3. 3. Datganiad: Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:32, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiynau yna, a hefyd am amlinellu eich cefnogaeth i’r dull penodol hwn trwy ddeddfwriaeth. Cyfeiriais yn gynharach at y gwaith modelu a wnaed, sy’n dangos y byddai yfwyr cymedrol, er enghraifft, ddim ond yn cynyddu eu gwariant gan £2 y ​​flwyddyn, ond y byddent yn lleihau eu defnydd gan chwe uned y flwyddyn. Ac, fel y dywedais, rydym yn cael y gwaith modelu hwnnw wedi’i ddiweddaru i ystyried sefyllfaoedd cyfredol y farchnad a hefyd yn edrych ar y gwahanol wahaniaethau ar bwyntiau gwahanol rhwng 35c a 70c. Rwy’n credu bod cyfle gwych yn y fan yma i weithgynhyrchwyr o ran cynhyrchu diodydd alcohol cryfder is, a byddwn yn sicr eisiau gweld ein diwydiant diodydd gwych yng Nghymru yn manteisio ar y cyfle hwnnw hefyd. Rwyf eisoes wedi cael rhai trafodaethau gyda rhai o’r swyddogion yn yr adran fwyd yma hefyd i drafod pa botensial sydd ar gael i’r diwydiant diodydd yma yng Nghymru, y gwn ein bod ni i gyd yn falch iawn ohono, ac rwy’n siŵr bod cyfleoedd iddyn nhw fod yn arloesol a dychmygus o ran y cyfleoedd sydd ar gael iddynt.

Yr effaith ar y diwydiant, y diwydiant manwerthu—disgwylir i’r isafbris uned arwain at gynnydd cyffredinol mewn refeniw i fanwerthwyr allfasnach a mewnfasnach, a rhagwelir, ar gyfer pob sefyllfa isafbris uned sydd wedi’u modelu gan Brifysgol Sheffield, y byddai mwy o refeniw ar gyfer y diwydiant alcohol yn ei gyfanrwydd. Nid wyf yn siŵr i ba raddau y byddai’n elw annisgwyl, o gofio y byddem yn disgwyl, ar yr un llaw, i rai lefelau o yfed alcohol fod yn gostwng ymhlith yr yfwyr niweidiol a pheryglus hynny, a hefyd yn gyffredinol ymhlith yfwyr cymedrol i raddau llai. Fodd bynnag, credaf y byddai’n gyfle inni edrych, gyda’r modelu wedi’i adnewyddu, i weld beth fyddai’r gwahaniaethau rhwng y 35c a’r 70c hwnnw yn ei olygu ar gyfer y manwerthwyr. Ond, yn y pen draw, deddfwriaeth iechyd y cyhoedd yw hon, er bod y Prif Weinidog wedi cyfeirio yn ei gyfraniad yn y Cwestiynau i’r Prif Weinidog heddiw ei bod hefyd yn darparu cyfleoedd a buddion i dafarnwyr.

Mae’r Sefydliad Astudiaethau Alcohol wedi cyhoeddi adroddiad diweddar, o’r enw ‘Pubs Quizzed: What Publicans Think of Policy, Health Public and the Changing Trade’. Ac roedd hynny’n seiliedig ar ganlyniadau arolwg cenedlaethol o reolwyr tafarndai, a ganfu bod 83 y cant o’r farn bod alcohol archfarchnad yn rhy rhad, a 41 y cant ohonynt o blaid gosod isafbris uned, a chanfod mai dim ond 22 y cant oedd yn erbyn.