4. 4. Datganiad: Recriwtio Athrawon

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 3:59, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i Darren Millar am yr hyn a gredaf oedd yn groeso eangfrydig i'r datganiad heddiw a rhestr hir o gwestiynau, y byddaf yn ceisio eu hateb mor gyflym ag y gallaf.

Ni chredaf fod gennym ni argyfwng. Caiff naw deg y cant o leoedd dysgu mewn ysgolion cynradd eu llenwi yn unol â’r targedau. Ond rydych chi'n iawn, gydag addysg uwchradd mae gennym ni heriau penodol, ac yna mae gennym ni heriau penodol mewn rhai pynciau addysg uwchradd—gyda rhai cyrsiau. Rydym ni’n recriwtio'n llawn mewn pynciau eraill. A dyna yw pwrpas y cymhellion.

Fodd bynnag, mae Darren hefyd yn iawn; nid yw dysgu yn ymwneud â’r cyflog yn unig, ac mewn gwirionedd mae'r holl arolygon yn dangos, pan fo’r rhan fwyaf o athrawon yn mynd i'r proffesiwn, nad yr unig gymhelliant yw ennill arian mawr. Yr hyn sy’n eu cymell nhw yw bod arnyn nhw eisiau gweithio gyda phlant, eisiau rhannu’r brwdfrydedd sydd ganddyn nhw am eu pynciau, a gwneud y gorau y gallan nhw dros y system addysg. Felly, mae materion yn ymwneud â llwyth gwaith yn bwysig. Cyfeiriodd Darren at ein rheolwyr busnes a'n canllaw arfer da. Rwyf ar fin ysgrifennu at bob pennaeth eto i sicrhau bod y canllaw arfer da yn cael ei ddefnyddio yn eu hysgolion, ac rydym ni’n gobeithio cyhoeddi prosiectau ychwanegol ynglŷn â llwyth gwaith wrth i ni symud ymlaen. Ond mae a wnelo hyn hefyd â chefnogi'r proffesiwn a sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn cael y cyfle i ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus sy'n eu galluogi i fod y gorau y gallan nhw fod. Fe wyddoch chi ein bod ni’n datblygu ffordd genedlaethol o fynd i’r afael â DPP, fel bod athrawon yn cael hynny ble bynnag y maen nhw yng Nghymru. Fe wyddom ni hefyd, weithiau, nad yw ein harweinyddiaeth efallai mor dda ag y gallai fod. Mae arweinyddiaeth yn hollbwysig wrth reoli llwyth gwaith a sicrhau bod ysgolion a cholegau yn lleoedd deniadol i weithio ynddynt. Dyna pam yr ydym ni’n datblygu ein hacademi arweinyddiaeth i sicrhau bod gan ein harweinwyr ysgol y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i fod yn rheolwyr effeithiol ar eu sefydliadau.

Y prif newidiadau i'r cymhellion, o’u cymharu â’r llynedd—. Mae'r ffigurau yr un fath, sef £20,000 ar gyfer gradd dosbarth cyntaf mewn mathemateg, ffiseg, cemeg, Cymraeg, ond y pwnc ychwanegol ymhlith y rhain yw gwyddoniaeth gyfrifiadurol. Hefyd, rydym ni’n newid—. Roedd rhywfaint o gyfyngiadau gwrthnysig, afresymegol ar y bobl hynny oedd â Doethuriaeth a graddau Meistr. Felly, pe byddai gennych chi radd 2:1 ond bod gennych chi Ddoethuriaeth, neu pe byddai gennych chi radd 2:1 a bod gennych chi radd Meistr, dim ond y gyfradd 2:1 fyddech chi’n ei chael, sy'n is na'r gyfradd dosbarth cyntaf, nad oedd mewn gwirionedd, yn rhesymegol, yn gwneud llawer o synnwyr. Felly, rydym ni yn mynd i'r afael â hynny y tro hwn. Felly, os oes gennych chi radd dosbarth cyntaf neu Ddoethuriaeth neu radd Meistr, byddwch yn derbyn y swm mwyaf ar gyfer y pynciau hynny. Ar gyfer pynciau blaenoriaeth ganolig bydd cymhelliant o £15,000. Yr hyn sy'n bwysig iawn i'w gofio, Darren, yw mai pedwar cymhelliant yw’r rhain ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, 2018-19, lle bydd y myfyrwyr hyn hefyd yn gallu ymgeisio am ein pecyn Diamond cyflawn. Mae myfyrwyr TAR yn eithriad i astudiaethau ôl-raddedig, felly mae'n bosib y bydd y myfyrwyr hyn yn gallu ymgeisio am becyn cymorth Diamond llawn ochr yn ochr â'r cymhellion yr ydym ni yn eu cyflwyno heddiw.

Rydym ni’n gweithio ar hyn o bryd ar—. Fe wnaethoch chi ofyn a fydd targedau yn aros yr un fath. Rydym ni’n ceisio creu sefydlogrwydd i'n sefydliadau sy'n cynnig y cyrsiau hyn ar hyn o bryd, ond rydym ni’n gweithio ar offeryn cynllunio gweithle newydd i gael data gwell a gallu dadansoddi anghenion ein gweithlu yn well yn y dyfodol, ac rwyf yn disgwyl y byddwn ni’n newid ein targedau o ran pryd y bydd y gwaith hwnnw wedi'i gwblhau, ac rwy'n gobeithio y gwneir hynny yn 2019— y bydd yr offeryn newydd hwnnw ar gael ac yn cyd-fynd â datganoli tâl ac amodau gwaith athrawon. Mae yna gyfres gyfan o bethau y mae angen cyswllt rhyngddynt.

Mae ymgyrch genedlaethol ar droed. Mae'n cael ei hariannu ar y cyd gan yr holl gonsortia rhanbarthol. Ei henw yw Darganfod Addysgu. Rydym ni’n trafod yn gyson a yw’r amgylchiadau a’r adnoddau ar gael ar gyfer ymgyrch fwy. Rwyf hefyd yn edrych yn barhaus ar ba un a ydym ni’n creu rhwystrau artiffisial i athrawon o wledydd eraill i ddod i ddysgu yn y wlad hon. Y tro diwethaf i Lywodraeth Cymru ymgynghori ar hyn, barn gref iawn yr ymatebion i'r ymgynghoriad oedd y dylai'r cyfyngiadau hynny fod yn berthnasol. Ond, yn amlwg, nid ydym ni eisiau rhwystro pobl a all wneud cyfraniad i'n hystafelloedd dosbarth, a byddwn ni’n adolygu hynny. Hynny yw, wrth gwrs, os gallan nhw fynd drwy system fewnfudo Llywodraeth y DU a dod i fyw yma a gweithio yma yn y dyfodol.

Rydych chi’n hollol gywir ynghylch yr angen i'r consortia gynnig datblygiad proffesiynol parhaus i'n hathrawon cyflenwi. Cyhoeddwyd adroddiad y tasglu athrawon cyflenwi ym mis Chwefror. Rydym ni wedi sefydlu grŵp annibynnol i oruchwylio’r modd y caiff yr argymhellion hynny eu gweithredu. Mae'r grŵp wedi cyfarfod dair gwaith, ac rydym ni’n gwneud cynnydd. Mae'r model cyflenwi yr ydym ni’n sôn amdano heddiw yn argymhelliad sy'n cael ei weithredu. Rydym ni wedi sicrhau bod Hwb ar gael i athrawon cyflenwi, nad oedd yn bosib o’r blaen, ac rydym ni’n gweithio gyda'r consortia i sicrhau bod modd i’r athrawon cyflenwi fanteisio ar ddatblygiad proffesiynol parhaus.

O ran y cynllun arbrofol, gadewch i mi ddweud: mae hyn yn arwydd o'm bwriad. Roedd y cynllun arbrofol yn argymhelliad uniongyrchol gan y grŵp gorchwyl a gorffen, ond mae'n rhoi cyfle inni ymchwilio i hyn fel model amgen i recriwtio a chyflogi athrawon cyflenwi, wrth symud ymlaen. Y 15 awdurdod lleol a ddewiswyd yw 15 o'r 16 a fynegodd ddiddordeb. Ni allwn ni wneud hyn ar ein pennau ein hunain. Mae’n rhaid inni ei wneud mewn partneriaeth â llywodraeth leol ac ysgolion, oherwydd bod ysgolion yn cael eu rheoli’n lleol. Ni allwn ni orfodi hyn arnyn nhw. Felly, fe dderbyniwyd cais 15 o'r 16 awdurdod a fynegodd diddordeb, a dyma nhw, os yw pobl eisiau gwybod, ac os yw'r Dirprwy Lywydd yn caniatáu imi eu rhestru: Sir Benfro, Torfaen, Bro Morgannwg, Wrecsam, Powys , Rhondda Cynon Taf, Castell-nedd Port Talbot, Sir Fynwy, Merthyr, Conwy, Sir Gaerfyrddin, Caerdydd, Caerffili, Blaenau Gwent a Chasnewydd. Felly, mae gennym ni drawstoriad mawr o awdurdodau trefol a gwledig, gogledd a de, dwyrain a gorllewin, a chymysgedd o ysgolion. Felly, mae gennym ni glystyrau cynradd, mae gennym ni rai uwchradd, ond mae gennym ni ysgolion 3-19 oed hefyd. Ni allwn ni orfodi hyn ar bobl; mae'n rhaid inni ei wneud drwy gydweithio â’r rheini sy’n barod i wneud hynny. Mae'n rhaid inni ei wneud ar y cyd, ac mae'r awdurdodau lleol hynny, rwy'n falch iawn o ddweud, wedi camu i’r adwy ac yn dangos gweledigaeth wirioneddol ac wedi archwilio'r posibilrwydd y gall hyn ddod â manteision yn ei sgîl. Ac mae’r manteision hynny nid yn unig i'r athro cyflenwi. Yr hyn sy'n hollbwysig ynglŷn â hyn yw bod manteision i'r plant, oherwydd bydd ganddyn nhw wynebau cyfarwydd. Felly, pan fo’u hathro dosbarth yn absennol neu'n mynd ar gwrs hyfforddi, byddan nhw’n gweld wyneb cyfarwydd yn eu hysgol, a bydd hynny'n cael effaith ar addysgu a dysgu'r plant hynny.