4. 4. Datganiad: Recriwtio Athrawon

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 4:18, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Mae hwnna'n ateb trylwyr iawn. Rwy’n croesawu’n fawr, mae'n rhaid i mi ddweud, y ffaith y bydd y system ganolog yn cyd-fynd â datganoli cyflogau ac amodau athrawon. Roeddwn yn synnu na chafodd ei grybwyll yn natganiad i'r wasg Lywodraeth Cymru, oherwydd credaf fod hynny'n fater sylfaenol a fydd o fantais i athrawon cyflenwi yn yr amgylchiadau hyn. Felly, rydych chi yn cydnabod, yr hyn oedd wrth wraidd fy nghwestiwn, y bydd datganoli cyflogau ac amodau yn eich galluogi i gymryd camau pellach. Felly, a yw'r wybodaeth a fydd yn arwain at sefydlu'r system baru yn deillio o sefydlu'r system glwstwr yr ydych chi'n arbrofi gyda hi? Ai o’r fan yna y mae hi’n deillio?

Y mater arall yr hoffwn i gyfeirio ato, y mae etholwyr wedi dwyn fy sylw ato, yw eu bod nhw'n bryderus iawn am ‘New Directions’, sef y corff a ddewisiwyd i ddarparu athrawon cyflenwi. A fydd y fframwaith cyfredol hwnnw yn cael ei adnewyddu pan ddaw’r contract i ben? A pha gynlluniau yn y dyfodol sydd gan y Llywodraeth ynglŷn â chynnwys asiantaethau wrth ddarparu athrawon cyflenwi?