Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 24 Hydref 2017.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad? Rwyf innau hefyd yn teimlo ei bod hi braidd yn od nad oedd yna ddim manylion ynglŷn â’r cymhellion a oedd yn cael eu cyhoeddi heddiw, ond diolch i chi am roi amlinelliad i ni yn eich ymateb. Byddai diddordeb gyda fi wybod sut mae’r cymhellion newydd yma yn mynd i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig. Mi wnaethoch chi roi rhyw amlinelliad i ni, ond mi fyddai hynny’n ddifyr oherwydd ein bod ni mewn sefyllfa gystadleuol yn aml iawn pan mae’n dod i rai o’r pethau yma. Rwyf innau hefyd eisiau croesawu’r cymhelliad ychwanegol yr ŷch chi’n ei gynnig o safbwynt athrawon sy’n medru dysgu pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg, oherwydd mae lefel recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg yn y flwyddyn 2015-16, y flwyddyn ddiwethaf y mae gyda ni ffigurau ar ei chyfer, ar ei hisaf ers 2008-09. Felly, rhowch chi hynny ochr yn ochr ag uchelgais y Llywodraeth o safbwynt ble yr ŷm ni’n mynd ar nifer y siaradwyr Cymraeg ac mae’n amlwg bod angen bod yn rhagweithiol ar y ffrynt yna, ac rwy’n croesawu hynny yn fawr iawn.
Mi oedd eich datganiad chi’n sôn bod angen edrych hefyd ar ardaloedd gwledig yn benodol, ond nid wyf i’n gweld cyfeiriad at gymhellion yn y cyd-destun hynny. Efallai y gallech chi roi ychydig o sylwadau i ni ynglŷn â sut yr ŷch chi’n gweld modd o gymell pobl i edrych i’r cyfeiriad penodol yna. Rŷch chi hefyd wedi dweud yn y gorffennol fod yna ddiffyg amrywiaeth ar draws y gweithlu dysgu, ac mi ddywedoch chi wrth y pwyllgor ychydig yn ôl fod yna job o waith sydd angen ei wneud i fynd i’r afael â hynny gan y Llywodraeth. Nid oes dim byd yn eich datganiad chi ynglŷn â hynny, ac efallai y byddwch chi’n gallu rhoi diweddariad i ni o’r hyn yr ŷch chi wedi bod yn ei wneud i geisio cyflwyno mwy o amrywiaeth yn y gweithlu dysgu yng Nghymru.
Mae’r grŵp arbenigol, yr ‘ITE expert forum’, hefyd wedi bod yn edrych ar adolygu tystiolaeth o’r arfer gorau am lwybrau amgen i mewn i ddysgu. Rŷch chi wedi cyffwrdd â hyn unwaith neu ddwy yn y gorffennol, ond byddai’n dda cael diweddariad ac efallai cael gwybod pryd y gallwn ni ddisgwyl rhywbeth mwy cynhwysfawr o gwmpas y maes yna.
Mae yna nifer o rwystrau, wrth gwrs, i recriwtio athrawon newydd. Nid oes neb yn honni bod yn un ateb—mae angen cyfres o atebion, mewn gwirionedd. Ond un sy’n codi ei ben yn gyson yw’r gofyniad i gael gradd B mewn TGAU mathemateg. Nawr, rwy’n gwybod ein bod ni’n annog ac yn awyddus i godi safon yr addysgwyr sydd gennym ni yng Nghymru, ond pan mae rhywun fel John Furlong ei hunan yn codi cwestiwn ynglŷn â gwerth hynny yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, mae yn bwysig, rwy’n meddwl, ein bod ni jest yn stopio i edrych ar hynny. A byddwn i jest yn gofyn i chi ddweud: a ydych chi yn credu bod newid hwnnw yn y ‘mix’ o gwbl, neu a ydych chi’n gwbl hapus bod hynny’n mynd i aros yn yr hirdymor?
Rŷm ni wedi cyffwrdd â biwrocratiaeth, felly af i ddim ar ôl hynny.
O safbwynt yr athrawon cyflenwi, yn sicr rwy’n croesawu’r cyhoeddiad ynglŷn â’r trefniadau cyflenwi mewn clwstwr fel cam i’r cyfeiriad iawn. Fel yr ŷch chi’n dweud eich hunan, peilot yn amlwg fydd llawer o’r gwaith yma. Roeddwn innau hefyd yn rhannu rhai o’r cwestiynau ynglŷn â’r niferoedd isel o athrawon a’r niferoedd isel o ysgolion a oedd yn cael eu cynnwys yn hyn. Ond, wrth gwrs, rydym ni hefyd yn sôn fan hyn am 50 o athrawon newydd gymhwyso, tra bo gennym 4,000 o athrawon cyflenwi yng Nghymru, a nifer o’r rheini yn sicr yn teimlo nad ydyn nhw, efallai, wedi cael y gefnogaeth a’r statws y bydden nhw yn eu dymuno. Ac rydw i wedi codi gyda chi ar nifer o achlysuron yn ddiweddar y problemau o gwmpas tâl ac amodau, ac af i ddim nôl dros y tir yna, ond yn sicr mae rôl yr asiantaethau preifat yma, sydd wedi cynyddu yn sylweddol o ryw ddwsin rai blynyddoedd yn ôl i bron i 50 erbyn hyn, wedi peri tipyn o gonsérn i nifer sy’n gweithio yn y sector.
Felly, yr hyn y liciwn i ofyn yw: yn amlwg, peilot yw hwn—mae’n rhoi rhyw flas ar y cyfeiriad, efallai, mae’r Llywodraeth yn symud tuag ato fe—ond ble ŷch chi’n gweld y ddarpariaeth, a pha fath o fodel ŷch chi’n gweld yn y tymor hir? A ydy hyn yn gnewyllyn o’r model y byddech chi’n hoffi ei weld yn cael ei ddatblygu ar draws Cymru yn y pen draw, neu a ydych chi’n dal i fod yn edrych ar fodelau amgen yn ogystal â’r hyn sydd wedi cael ei gyhoeddi hefyd?
Rŷm ni wedi clywed, wrth gwrs, fod yn rhaid datganoli tâl ac amodau i athrawon cyn bo modd, efallai, mynd i’r afael i’r graddau y byddem ni i gyd yn hoffi mynd i’r afael â rhai o’r materion yma. Ond byddwn i’n falch petasai chi’n cadarnhau mai’ch bwriad chi yn y pen draw fydd mynd i’r afael, unwaith ac am byth, â’r mater o dâl ac amodau i athrawon cyflenwi a rôl y sector breifat pan fyddwch chi’n teimlo bod gennych chi’r pwerau i wneud hynny.
A jest i gloi, rŷch chi’n dweud yn eich datganiad bod y gweithlu dysgu yn cynnwys pobl mewn nifer o rolau gwahanol, oll yn chwarae rhan allweddol wrth godi safonau, ond nid oes yna ddim sôn am gynorthwywyr dosbarth wedi bod cymaint ag y byddwn i’n licio yn y drafodaeth gyffredinol yma am recriwtio athrawon, a recriwtio a chadw cynorthwywyr dosbarth, a dweud y gwir, oherwydd maen nhw yn elfen bwysig o’r glud sy’n dal y gyfundrefn addysg at ei gilydd yn y dyddiau sydd ohoni, lle mae llawer o bwysau ar y system. Mae yna lawer yn teimlo nad yw’r grŵp yma chwaith wedi cael y gydnabyddiaeth y maen nhw yn ei haeddu, ac yn sicr y tâl a’r amodau y maen nhw yn eu haeddu. Byddwn i’n falch o glywed beth yw’ch neges chi iddyn nhw hefyd, oherwydd mae’n bwysig ein bod ni’n cofio, am bob un athro, mae yna un cynorthwyydd dosbarth yng Nghymru, a byddwn i’n licio gwybod pa waith ŷch chi a’r Llywodraeth yn ei wneud o ran recriwtio a chadw'r gweithlu yn y sector benodol honno.