Part of the debate – Senedd Cymru am 3:46 pm ar 24 Hydref 2017.
Yn syml, ni all system addysg fod yn well na safon ei hathrawon. Os ydym ni am lwyddo gyda’n diwygiadau uchelgeisiol mae angen athrawon uchelgeisiol o safon uchel sy’n cael eu cefnogi’n dda arnom ni. Felly, mae’n rhaid inni ddenu a chefnogi'r graddedigion gorau gyda'r cymwysterau gorau i addysgu. Rwy’n pryderu y gall problemau recriwtio sylweddol ar draws y ffin roi camargraff o’r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd yma yng Nghymru. Er hynny, rwy'n derbyn yn llwyr ein bod ni, er hynny, yn wynebu heriau wrth recriwtio i rai pynciau ac mewn rhai lleoliadau daearyddol. Mae hon yn her y mae'n rhaid i ni, ac y byddwn ni, yn ymgyrraedd ati.
Felly, rwyf wedi penderfynu cyhoeddi ein cymhellion ar gyfer blwyddyn academaidd 2018-19 yn gynnar. Rydym ni’n cynnig eglurder a sicrwydd yn ein hymrwymiad i'n hathrawon mwyaf newydd. Mae'r cymhellion hyn yn cefnogi blaenoriaethau cenedlaethol allweddol, gan gynnwys ffiseg, cemeg, mathemateg, Cymraeg ac ieithoedd tramor modern. Rydym ni hefyd erbyn hyn yn cynnwys gwyddoniaeth gyfrifiadurol fel pwnc blaenoriaeth sy'n gymwys ar gyfer y lefel uchaf o gymhelliant. Os ydym ni, fel Llywodraeth, eisiau cyflawni ein huchelgeisiau yn strategaeth 'Cymraeg 2050', yna mae angen inni gynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu'n ddwyieithog, trwy gyfrwng y Gymraeg ac addysgu'r Gymraeg fel pwnc.
Er bod ein cyfradd recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg cynradd yn cyfateb ar y cyfan i’r hyn y dylai fod, os ydym ni eisiau cyflawni ein targedau ar gyfer addysg uwchradd, mae angen i ni gynyddu nifer y bobl yr ydym ni’n eu recriwtio bob blwyddyn i leoedd ar gyrsiau addysg gychwynnol i athrawon cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd y targed ar gyfer cynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg uwchradd erbyn 2021. Felly, rwyf hefyd yn cyhoeddi cymhelliant cyfrwng Cymraeg newydd heddiw a fydd yn targedu myfyrwyr sy’n astudio ar gyfer tystysgrif addysg i raddedigion mewn addysg uwchradd ac sy’n hyfforddi i addysgu pob arbenigrwydd pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg neu yn ddwyieithog.
Wrth gwrs, mae ein gweithlu addysgu yn cynnwys nifer o swyddogaethau gwahanol, ac mae gan bob un ohonyn nhw swyddogaeth hanfodol wrth godi safonau. Mae athrawon cyflenwi yn rhan arwyddocaol a phwysig o'n gweithlu addysgu. Mae’n rhaid inni sicrhau bod ein hathrawon cyflenwi yn rhan wybodus o weithlu ehangach yr ysgol a’u bod yn barod ac yn alluog i gefnogi ein cenhadaeth genedlaethol o ddiwygio addysg. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod lle i wella yn y modd y mae ein system ar hyn o bryd yn cyflogi, rheoli a chefnogi athrawon cyflenwi yng Nghymru. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod gan athrawon sy'n gweithio'n hyblyg yn y modd hwn ddigon o adnoddau, y cânt eu gwobrwyo'n briodol, a’u cefnogi a'u hintegreiddio i'r proffesiwn addysgu. Felly, rwy'n cydnabod bod angen i'n system fod yn fwy hyblyg, arloesol a chynhwysol yn ein dull o ymdrin ag absenoldeb athrawon a sicrhau bod y rhai sy'n gweithio yn y modd hwn yn cael eu cefnogi yn yr un modd ag athrawon parhaol.
Rwyf heddiw yn cyhoeddi cefnogaeth o £2.7 miliwn ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol a’r blynyddoedd academaidd nesaf er mwyn ariannu 15 awdurdod lleol i gefnogi trefniadau clystyrau cyflenwi yn yr ysgol mewn 86 o ysgolion. Bydd y trefniant clwstwr hwn yn cefnogi penodi oddeutu 50 o athrawon cymwysedig ychwanegol i weithio gyda chlystyrau ysgol, gan lenwi swyddi athrawon sy’n absennol, meithrin gallu a chefnogi gwelliannau ysgol ehangach a deilliannau dysgwyr. Mae'r dull hwn yn buddsoddi mewn, yn datblygu ac yn meithrin athrawon sydd wedi cymhwyso’n ddiweddar, a hefyd yn sicrhau bod digon o ddarpariaeth mewn ysgolion i ddiwallu’r galw am ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol ac athrawon arbenigol eraill, gan gynnwys athrawon cyfrwng Cymraeg.
Drwy'r dull arloesol hwn, rydym ni’n rhagweld y gellir defnyddio arbedion a wneir yng nghyllidebau cyflenwi ysgolion i ailfuddsoddi yn y dyfodol er mwyn creu newid a gwella ysgolion mewn modd mesuradwy. Rwyf o’r farn y bydd y dull hwn yn meithrin gallu yn y system i gefnogi ein hysgolion i reoli eu hanghenion cyflenwi mewn modd mwy cydlynol, cydweithredol a chynaliadwy. Rwy'n falch ein bod ni’n gallu bwrw ymlaen ag adroddiad tasglu y model cyflenwi yn y ffordd arloesol hon a chydweithio ag awdurdodau lleol i gefnogi cysondeb, llwybrau gyrfa a bodloni anghenion cymhleth mewn gwahanol ranbarthau.
Dirprwy Lywydd, mae gan systemau addysgol gorau’r byd addysgwyr egnïol a brwdfrydig sy'n teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu. Rydym ni wedi hen ddechrau ar y daith yng Nghymru drwy ddatblygu a chynnig proffesiwn o ansawdd uchel sy’n barod i godi safonau yn gyffredinol. Rwy'n ffyddiog bod y cynigion a gyhoeddir heddiw yn dangos ymrwymiad eglur a chlir i'n gweithlu, yn y presennol a’r dyfodol, wrth iddyn nhw gyflawni ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau a lleihau'r bwlch cyrhaeddiad. Diolch yn fawr.