5. 5. Datganiad: Y Rhaglen Tai Arloesol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:51 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 4:51, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar am sylwadau'r Aelod. Cyn gynted ag y bydd data ar gael o ran datganiad sefyllfa ar y 20,000 o gartrefi, byddaf yn dod gerbron y Cynulliad ac yn hysbysu'r Aelodau am hynny. Rydym wedi cael llwyddiant mawr eisoes, ond byddaf yn rhoi’r manylion pellach cyn gynted ag y byddan nhw ar gael i mi.

276 yw nifer y cartrefi yn y cynllun hwn. Mae hynny ddwywaith y nifer yr oeddem yn credu y byddem yn gallu eu cyflenwi yn seiliedig ar asesiad ar ddechrau'r rhaglen. Felly, rwyf i o’r farn, o ran uchelgais, bod dyblu'r nifer yn ddigon effeithiol. Felly, efallai y bydd yr Aelod yn dymuno ystyried y sylwadau hynny.

Mae mater pren yn—. Mae'r Aelod yn iawn i godi mater pren. Y broblem gyda phren Cymru yn draddodiadol yw nad yw o'r ansawdd cywir ar gyfer adeiladu. Fe'i defnyddiwyd i gynorthwyo gyda'r gwaith adeiladu, ond nid fel prif ddeunydd. Mae'r diwydiant coed yng Nghymru wedi datblygu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac erbyn hyn mae gennym bren o ansawdd da ar gyfer adeiladu unedau cyfan. Felly, mae'r treialon yr ydym yn eu defnyddio yn y gofod hwn yn rhywbeth y byddwn yn edrych arno â diddordeb. Mae cyfle gwych yma i leihau carbon ac ôl troed carbon y fframwaith cartref cyfan.

Ar gynwysyddion, bydd rhai’n feirniadol o'm penderfyniad i ddefnyddio hen gynhwysydd llongau fel unedau modiwlaidd ar gyfer llety. Rydym mewn argyfwng gyda thai yn ein cymunedau, ac mae gennym bobl sy'n cysgu ar y strydoedd. Rwyf i’n awyddus i gael cartref dros dro diogel a chynnes i unigolion, ac mae cynwysyddion yn cynnig hynny. Cânt eu defnyddio drwy’r byd. Os aiff yr Aelodau i Ardal y Dociau yn Llundain, fe welan nhw bentref cyfan ohonyn nhw. Mewn gwirionedd, yr hyn yr ydym yn ceisio ei brofi gyda'r cysyniad hwn yw y bydd unigolion sy’n well eu byd yn gweld y rhain yn gartrefi gwych mewn arddull iypïaidd. Ac i brofi hynny, mewn gwirionedd, nid mater o roi unrhyw un i fyw yn un o’r rhain yw hyn; mae yna bobl sy’n fodlon talu arian i fyw mewn lleoedd fel hyn. Felly, rwy'n credu y dylech chi roi siawns inni a gweld a yw hyn mewn gwirionedd yn llwyddo a sut beth fydd y profiad o fyw ynddynt. Os nad yw hyn yn beth iawn i'w wneud, yna dylem roi’r gorau i hynny. Ond nid wyf o’r farn nad yw’n haeddu’r cyfle, a byddaf yn fodlon cymryd unrhyw feirniadaeth a ddaw law yn llaw â hynny.

Gofynnodd yr Aelod am fanylion o ran lleoliadau’r cynlluniau. Gallaf sicrhau'r Aelod bod y cynlluniau wedi’u lleoli ledled Cymru, o Ynys Môn hyd Sir y Fflint, o Sir Fynwy hyd Sir Benfro, a darnau o’r wlad rhwng y rheini. Mae yna 22 o brosiectau a bydd manylion pellach i’r Aelod ar y wefan, yn ddiweddarach yr wythnos hon. Mae'n anffodus na lwyddwyd i gwblhau’r manylion gyda'r cwmnïau a’r rhaglenni llwyddiannus er mwyn rhoi manylion i'r Aelodau heddiw. Ond gallaf eich sicrhau, cyn gynted ag y bydd y manylion hynny gyda ni, erbyn diwedd yr wythnos, yna byddan nhw’n ymddangos ar y wefan ar gyfer Aelodau.