnogi’r ddeddfwriaeth hon yn gryf. Maen nhw’n dweud bod llawer iawn o broblemau yn ymwneud â thrais domestig, damweiniau gyrru ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dirwyn o alcohol cryf a rhad yn eu profiad nhw. Rwy’n credu bod cefnogaeth gan Alcohol Concern Cymru a Kaleidoscope yn arwyddocaol iawn o gefnogaeth ehangach gan yr asiantaethau hynny sydd â’r dasg o ymdrin â’r problemau sy’n codi o werthu alcohol cryf a rhad.

Hefyd, rwy’n credu ei bod yn eithaf diddorol bod Public Health England yn cefnogi isafbris uned, ac rwy’n credu ei fod yn drueni mawr nad yw Llywodraeth y DU yn rhoi mwy o sylw i beth mae Public Health England eisiau ei weld a’r dystiolaeth y mae’n ei darparu.

Felly, yn fyr, Llywydd, rwy’n cefnogi’r ddeddfwriaeth hon yn gryf. Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru a’r Gweinidog yn ei dwyn ymlaen, ac edrychaf ymlaen at ei hynt lwyddiannus drwy’r Cynulliad a’r buddion—iechyd, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol—y bydd yn eu cyflwyno.