4. 4. Datganiad: Recriwtio Athrawon

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:19 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 4:19, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Hefin. Fel y dywedais i, rydym ni ar hyn o bryd wrthi’n ystyried pa mor ddichonadwy fyddai system baru genedlaethol i gyd-fynd â datganoli telerau ac amodau. Yr hyn sy'n bwysig iawn yw ein bod ni’n gwneud hyn mewn trafodaeth gyda'r undebau eu hunain, fel eu bod nhw’n rhan annatod o'r broses hon wrth symud ymlaen. Mae gennym ni fodel partneriaeth gymdeithasol yma yn Llywodraeth Cymru, lle yr ydym ni’n gweithio yn yr ysbryd cydweithredol hwnnw sy’n bodoli rhyngom ni fel Llywodraeth, llywodraeth leol fel y cyflogwyr ac ysgolion fel y cyflogwyr, yn ogystal â'r undebau.

Unwaith eto, mae'n rhaid i mi ddweud: Nid wyf i’n cyflogi athrawon ac, felly, nid fy nghontract i yw contract ‘New Directions’, nid contract Llywodraeth Cymru mohono, ac nid oes dim sy'n gorfodi penaethiaid i ddefnyddio'r asiantaeth honno, neu, yn wir, unrhyw un o'r asiantaethau eraill sydd ar gael. Pa un a fydd y model hwnnw'n parhau i fodoli ar ôl i ni orffen ein hastudiaeth o ddichonoldeb ac ystyried dewisiadau polisi, wel, byddai hynny'n fater iddyn nhw; penderfyniad masnachol iddyn nhw yw hwnnw. Ond yr hyn sy'n bwysig i ni yw bod gennym ni ddewis arall ar gael i athrawon, penaethiaid, ysgolion ac awdurdodau lleol wrth symud ymlaen, a bod y gwaith hwnnw'n digwydd yn ymarferol ar hyn o bryd, oherwydd rwy’n cydnabod y pryderon a fynegwyd, ac mae’r datganiad heddiw ynglŷn ag Athrawon Newydd Gymhwyso yn ddatganiad o'm bwriad.