5. 5. Datganiad: Y Rhaglen Tai Arloesol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 5:12, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Mae cwestiynau gwirioneddol bwysig wedi’u codi gan yr Aelod. Bydd yr Aelod yn ymwybodol o'r datganiad ein bod wedi cyhoeddi rhaglen geisiadau o gwmpas y gronfa datblygu eiddo i fusnesau bach a chanolig ledled Cymru, sydd bellach yn £30 miliwn, er mwyn rhoi arian parod i'r rhaglen. Mae rhai o'r datblygiadau yr ydym yn eu cyflwyno yn atebion ar sail bocs. Bydd waliau a drysau y gellir eu symud, ac felly mae'n addas at heddiw a gallwn ei newid yfory. Eto, mae'n ddyfais newydd glyfar gan gymdeithasau tai sydd wedi meddwl am y cyfle clyfar hwn, a gobeithio ein bod wedi gallu eu cefnogi nhw wrth ddatblygu'r cynlluniau yr ydym yn eu cyflwyno.

Tybed a fyddwn ni heddiw yn dechrau rhywbeth sy'n newid ac yn torri'r model o ddatblygiad tai, datblygiad cartrefi traddodiadol, oherwydd ein bod ni yng Nghymru yn gallu bod yn glyfar a'n bod ni’n glyfar gyda'r prosiectau sydd wedi’u cyflwyno? I mi, ac i David Melding hyd yn oed—diwrnod cyffrous i Gymru a diwrnod cyffrous ar gyfer tai ledled Cymru. Dylem ddathlu'r ffaith bod £10 miliwn ar gael heddiw ar gyfer prosiectau a fydd i’w gweld ar draws ein holl etholaethau, ac yn darparu ar gyfer pobl sydd mewn angen.