3. 3. Datganiad: Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 3:37, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn am y sylwadau yna. Ac wrth gwrs, mae Jenny Rathbone wedi bod yn gefnogol i’r ymagwedd benodol hon ers tro, ac mae wedi lobïo’r Llywodraeth yn gryf iawn ar y mater penodol hwn hefyd. Felly, diolch ichi am y gwaith yr ydych chi wedi bod yn ei wneud wrth baratoi ar gyfer hyn, ar gyfer cyflwyno’r Bil.

Ac rydych chi’n gwneud pwynt pwysig, y credaf sydd wedi ei golli mewn llawer o’r ddadl yr ydym wedi ei chael dros y 48 awr diwethaf ar y mater isafbris uned, sef ei fod yn ymwneud i raddau helaeth ag atal ac ymyrraeth gynnar. Wrth gwrs, soniasoch am bobl ifanc, a dangoswyd bod pobl ifanc, yn enwedig y rheini sy’n yfed yn drwm neu’n aml, wedi bod yn arbennig o sensitif i gynnydd mewn prisiau, ac yn arbennig ceir tystiolaeth sy’n dangos perthynas rhwng prisiau yfed a chyffredinrwydd yfed trwm, ac yn arbennig yfed cyn mynd allan, ymhlith pobl ifanc. Felly, credaf fod y ddeddfwriaeth hon yn rhoi cyfle da i ni gymryd yr ymagwedd ataliol honno a chaniatáu i bobl ifanc ddechrau eu bywydau gyda pherthynas fwy iach gydag alcohol. Oherwydd rydym yn gwybod bod yr ymddygiad iechyd diweddar mewn data arolwg plant oedran ysgol yn dangos y dylai yfed ymhlith pobl ifanc fod yn bryder i ni, gyda 7 y cant o fechgyn a 5 y cant o ferched 11 i 16 oed yng Nghymru yn yfed alcohol o leiaf unwaith yr wythnos. Ac mae’r cyfrannau’n codi wrth i oedran y plant a’r bobl ifanc hynny godi hefyd.

Mae angen inni sicrhau, er mwyn i’r bobl ifanc hynny sy’n dechrau camddefnyddio sylweddau yn fuan yn eu bywydau, bod ymyrraeth gynnar ac adnabod cynnar ar gael iddynt er mwyn cyfyngu ar niwed a lleihau’r siawns o gamddefnyddio alcohol a chyffuriau yn y dyfodol. A dyna un o’r rhesymau pam yr ydym ni’n gweld y darn hwn o ddeddfwriaeth o fewn cyd-destun ehangach y gefnogaeth y dylem ei chynnig i bobl yn yr agenda ataliol honno, a’r agenda gefnogi honno, os a phryd y mae pobl ifanc yn ymwneud â chyffuriau ac alcohol, ac rydym yn sicrhau bod gennym amrywiaeth o wasanaethau ar gael. Er enghraifft, mae gennym wasanaethau cwnsela, lles emosiynol—mae gwasanaethau niwed cudd yn bwysig iawn, ac mae’r rhain yn wasanaethau i blant a phobl ifanc yr effeithir arnynt gan ddefnydd alcohol a chyffuriau mewn modd sy’n achosi problem gan eu rhieni, neu eu gofalwyr, yn y cartref teuluol hefyd.

Ac, wrth gwrs, mae addysg ac atal i bobl ifanc dan 18 oed yn rhan bwysig o’r gwaith a wnawn, fel y mae ymyriadau byr, er enghraifft, therapi ymddygiadol gwybyddol, cyngor ar leihau niwed, ac atal atglafychu hefyd. Felly, mae’n rhaid ei weld o fewn cyd-destun llawer ehangach y gwaith yr ydym ni’n ei wneud.

Soniodd Jenny Rathbone am bwysigrwydd gorfodi hefyd. Rwy’n ddiolchgar iawn i CLlLC am eu cefnogaeth lawn i’r ddeddfwriaeth benodol hon, gan fod y Bil yn darparu’n benodol mai’r awdurdodau lleol fydd y rhai i ddod ag erlyniadau, ymchwilio i gwynion a chymryd camau eraill gyda’r bwriad o leihau troseddau gosod isafbris yn eu hardal. Mae’r ddeddfwriaeth hefyd yn rhoi pwerau mynediad iddynt, pwerau mewn perthynas ag arolygiadau a hefyd bwerau i roi hysbysiadau cosb benodedig i bobl y mae ganddynt reswm dros gredu eu bod wedi cyflawni trosedd gosod isafbris hefyd. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i CLlLC am eu cefnogaeth i’r ddeddfwriaeth hon, a hefyd yr holl sefydliadau hynny a grybwyllodd John Griffiths yn ei gyfraniad a llawer o bobl eraill sy’n gweld budd y dull hwn.