Part of the debate – Senedd Cymru am 5:06 pm ar 24 Hydref 2017.
Rwy'n ddiolchgar am gwestiynau'r Aelod, ond byddwn yn gofyn i'r Aelod am rywfaint o uchelgais, am rywfaint o frwdfrydedd, o ran y rhaglen ardderchog hon yr ydym yn ei lansio heddiw. Mae hyn yn—. Mae hyd yn oed y Ceidwadwyr wedi bod yn dweud wrthym ni heddiw ein bod ni'n gwneud gwaith da—dyna rywbeth i ryfeddu’n fawr ato. [Chwerthin.] Y ffaith amdani yw hyn, mae £10 miliwn ar arloesedd ar gyfer tai newydd o safon yn rhywbeth y dylem i gyd fod yn ei ddathlu, a rhoi gwleidyddiaeth bleidiol o'r neilltu. Byddaf yn mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau a gododd yr Aelod. Nid adeiladu tai gwael yr ydym yn ei wneud yma, yr ydym yn treialu gwahanol fathau o dai. Mae cyfran o risg i hynny, a bydd diwydrwydd dyladwy yn sgil yr holl brosiectau hynny. Bydd, fe fydd rhai yn well nag eraill. Ond rhaid derbyn y bydd rhai yn cael eu dwyn ymlaen ac i eraill—efallai iddo fod yn gyfle i ffynnu ond heb fod yn addas i'r amgylchedd y maen nhw ynddo.
O ran yr agenda sgiliau, rwyf wedi bod yn gweithio gyda Ken Skates a Julie James ynghylch sut beth fydd y llwybr cyflogadwyedd a'r cadwyni cyflenwi o ran y prosiectau yr ydym yn eu cyflwyno. Mae prinder cenedlaethol yn bodoli eisoes o ran rhai o'r sgiliau creiddiol hynny, y gwaith saer, plymio a sgiliau traddodiadol. Gellir tynnu rhai o'r rhain allan o'r dulliau traddodiadol s rhoi lle iddyn nhw yn y ffatri. Yr hyn a welsom—. Ymwelais â safle ddoe lle gwneir llawer o'r swyddi hyn yn fewnol, ac yn cael eu gollwng ar y safle— mae hi'n ffordd wych ac iach o ymdrin â busnes, ac mae ansawdd yr adeiladau hyn yn dda iawn wir.
O ran y dull partneriaeth, rydym wedi cael trafodaethau gydag awdurdodau lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a’r Cyngor Benthycwyr Morgeisi am y ffactorau pwysig. Ac mae gofyn a fydd pobl yn talu am y rhain a sut y byddan nhw’n datblygu yn y dyfodol yn bethau yr ydym wedi croesawu trafodaeth yn eu cylch. Mae hyn i gyd yn ychwanegu cadernid i’r broses gwneud cynigion.
Mae caniatâd cynllunio yn fater diddorol. Gyda rhai o'r unedau modiwl hyn, yr hyn sydd wedi bod yn llwyddiannus yw bod rhai o'r safleoedd y byddwn yn eu defnyddio yn safleoedd garejys ar gyn safleoedd tir llwyd gan awdurdodau lleol. Felly, bydd yn fater o ddymchwel neu glirio'r tir yr oedd y garejys gwag yn sefyll arno ac yna ddefnyddio craen i gludo rhai unedau modiwl yno i fod yn gartrefi i bobl fyw ynddyn nhw. Felly, mae yna—. Gyda chaniatâd cynllunio cyfyngedig—. Felly, rydym wedi edrych ar gyfres o adnoddau sy’n angenrheidiol i gyflawni hyn.
Mae’n rhaid i mi ddweud, Llywydd, fy mod wedi anghofio ateb cwestiwn ar gyllid yn gynharach i'r Aelod o Blaid Cymru ynghylch y ffaith bod £10 miliwn eleni, a £10 miliwn gwarantedig y flwyddyn nesaf, gyda phosibilrwydd am ragor pe bai'r rhaglen yn datblygu i fod yn rhywbeth yr ystyriwn yn deilwng o fuddsoddiad pellach.