5. 5. Datganiad: Y Rhaglen Tai Arloesol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 4:30, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae 'Ffyniant i Bawb' yn egluro bwriad y Llywodraeth hon i wella ffyniant a lles unigolion, teuluoedd a chymunedau. Mae tai yn un o'r pum maes blaenoriaeth sy’n drawsbynciol a nodwyd yn y strategaeth ac mae’n sail i gyflawni nifer o amcanion strategol eraill. Mae angen cartrefi o ansawdd da ar bobl ar hyd eu hoes. Maen nhw’n rhoi mangre i blentyn dyfu a ffynnu ynddi. Mae tai gweddus yn lleihau straen ar unigolion a theulu, ac mae adeiladu ac adnewyddu cartrefi yn creu cyfleoedd enfawr o ran swyddi a hyfforddiant. Mae angen lle i fyw ar bobl hŷn i gael ymddeoliad hwyliog a chysurus. Ac mae angen y cartrefi hyn o ansawdd da ar bobl ar unwaith.

Cynyddu'r nifer sydd ar gael, cyfradd eu cyflenwi, eu fforddiadwyedd, gan leihau eu heffaith ar yr amgylchedd, yw’r heriau amlwg. Mae ein nod o 20,000 o dai fforddiadwy yn ganolog i gynyddu'r cyflenwad ledled yr holl ddeiliadaethau, ac rwy’n awyddus i wneud mwy i helpu pobl beth bynnag fo’u hoedran a beth bynnag fo’u hamgylchiadau. Yn y bôn, rwy'n bwriadu dod o hyd i ffyrdd newydd nid yn unig o ran cynyddu nifer y cartrefi sydd ar gael, ond hefyd o ran pa mor gyflym y gellid cyflenwi mwy ohonyn nhw. Nododd canfyddiadau adroddiad Farmer, 'Modernize or Die', yn eglur broblemau difrifol iawn yn y diwydiant adeiladu yn y DU. Roedd yn amlwg i mi y byddai dulliau traddodiadol o adeiladu tai yn annhebygol o gyflawni'r newidiadau sy’n angenrheidiol. Roedd angen dull newydd ac arloesol. Dangosodd yr adroddiad a gomisiynwyd gan Ysgol Bensaernïaeth Cymru, er nad oes un ateb syml at bob achos, mae yna lawer o fodelau a dulliau posib ar gael.

Dyna pam, ym mis Chwefror eleni, lansiais y gronfa dai arloesol. Gyda £10 miliwn ar gael eleni a'r flwyddyn nesaf, gwahoddwyd cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol i wneud cais am adnoddau i ddefnyddio modelau tai newydd, llwybrau cyflenwi newydd a thechnegau adeiladu newydd. Rhoddais her i sefydliadau ddatblygu meddylfryd ffres o ran cyflenwi cyn gynted â phosib. Rwyf wedi fy synnu a’m plesio gan y diddordeb mawr yn y rhaglen a'r ymateb brwdfrydig iddi. Mae hyn wedi mynd y tu hwnt i landlordiaid tai cymdeithasol i gynnwys llawer o sefydliadau eraill, gan gynnwys mentrau bach a chanolig, benthycwyr, academyddion a chyrff proffesiynol. Rydym wedi siarad â llawer o bobl eleni, o ystod eang o gefndiroedd, ac mae eu barn a'u syniadau wedi helpu i lunio'r rhaglen. Mae llawer wedi rhoi o’u hamser hefyd, gan ein helpu ni gyda phopeth, o ddatblygu'r dogfennau technegol hyd at edrych ar sut mae’r pecynnau cais yn mynd i weithio ac asesu ceisiadau. Rwy'n estyn fy niolch diffuant i bawb dan sylw.

Ym mis Medi, daeth 35 o geisiadau am gyllid i law. Gofynnais i banel annibynnol asesu'r cynlluniau i nodi sut yr oedden nhw’n cynnig yr arloesedd a'r gwerth sydd ei angen ar gyfer graddfa'r newid yr hoffwn ei weld. Ar y sail honno, rwy'n falch iawn fy mod wedi penderfynu ariannu 22 o gynlluniau yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Yn amodol ar y gwiriadau diwydrwydd dyladwy sy’n angenrheidiol, byddaf yn sicrhau bod bron £19 miliwn ar gael i adeiladu 276 o gartrefi newydd—bron dwbl yr hyn a fwriadwyd. Bydd rhestr lawn o'r cynlluniau a fu’n llwyddiannus ar y wefan yn ddiweddarach yr wythnos hon pan fydd yr holl ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus wedi cael gwybod.

Er hynny, Llywydd, rwy’n awyddus i ddweud wrthych am rai ohonyn nhw er mwyn rhoi syniad i chi o ehangder yr hyn y byddwn yn ei ariannu. Yn gyntaf, bydd cynllun a fydd yn cyflwyno elfennau o'r prosiect a fydd yn troi cartrefi’n orsafoedd pŵer, prosiect gan SPECIFIC, y Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol. Bydd pobl yn elwa o gartrefi sydd nid yn unig yn arbed arian iddyn nhw, ond yn ffynhonell o incwm drwy gynhyrchu pŵer—bydd llawer ohonoch chi’n gwybod bod datblygiad y model hwn wedi cael cefnogaeth sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Mae ei weld ar waith yn gyffrous iawn. Mae yna brosiect newydd gofal ychwanegol 40 gwely ar gyfer pobl hŷn yn y Cymoedd, a adeiladwyd gan ddefnyddio technegau modiwlar gan fusnesau bach a chanolig yng nghanolbarth Cymru—rwy'n credu bod cartrefi modiwlaidd a adeiladwyd mewn ffatrïoedd yn cynnig cyfleoedd mawr i gynyddu cyflymder adeiladu ac ansawdd y cartrefi. Rwy’n ariannu cynlluniau modiwlaidd eraill, fel y gallwn ni gymharu a chyferbynnu modelau. Bydd hyn yn ein galluogi ni i weld beth sy'n gweithio orau yma a nodi cyfleoedd ond hefyd y problemau a all godi. Drwy adeiladu 24 o gartrefi yng nghanolbarth Cymru gan ddefnyddio'r model cartrefi cartref, lle defnyddir pren wedi'i dyfu'n lleol i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel a darbodus gydag ynni—bydd hyn yn cefnogi swyddi a hyfforddiant newydd yn lleol fel rhan o'n gwaith ni sy’n cefnogi’r tyfwyr coed ledled Cymru.

Llywydd, rwyf hefyd yn ariannu cynlluniau sy'n cynnwys cartrefi a wneir o gynwysyddion a ailgylchwyd er mwyn profi a ydynt yn addas fel atebion byw byrdymor neu dros dro i’r bobl sydd â'r angen mwyaf am dai. Rwy'n credu bod yn rhaid inni roi cynnig ar yr holl ddatrysiadau yn y maes hwn.

Nid yw arloesedd heb ei risg, ac nid wyf yn disgwyl i bob cynllun ddarparu'r atebion hirdymor yr ydym yn chwilio amdanyn nhw. Ond yr hyn y gwn yw ei bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth gwahanol ac mae'r prosiectau hyn wedi'u dewis yn ofalus. Bydd yr holl gynlluniau yn cael eu monitro a’u gwerthuso fel y gallwn ddysgu o'r hyn sy'n gweithio orau a pham felly. Mae hynny'n cynnwys gofyn i bobl sut beth ydyw byw ynddyn nhw.

Llywydd, y flwyddyn nesaf, rwy’n awyddus i agor y rhaglen i gynnwys y sector preifat, yn ogystal â landlordiaid cymdeithasol, i’w galluogi i'n helpu ni i chwilio am atebion. Y mis diwethaf, cyhoeddais gynnydd yn y gronfa datblygu eiddo i gynorthwyo adeiladwyr tai a datblygwyr busnesau bach a chanolig i ddychwelyd i'r farchnad. Bydd y gronfa honno, ynghyd â'r rhaglen hon, yn ein helpu ni i ddarparu mathau newydd o gartrefi a fydd yn gymorth i ddiwallu anghenion pobl yng Nghymru ar hyn o bryd ac, rwy’n gobeithio, ymhell i'r dyfodol. Diolch.