4. 4. Datganiad: Recriwtio Athrawon

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 3:51, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

A gaf i groesawu'r datganiad? Rydym ni mewn difrif calon yn rhannu nod Llywodraeth Cymru i sicrhau y gellir hyrwyddo addysgu fel proffesiwn boddhaus a gwerthfawr gyda statws iddo, ac mae'n yrfa yr ydym ni am annog mwy o bobl i’w dilyn. Mae'n arbennig o bwysig, y datganiad hwn, o gofio'r datganiadau yr ydym ni wedi'u clywed gan Undeb Cenedlaethol yr Athrawon ac eraill eleni, sydd wedi awgrymu bod recriwtio athrawon yn ymylu ar fod yn argyfwng. Dyna oedd eu geiriau yn ôl ym mis Mehefin. Fe wyddom ni ein bod ni wedi cael nifer o flynyddoedd bellach lle yr ydym ni, fel cenedl, wedi methu’r targedau recriwtio athrawon a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Yn wir, roeddem ni draean islaw'r targed am yr ail flwyddyn yn olynol o ran athrawon uwchradd, a chredaf fod hynny'n peri pryder i bob un ohonom ni.

Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn synnu braidd nad oedd cyfeiriad at faich gwaith athrawon yn eich datganiad. Fe wyddom ni o'r arolwg gweithlu addysg genedlaethol, a gynhaliwyd yn gynharach eleni, fod 78 y cant o'r rheini a ymatebodd i’r arolwg hwnnw'n dweud mai'r baich gwaith oedd yr agwedd leiaf boddhaus o'u gwaith. Rydym ni hefyd yn gwybod o'r arolwg hwnnw bod traean o athrawon yng Nghymru yn ystyried gadael y proffesiwn o fewn y tair blynedd nesaf. Maen nhw’n ystadegau hynod frawychus.

Nawr, rwy’n gwybod, i fod yn deg â chi, Ysgrifennydd y Cabinet, eich bod wedi cyhoeddi yn gynharach eleni eich bod yn bwriadu treialu rhai o gynigion rheolwyr busnes ledled Cymru er mwyn lleihau'r baich gwaith diangen, a'ch bod wedi cyhoeddi rhai canllawiau arfer da, fel petai, i’w gwneud hi’n glir i bobl beth mae angen ac nad oes angen iddyn nhw ei wneud. Credaf fod hynny'n gam cadarnhaol ymlaen, ond rwyf yn credu bod yn rhaid cydnabod bod y llwyth gwaith yn rhywbeth sy’n rhwystro rhai pobl rhag mentro i’r proffesiwn hwn yn llwyr, ac, yn amlwg, mae angen i ni wneud mwy, er gwaetha’r ffaith bod y llwyth gwaith yn cyfrannu at yr angen am fwy o athrawon cyflenwi, oherwydd absenoldebau heb eu cynllunio yn y gweithlu addysgu. Felly, byddai'n dda pe gallech chi roi diweddariad i ni ynglŷn â rhywfaint o'r gwaith yr ydych chi'n ei wneud ynghylch hynny.

Sylwaf eich bod wedi sôn y bydd y cymhellion ar gyfer y flwyddyn academaidd 2018-19 yn cael eu cyhoeddi'n gynnar. Dyna rywbeth yr wyf yn ei groesawu. Rwy'n falch iawn o weld bod Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried ychwanegu gwyddoniaeth gyfrifiadurol at y rhestr o bynciau blaenoriaeth. Credaf fod hynny'n hollol hanfodol hefyd, yn enwedig os ydym ni eisiau gweithlu sy'n addas ar gyfer y dyfodol, ac fe wyddoch chi fod hynny’n rhywbeth yr ydym ni wedi siarad amdano y tu mewn a’r tu allan i’r Siambr hon yn y gorffennol—yr angen i arfogi pobl ifanc i wneud codio a phethau felly, fel y gallwn ni sicrhau bod gan fusnesau y bobl sydd â'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw. Rwy'n falch iawn hefyd o weld y bydd cymhellion newydd er mwyn denu siaradwyr Cymraeg i'r gweithlu. Rydych chi yn llygad eich lle, os ydym ni’n mynd i gyrraedd y targed uchelgeisiol hwnnw o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae'n rhaid i ni gael gweithlu sy'n mynd i gyflawni'r pethau hyn yn ein hysgolion ac annog y defnydd o’r iaith o fewn ac y tu allan i furiau’r ysgol.

Sylwaf fod Lloegr eisoes wedi cyhoeddi ei chymhellion ar gyfer blwyddyn academaidd 2018-19. Ni allaf weld eich bod chi wedi cyhoeddi dogfen heddiw ynglŷn â'r cymhellion, ac ni allaf weld unrhyw beth ar wefan Llywodraeth Cymru. Felly, byddai'n ddefnyddiol, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech chi ddweud wrthym ni’n union beth yw'r cymhellion hynny, oherwydd rwyf am ohirio rhoi barn ar ba un a ydyn nhw’n ddigon deniadol i ddenu pobl i'r proffesiwn, oherwydd mae'n amlwg mai’r maen prawf fydd sut maen nhw’n cymharu â chymhellion mewn mannau eraill yn y DU. Felly, byddai gennyf ddiddordeb gweld y cymhellion hynny.

At hyn, a wnewch chi hefyd ddweud wrthym ni a fyddwch chi'n adolygu'r targedau ar gyfer recriwtio i'r proffesiwn? Rydym ni’n gwybod inni fethu â chyrraedd targedau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, felly mae'n amlwg bod angen targedau arnom ni sy'n mynd i’n herio ond sydd hefyd yn realistig a bydd hynny'n sicrhau bod gennym ni weithlu sy'n bodloni gofynion system addysg Cymru.

A allwch chi hefyd ddweud wrthym ni a fyddwch chi'n derbyn cyngor Cyngor y Gweithlu Addysg ac eraill ynglŷn â’u galwadau am ryw fath o ymgyrch genedlaethol gynhwysfawr i recriwtio athrawon? Nawr, fe wn i fod peth gwaith yn cael ei wneud rhwng y consortia ar hyn o bryd. Ceir rhywfaint o gydweithio, ceir rhywfaint o weithgarwch, ond nid oes ymgyrch genedlaethol gynhwysfawr i recriwtio athrawon. Pan fydda i’n mynd i'r sinema, hyd yn oed, y dyddiau hyn, yn aml iawn fe welwch chi hysbysebion cyn i'r ffilmiau ddechrau yn annog pobl i fynd i'r proffesiwn addysgu, ac maen nhw’n hysbysebion sy'n ceisio denu pobl i system addysgu Lloegr, nid i un Cymru—hyd yn oed mewn sinemâu yng Nghymru, ac rwy’n gweld hynny braidd yn rhyfedd. Felly, tybed a allwch chi ddweud wrthym ni a fyddwch chi'n gwneud unrhyw beth ynglŷn â’r agwedd honno.

Un o'r pethau yr wyf i hefyd wedi sôn wrthych chi amdano yn y gorffennol ac sydd wedi bod yn destun trafodaeth ymhlith y pleidiau yn hanesyddol yw potensial athrawon wedi eu hyfforddi dramor a dod â'r rheini i'r proffesiwn yma yng Nghymru. Fe wyddoch chi nad oes ganddyn nhw statws athro cymwysedig awtomatig ar hyn o bryd, hyd yn oed os ydyn nhw o systemau addysg cymharol o ran safonau'r systemau addysg hynny. Mae hynny’n rhywbeth sy'n berthnasol yn unig yng Nghymru—nid yn unrhyw ran arall o'r DU—ac mae'n rhwystr i gannoedd o bobl a allai fod eisiau gweithio yn y proffesiwn yma yng Nghymru nad ydyn nhw’n cael y cyfle i wneud hynny ar hyn o bryd heb oresgyn rhwystrau ychwanegol er mwyn gallu gwneud hynny.

Gan droi at y £2.7 miliwn yr ydych chi wedi ei gyhoeddi heddiw—cyhoeddiad calonogol—i gefnogi'r trefniadau clwstwr, rwy'n synnu y bydd cyn lleied o ysgolion yn cymryd rhan yn y trefniadau clwstwr hynny. Mae gennym ni dros 1,500 o ysgolion yma yng Nghymru, ac mae'r arian hwnnw'n targedu dim ond 86, i’w hannog i gydweithio. Fe wnaethoch chi ddweud y bydd hynny ar waith mewn 15 awdurdod lleol. Beth am y saith awdurdod lleol arall? Pa awdurdodau lleol nad ydynt yn cael eu cynnwys? Pam cyn lleied o ysgolion? Fe wyddom ni fod gan y trefniadau clwstwr hyn botensial enfawr. Byddwn wedi gobeithio y byddai’r rhaglen yn un fwy o ran ceisio manteisio ar y cyfle sy’n dod yn sgîl y trefniadau hynny, felly efallai y gallwch chi ddweud ychydig wrthym ni ynglŷn â hynny.

Ac yn olaf, ynglŷn ag athrawon cyflenwi—