3. 3. Datganiad: Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 3:34, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy’n gweld agwedd gwydr hanner gwag rhai Aelodau braidd yn ddiflas. Oherwydd mae’n bwysig iawn ein bod ni’n manteisio ar y cyfle. Mae’r Llywodraeth wedi newid ei safbwynt o fod yn ystyried deddfwriaeth i fanteisio mewn gwirionedd ar y cyfle a’i wneud, ac rwy’n falch iawn o glywed hynny.

Rwy’n croesawu’r ymagwedd—yr ymagwedd bwyllog—gan Angela Burns, ac, yn wir, Dai Lloyd, bod yn rhaid inni symud ymlaen â hyn, oherwydd mae hwn yn fater iechyd y cyhoedd difrifol iawn. Dyma’r lladdwr mwyaf o bobl rhwng 15 a 49 oed, nid cyffuriau, diod. Ac mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â hyn yn bendant. Nid yw’n dderbyniol ei bod yn ddrutach prynu dŵr na phrynu alcohol. Mae hyn yn gwbl hurt. Ac mae’n annerbyniol bod yr archfarchnadoedd yn defnyddio alcohol rhad i ysgogi nifer eu cwsmeriaid. Dylem fod yn gweithredu yn erbyn hyn, ac mae’n rhaid inni ei atal.

Rydym wedi gweld o Ganada—. Yn wahanol i Neil Hamilton—yn amlwg, nid yw faint o alcohol y mae ef yn ei yfed yn mynd i newid o gwbl o ganlyniad i hyn, ond nid yw hynny’n bwysig. Y pwynt yw bod yn rhaid inni geisio sicrhau y bydd pobl yn cael eu dylanwadu gan y pris i brynu llai ohono, ac i beidio â mynd i archfarchnadoedd sy’n anghyfrifol yn y modd y maent yn ei werthu. Felly, rydym wedi gweld o Ganada bod y gweithredu systematig a’r gorfodi cadarn ar yr isafbris alcohol mewn gwirionedd wedi gweithio, gan ei fod wedi gweld gostyngiad sylweddol iawn yn y derbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol. Felly, rwy’n gobeithio y bydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dysgu o brofiad Canada i osgoi’r canlyniadau annisgwyl a esboniodd Dai Lloyd.

Ac mae’n rhaid inni gydnabod bod y pedair cyllideb ddiwethaf wedi torri trethi ar alcohol mewn gwirionedd, nad yw, yn fy marn i, yn mynd i’r cyfeiriad cywir o gwbl. Hoffwn weld adfer y doll codi prisiau. Ond nid yw’r ffaith na allwn ddylanwadu ar yr hyn y mae Senedd y DU yn ei wneud yn rheswm i ni wneud dim. Ac rwy’n gobeithio, ar y cyd, y byddwn yn bwrw ymlaen ac yn cynhyrchu’r ddeddfwriaeth hon i ragori ar ddyddiad cau Deddf Cymru.