Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 24 Hydref 2017.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae croeso mawr i'r datganiad a wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet. Yn benodol, rwy’n cyfeirio at y prosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn fy etholaeth i fy hun, sy'n ddatblygiad cyffrous iawn. Mae'n debyg y bydd llawer o gyfraniad gan fentrau bach a chanolig i ddyfodol y sector hwn fel sector gweithgynhyrchu modiwlaidd yng Nghymru, a fydd yn gofyn am ddull penodol o weithredu o safbwynt polisi gan y Llywodraeth ar gaffael a chyllid y gadwyn gyflenwi yn benodol. Mae angen ffordd wahanol o ariannu rhai o'r prosiectau adeiladu nad yw’n golygu bod yn rhaid i BBaCh gadw stoc ar eu llyfrau, na allan nhw fforddio ei wneud yn y tymor hir. Felly, rwy'n gobeithio y bydd cyfle yn y gwaith y bydd yn ei wneud i archwilio rhai o'r rhwystrau posib hynny er mwyn sicrhau y gallwn feithrin y sector adeiladu BBaCh hwnnw ym maes adeiladu modiwlaidd yng Nghymru.
Byddwn i’n croesawu dau sylw ganddo, yn gyntaf o ran y pwynt y mae newydd ei wneud am gartrefi ar raddfa fechan ac effaith hynny ar les a’r wladwriaeth les. A yw hefyd wedi ystyried y posibilrwydd o dai modiwlaidd lle mae modd, dros oes yr eiddo, newid dyluniad yr eiddo hwnnw i fod yn addas ar gyfer gwahanol fathau o uned deuluol dros oes yr eiddo, a all fynd i'r afael yn arbennig â rhywfaint o'r pwysau sydd ynghlwm â threth yr ystafell wely? Ac a yw hefyd yn credu bod y potensial yma, o ystyried y pwyslais y mae bellach yn ei roi ar dai modiwlaidd, i symud tuag at bolisi tai yn gyntaf o ran mynd i'r afael â digartrefedd yn gyffredinol?