Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 24 Hydref 2017.
Dydy hi byth yn syniad da cymharu eich hun â Lance Corporal Jones yn 'Dad's Army', ydy hi? Clive Dunn a ddywedodd hynny ar y meinciau fan acw; sylweddolodd ei gamgymeriad cyn gynted ag y dywedodd hynny, ond rwy’n mynd i adael iddo ef fyfyrio ar hynny. Churchill—. Heblaw am y ffaith ei fod wedi sôn am y Chamberlain anghywir, mae'n debyg mai Churchill yw'r person anghywir i sôn amdano mewn dadleuon am Ewrop, oherwydd dywedodd Churchill dri pheth. Yn gyntaf oll, ar adeg y rhyfel, roedd am i'r DU a Ffrainc ddod yn un wladwriaeth—un wlad, un wladwriaeth. Dyna oedd ei farn ar y pryd. Ef oedd y cyntaf i fod yn frwdfrydig am Undeb Ewropeaidd. Ef oedd y cyntaf i sôn am fyddin Ewropeaidd, a dweud y gwir, Churchill. Ni fyddai Churchill wedi cael dim i’w wneud â Brexit—gallaf addo hynny nawr—o ystyried yr hyn a ddywedodd yn y gorffennol.
Nawr, o ran y peth olaf a ddywedodd, gallaf ddweud—. Ie, Ysgrifennydd Gwladol Cymru—nid oes ganddo record dda o gydweithrediad; dewch imi ddweud hynny. Dewch imi roi enghraifft iddo o'r hyn a ddigwyddodd yn ddiweddar. Anfonwyd taflen at bob busnes yng Nghymru, mae'n debyg o swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru—heb yr un baner Cymru arni, os caf ychwanegu—i esbonio sut y gall Llywodraeth y DU helpu busnesau. Wel, popeth yn iawn hyd yn hyn, efallai. Ond yna mae'n dyfynnu gwahanol fusnesau yng Nghymru sydd wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru, a llawer o'r pethau y sonnir amdanynt yno yw cymorth allforio, teithiau masnach, cyllid, sydd wedi dod gan Lywodraeth Cymru, ac mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn ceisio honni eu bod yn dod ganddo ef. Nid dyma'r tro cyntaf iddo wneud hynny. Mae eisoes wedi honni mai ef ddaeth â Qatar Airways i Gaerdydd. Ni wnaeth gyfrannu o gwbl at hynny. Gwnaethpwyd hynny—ac rwy'n rhoi clod i'r unigolyn a wnaeth hynny—gan Roger Lewis, sef cadeirydd y maes awyr. Ef oedd yr un a ddangosodd y dyfalbarhad i ddod â Qatar Airways i mewn. Felly, mae gan Lywodraeth y DU—. Wel, na—mae gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru hanes gwael iawn o gydweithredu a gofyn am gydweithrediad pan fydd yn gweld yn dda. Fe'i gwahoddwyd, os cofiaf yn iawn, i'r cyngor ar gyfer datblygu economaidd. Nid yw wedi bod eto, ond serch hynny mae gwahoddiad yno iddo ddod draw. Dyna'r fforwm lle mae busnesau Cymru’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru, a does dim rheswm pam na all yr Ysgrifennydd Gwladol fod yn y fforwm hwnnw yn hytrach na cheisio creu ei un ei hun, sef yr hyn y mae'n ceisio ei wneud ar hyn o bryd.
Nawr, dewch inni droi at y pwyntiau a wnaeth Mark Isherwood. A oes angen cydweithredu? Oes. A oes angen safonau cyffredin? Oes, ac mae angen safonau cyffredin gyda'r UE, a dweud y gwir. Ni allwn greu ein safonau ein hunain. Nid yw'n gwneud synnwyr i hynny ddigwydd. Yn ail, a yw'r canlyniad o ran sicrwydd wedi’i rannu rhyngom ni a Llywodraeth y DU? Ydy, mae. Rydym yn deall bod angen sicrwydd ar fusnesau, a bod angen cyn lleied â phosibl o ymyrraeth ym marchnad sengl y DU. Rydym yn deall hynny. Y gwahaniaeth yw ein bod ni o'r farn y dylai'r Llywodraethau gytuno ar sut i gyrraedd y canlyniad hwnnw heb i un Llywodraeth osod un rheol ar y ddwy arall—gobeithio y tair arall yn y dyfodol. Felly, beth mae'n ei olygu yw y gallai Llywodraeth y DU wneud fel y mynno hi yn Lloegr, ond na allem ni wneud yr un peth yng Nghymru. Mae'n golygu, er enghraifft—ac mae wedi cydnabod ei fod yn rhannu rhai o'r pryderon hyn—y gallai Gweinidogion y DU ddiwygio deddfwriaeth ddatganoledig a basiwyd yn y lle hwn heb ofyn i'r lle hwn nac i Weinidogion Cymru, nac, yn wir, i Senedd y DU. Mae’n rhaid bod hynny’n anghywir mewn egwyddor. Nid yw hyn wedi'i gynllunio i fod yn sefyllfa lle mae Llundain yn troi’n Frwsel newydd ar unwaith, ac fe'i gwelir fel rhywle sy'n anghysbell ac yn annemocrataidd. Nid yw hynny'n rhywbeth yr hoffai ef na fi ei weld, does bosib, fel dau sy'n credu yn yr undeb.
O ran ail gam y sgyrsiau, mae'n anghywir dweud bod yr UE a'i gwladwriaethau cyfansoddiadol wedi rhoi'r golau gwyrdd i gam nesaf y sgyrsiau; yr hyn maen nhw wedi'i wneud yw dechrau paratoi ar eu cyfer. Mae’r rheini’n ddau beth gwahanol. Ar hyn o bryd, mae'r sgyrsiau wedi pallu. Dydw i ddim eisiau gweld y sgyrsiau’n pallu—yn amlwg ddim. Rwyf am i’r trafodaethau hynny symud, ac rwy’n gobeithio y bydd y symudiad yno erbyn mis Rhagfyr fel y gall hyn symud ymlaen, fel na fyddwn yn syrthio dros ymyl dibyn ym mis Mawrth. Ond nid yw'n iawn dweud bod ail gam y sgyrsiau wedi cychwyn. Y realiti ar hyn o bryd yw bod yr UE yn llawer mwy unedig o ran eu nodau a'u targedau na'r DU. Mae gennym Brif Weinidog, ac rwy'n cytuno â llawer o'r hyn y mae hi wedi'i ddweud. Araith Florence: roeddwn yn croesawu llawer o honno. Ac yna mae gennych Boris Johnson, sy'n dweud rhywbeth gwahanol. Ac yna mae gennych Weinidog arall, Liam Fox, sy'n dweud rhywbeth gwahanol. Y broblem—a'r rhwystredigaeth ar lefel yr UE—yw ei bod yn ymddangos nad oes gan y DU syniad am yr hyn y mae ei eisiau, ac nad oes ganddi syniad pa fath o ganlyniad yr hoffai ei weld.
Gwnaeth y Prif Weinidog gamgymeriad tactegol, yn fy marn i. Fe'i cyflwynodd ei hun fel un oedd o blaid, er ei bod yn arhoswr, Brexit caled—y tu allan i'r undeb tollau, y tu allan i'r farchnad sengl—ac aeth i mewn i etholiad gan feddwl bod hynny’n ased etholiadol, ac nid oedd. O ganlyniad, nid oes ganddi nawr fandad i arwain y DU ar y Brexit caletaf hwnnw. Mae'n hynod bwysig, felly, bod Llywodraeth y DU yn gweithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i gyflawni—a rhaid inni gyflawni Brexit—y math o Brexit sy’n cael yr effaith negyddol leiaf ar economi Cymru a gweddill y DU. Does dim cyfiawnhad dros ddweud, pan bleidleisiodd pobl i adael yr UE, eu bod wedi pleidleisio i adael y farchnad sengl. Does dim cyfiawnhad dros ddweud, pan bleidleisiodd pobl i adael yr UE, eu bod wedi pleidleisio i adael yr undeb tollau. Ni chafodd dim un o'r pethau hyn sylw yn yr etholiad, ac eithrio gan wleidyddion UKIP. Oherwydd dywedodd gwleidyddion UKIP—er enghraifft, Daniel Hannan—nad oes neb yn mynd i adael y farchnad sengl. Dywedodd Nigel Farage, 'Gallwn ni fod fel'—[Torri ar draws.] Rwy'n gwybod nad ydych yn hoff o hyn, ond dywedodd Nigel Farage, 'Gallwn ni fod fel Norwy'. Dywedodd ef hynny. 'Gallwn ni gael ein cacen a'i bwyta', i ddyfynnu Boris Johnson. 'Gallwn ni fod yn yr AEE'. Cafodd pobl eu camarwain y llynedd. Dywedwyd wrthynt y byddai gwneuthurwyr ceir yr Almaen yn gorfodi cytundeb masnach rydd ar yr UE. Nid yw’n mynd i ddigwydd. Maent yn poeni mwy am y farchnad sengl nag am ddim byd arall. Does dim un o'r pethau hynny wedi digwydd.
Nawr, pan fyddwn yn sôn am 'ddim bargen', dylem fod yn glir iawn ynglŷn â beth mae hynny'n ei olygu. Nid yw ef yn ei argymell. Nid dyna'r hyn y mae'n ei argymell, ond mae digon yn ei blaid sydd—nid pawb. Os na allwn negodi cytundeb â’n cymdogion agosaf, y rhai yr ydym yn rhannu ffin dir â nhw, y rhai yr ydym yn rhannu llawer iawn o gydgyfeiriant rheoleiddiol â nhw, does gennym ddim gobaith o negodi cytundeb â gwledydd nad oes ganddynt ddim o'r ffactorau hynny yn gyffredin â ni. Sut ar y ddaear allem ni? Nid wyf yn derbyn y syniad hwn bod yna nirfana allan yna o gytundebau masnach rydd a fydd o fudd inni. Does dim. Os ydym yn gadael yr UE heb fargen ym mis Mawrth 2019, fydd gennym ni ddim cytundeb masnach rydd â neb—â neb—oherwydd fydd dim un wedi’i gytuno ar yr adeg honno. Ble mae hynny'n ein gadael ni? Ar ein pennau ein hunain ac yn methu â masnachu'n rhydd â gwledydd eraill. Doedd neb eisiau gweld hynny, does bosib. Dydw i ddim yn meddwl mai cytundebau masnach rydd yw'r ateb, a dweud y gwir. Rwy'n meddwl bod cytundebau masnach rydd yn gweithio'n dda pan gânt eu llunio gyda gwledydd sydd â lefel incwm debyg i chi. Os nad yw hynny’n wir, rydych chi'n gwahodd swyddi i adael eich gwlad a mynd i rywle arall. Dyna oedd y brif gŵyn yn yr Unol Daleithiau yn yr etholiad arlywyddol, bod swyddi wedi mynd i Fecsico oherwydd bod costau llafur yn rhatach. Ac roedd hynny oherwydd cytundeb masnach rydd. Felly, mae'n rhaid inni fod yn ofalus iawn ynglŷn â gweld cytundebau masnach rydd fel y panacea i bopeth. Mae'n dibynnu pa farchnad a pha wlad rydych chi'n siarad â nhw.
Yn olaf, mae'n sôn am y ffin. Bydd yn maddau imi: rwy'n ei hadnabod yn dda, y ffin honno—yn dda iawn, iawn. Does dim modd ei rheoli â heddlu. Rwy'n ei chofio pan oedd yr Helyntion yn dal i fod yn eu hanterth. Roedd yna fannau archwilio diogelwch. Fe wnaeth byddin Prydain chwalu ffyrdd bach i atal pobl rhag eu croesi nhw. Roedd yna fannau archwilio dynodedig. Hyd yn oed wedyn, doedd dim modd rheoli’r ffin honno â heddlu. Does neb eisiau mynd yn ôl i'r dyddiau hynny. Mae amlygu’r ffin mewn unrhyw fodd yn gwahodd problemau yng Ngogledd Iwerddon. Rydych yn dod yn ôl at y pwynt hwn—rwyf wedi clywed y ddadl yn cael ei gwneud—y bydd datrysiadau technolegol. Does dim datrysiadau technolegol. Sut y gallai fod? Er enghraifft, os yw nwyddau'n croesi rhwng Iwerddon a'r DU ac i'r gwrthwyneb, pwy sy'n eu rheoleiddio? Neb. Mae yna system hunan ddatgan, o bosibl, ond, a dweud y gwir, plismona cyffyrddiad ysgafn yw hynny; mae'n wahoddiad i smyglo. Yn ail, os nad oes rheolaeth pasbortau ar y ffin rhwng Iwerddon a'r DU, cyhyd â bod rhywun yn gallu mynd i Iwerddon, gall fynd i'r DU. Mae'r DU yn colli rheolaeth o'i ffin dan yr amgylchiadau hynny. Felly, mae'r syniad y bydd y DU yn rheoli ei ffiniau yn amhosib oni bai bod y ffin yn Iwerddon wedi’i hamlygu’n ffisegol. Wnaiff datrysiadau technolegol ddim gweithio yn hynny o beth. Rwyf wedi clywed awgrym y bydd camerâu yno. Wnaiff y camerâu hynny ddim para’n hir, oherwydd wnaiff pobl ddim derbyn unrhyw fath o amlygiad o ffin y tu hwnt i newid lliw’r llinellau ar ochr y ffordd, rhwng melyn ar un ochr a gwyn ar y llall.
Nawr, dydy’r materion hyn ddim yn hawdd eu datrys. Gellir eu datrys os ydym yn aros yn yr undeb tollau—wedi ei wneud. Does dim problem o ran nwyddau. Mae yna fwy o broblem o ran rheoli pasbortau, mae hynny'n wir. Mae'n helpu nad yw'r Weriniaeth yn Schengen, mae hynny'n wir. Ond, serch hynny, mae'r rhain yn gwestiynau anodd, anodd y mae angen eu hateb, a byddwn yn cynnig ein cymorth i Lywodraeth y DU i helpu i ddod i'r casgliadau yr hoffai pobl eu gweld, sef Brexit sy'n bodloni'r hyn y pleidleisiodd pobl drosto y llynedd, ond Brexit nad yw'n cael effaith negyddol ar economïau Cymru a Phrydain.