5. 5. Datganiad: Y Rhaglen Tai Arloesol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:01 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 5:01, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am ddatganiad heddiw. Rwy'n credu bod y rhain yn syniadau diddorol ac yn haeddu ymchwil iddynt. Rwy'n credu ein bod wedi gweld gweledigaeth dda heddiw, felly rwy'n gobeithio y bydd llawer o'r arloesi hwn yn troi’n llwyddiant. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae angen dybryd am fwy o dai, a gobeithio y bydd y rhaglen dai arloesol yn helpu i fynd i'r afael â hynny. Ond wrth gwrs, mae angen inni sicrhau eu bod yn dai o ansawdd da a hefyd, yn y pen draw, eu bod yn fforddiadwy. Rwy'n gwerthfawrogi bod llawer o risg ynghlwm wrth arloesi, fel y dywedodd y Gweinidog, felly rydym yn deall na fydd yr holl syniadau newydd gwahanol yn codi stêm, ond da o beth yw ein bod yn ymchwilio iddyn nhw.

Dywedodd y Gweinidog fod amrywiaeth eang o gynhyrchion tai arloesol ar fin dod i'r farchnad, a dywedodd fod llawer ohonynt o ansawdd da iawn erbyn hyn, felly mae hynny'n galonogol. Credaf ei fod yn syniad da, fel yr awgrymodd y Gweinidog, i gysylltu’r rhaglen dai arloesol gyda hyfforddi cenhedlaeth newydd o weithwyr adeiladu, gan gofio y gallai tai fel hyn fod yn llwyddiant mawr ac efallai y bydd llai o angen am osod brics, fel y gwnaethoch chi ei awgrymu. Mae'n bosib fod hynny braidd o flaen yr oes—nid wyf yn siŵr sut yn union y gallwn ni hyfforddi pobl ar gyfer heddiw. Os oes gan y Gweinidog fwy i'w ddweud am hynny byddai gen i ddiddordeb i glywed, a sut y bydd hynny’n cysylltu â’r syniadau sydd gan Ken Skates am gyflogadwyedd a phrentisiaethau ac yn y blaen. Ond efallai y bydd hynny’n cael ei gynnwys mewn datganiad arall yn y dyfodol, oherwydd rwy'n gwerthfawrogi ei bod yn ddyddiau cynnar i’r rhaglen tai arloesol.

Nawr, bydd 276 o gartrefi yn cael eu hadeiladu yn y gyfran gyntaf. O gofio bod risgiau yn yr arloesedd, fel y dywedoch chi, pa ddulliau sydd gennym ni i ddiogelu yn erbyn costau cynyddol adeiladu—costau uchel iawn posib—i sicrhau ein bod mewn gwirionedd yn dod yn agos at 276 o gartrefi a'u bod yn cynnig gwerth da am arian.

Mae yna faterion eraill o ran cynllunio. Soniodd David Melding am y pwyllgor amgylcheddol a'n taith ni i dŷ SOLCER, sy'n enghraifft o gartref arloesol sy’n orsaf bŵer. Roedd yn ddiddorol iawn mynd o gwmpas ac edrych ar dŷ SOLCER, ond dywedwyd wrthym fod yna gymdeithas dai sy'n cynllunio datblygiad arloesol yn yr un modd ac roedden nhw mewn anghydfod gyda'r awdurdod lleol. Ni allaf gofio'r manylion penodol—mae gen i deimlad mai Pen-y-bont ar Ogwr oedd yr awdurdod, ond efallai fy mod yn anghywir yn hynny o beth. Ond yr un cwestiwn a ofynnaf yw hyn: pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda’r Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd, sy'n gyfrifol am gynllunio, am fynd i'r afael â phroblemau posib gyda chyfyngiadau ar gynllunio a'i gwneud hi'n haws i'r cymdeithasau tai gael caniatâd cynllunio i ddatblygu prosiectau fel hyn yn y dyfodol? A dyna fater y sector preifat hefyd. Soniodd y Gweinidog ei fod yn bwriadu ymestyn y cynllun i'r sector preifat y flwyddyn nesaf, a fydd yn—. Dyna ddatblygiad diddorol arall i edrych ymlaen ato. Felly, mae yna fater hefyd o du’r unigolion a allai fod yn awyddus i adeiladu eu cartrefi cynaliadwy eu hunain yn y dyfodol oherwydd ceir ystadegyn hynod o Awstria, bod 80 y cant o dai newydd y wlad honno wedi'u hadeiladu gan yr unigolion eu hunain. Yn y DU, dim ond 8 y cant yw’r nifer hon. Felly, tybed, yn y dyfodol, pa gamau y mae'r Gweinidog yn tybio y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i hybu'r sector hwn o ran unigolion sydd am fwrw ymlaen eu hunain â'r math hwn o brosiect arloesol?

Ac un pwynt yn olaf: yn amlwg, mae thema’r hyn sy’n llesol i'r amgylchedd yn sail i’r cyfan, felly a oes unrhyw ystyriaeth wedi’i rhoi i flaenoriaethu datblygiad safleoedd tir llwyd ar gyfer y prosiectau tai arloesol? Diolch.