5. 5. Datganiad: Y Rhaglen Tai Arloesol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:47, 24 Hydref 2017

Rydym ni, wrth gwrs, yn croesawu unrhyw gynnydd yn y gwaith o ddatblygu tai carbon isel, ac yn croesawu’r datganiad, felly, yn sicr. Ond, rydym yn ei weld o, wrth gwrs, fel rhan o’r ymdrech i godi 20,000 o dai fforddiadwy, ac mi fyddai’n dda cael datganiad yn y dyfodol agos ar sut y mae’r strategaeth honno yn dod yn ei blaen, yn ei chyfanrwydd, fel petai. Rydym ni wedi bod yn sôn llawer am ddiddymu’r hawl i brynu, ond law yn llaw efo hynny, mae’n rhaid inni fod yn codi tai newydd yng Nghymru er mwyn ateb yr argyfwng sydd yn ein hwynebu ni yn y wlad.

Mae hwn yn ddatganiad sy’n rhoi gwybodaeth am y cynlluniau sydd wedi cael eu hariannu o’r gronfa tai arloesol. Rydym yn cael gwybod bod 22 cynllun allan o’r 35 cynllun a gyflwynwyd am gael eu hariannu, ac y bydd yna 276 o dai newydd yn cael eu hadeiladu. Rwy’n edrych ymlaen at weld y rhestr gyflawn o’r cynlluniau llwyddiannus ar y we, ac fel rydych yn ei ddweud, erbyn diwedd yr wythnos, bydd honno ar gael. Rydych yn sôn yn eich datganiad am bedwar o’r cynlluniau yma: tai yn creu incwm wrth gynhyrchu ynni; y prosiect tai modwlar ar gyfer pobl hŷn; a thai yn defnyddio coed lleol. Efallai y bydd gennych chi ddiddordeb yn adroddiad y pwyllgor newid hinsawdd, yr oeddwn i’n aelod ohono fo tan yn ddiweddar, sy’n pwysleisio bod angen symud ar fyrder i dyfu llawer mwy o goed yng Nghymru ar gyfer tai'r dyfodol, yn ogystal ag am resymau newid hinsawdd uniongyrchol. Mae gen i ddiddordeb arbennig hefyd yn y pedwerydd cynllun. Nid yw’n swnio’n rhywbeth cyffrous iawn—gwneud tai allan o ‘containers’ wedi cael eu hailgylchu—ond rwy’n barod iawn i gael fy ngoleuo ar hynny, a bydd yn ddiddorol iawn gweld pa mor addas y byddan nhw ar gyfer anghenion teuluoedd cyfoes.

Ychydig o gwestiynau: a ydy’r 22 cynllun llwyddiannus yn mynd i greu cynlluniau tai ym mhob cwr o Gymru? Byddai’n dda gweld sut y mae’r 22 cynllun yma yn edrych ar y map, mewn ffordd. Mae’n bwysig arbrofi mewn lleoliadau amrywiol sydd efo gwahanol heriau, gan gynnwys yr ardaloedd gwledig, wrth gwrs, lle efallai nad ydy’r ‘uptake’ o dai o’r math yma ddim ar yr olwg gyntaf yn mynd i fod mor ddeniadol â hynny. Ond mae angen gweithio trwy’r heriau yna yn yr ardaloedd gwledig yn ogystal ag yn yr ardaloedd mwy trefol.

Rydych chi’n sôn am 276 o dai carbon isel—gwych—allan o darged o 20,000 o dai fforddiadwy. A ydych chi’n meddwl bod hyn yn ganran ddigon uchel? Hynny yw, faint o beilota sydd ei angen? Cynlluniau peilot ydy hyn. Ond mae yna lawer iawn o wersi i’w dysgu gan wledydd eraill yn y maes yma, ac nid ydy’r dechnoleg mor hollol newydd â hynny; mae lot o dreialu wedi digwydd yn barod. Felly, oni allai’r ganran fod wedi bod ychydig bach yn fwy uchelgeisiol?

Rydych chi’n ymrwymo £19 miliwn ar gyfer y 22 gynllun yma eleni, sydd yn £9 miliwn yn fwy nag a fwriadwyd. Buaswn i’n licio gwybod faint o arian a fydd yn y pot ar gyfer y flwyddyn nesaf, felly, ac o ble y daeth y £9 miliwn ychwanegol oddi mewn i’r gyllideb. Wedyn, beth fydd yn digwydd ar ôl y cyfnod yma o arbrofi? Sut y byddwch chi’n symud ymlaen i sicrhau cyflenwad sylweddol fwy o dai carbon isel yng Nghymru, unwaith y bo’r cyfnod arbrofol yma yn dod i ben? Beth ydy’r cynllun tymor hir? Beth ydy’r targedau? Beth ydy’r weledigaeth ar gyfer pen draw’r daith? Ac yn olaf, a ydych chi wedi ystyried defnyddio treth trafodion tir, sef y ‘stamp duty’, i annog tai carbon isel? Diolch.