Part of the debate – Senedd Cymru am 5:41 pm ar 24 Hydref 2017.
Mae diweddariad heddiw ar y trafodaethau Brexit yn adlewyrchu rhai o'r negeseuon sy'n dod o Lywodraeth Cymru ar ôl y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) diweddar ac yn ymwneud â rhai o'r materion a godais gyda'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf. Mae sôn bod Llywodraeth y DU, ac rwy’n dyfynnu,
‘yn sylweddoli bod angen iddynt weithio'n llawer agosach gyda'r gweinyddiaethau datganoledig', a’i bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru—ac unwaith eto rwy'n dyfynnu—
'wedi gweld newid sylweddol yn safbwynt Llywodraeth y DU'.
Nawr, rwy’n derbyn y gallai'r cyfarfodydd hynny fod wedi dod yn fwy cadarnhaol, a'r rheswm dros hyn yw bod Llywodraeth y DU wedi bod ar y rhaffau o safbwynt barn y cyhoedd, yn enwedig o ran gadael yr UE heb fargen. Mae Gweinidogion y DU yn awyddus i osgoi ffrae o fewn y DU ar sut i gyflawni Brexit. Er nad ydym yn gwybod beth fyddai argyfwng cyfansoddiadol, rydym yn gwybod y gallai'r goblygiadau i ddyfodol yr Alban ac, o bosib, i ddyfodol y broses heddwch yn Iwerddon fod yn arwyddocaol. Felly, mae hyn yn esbonio i raddau helaeth pam y gallai Llywodraeth y DU fod wedi trosglwyddo signalau mwy cadarnhaol i'r gweinyddiaethau datganoledig. Ond mae'r problemau'n parhau, ac, yn ein barn ni, mae'r risg o gipio grym yn parhau.
Nawr, mae'r materion ynglŷn â’r trafodaethau gyda'r UE-27 yn bwysig i Gymru. Mae hawliau dinasyddion yn broblem lle mae’n rhaid i synnwyr cyffredin ennill y dydd. Barn Plaid Cymru yw y dylai holl ddinasyddion yr UE yng Nghymru allu aros ac, fel rhan o hynny, rydym yn nodi'r cyfraniad y mae gweithwyr o’r UE yn ei wneud i'n trethi, i’n gwasanaethau cyhoeddus, ac i'n sector preifat. Hefyd, mae mater y ffin yn Iwerddon yn hanfodol i ffyniant a dyfodol ein porthladdoedd, yn enwedig yng Nghaergybi, a byddwn yn annog y Prif Weinidog i bwyso’r pwynt hwnnw hyd yn oed yn fwy effeithiol.
I droi at yr effeithiau ar y Cynulliad hwn, nid yw'r ffaith bod cyfres fwy adeiladol o gyfarfodydd wedi digwydd yn newid natur gyffredinol y trafodaethau. Mae Plaid Cymru yn glir iawn bod Bil yr UE (Ymadael) yn galluogi San Steffan i gipio grym, ac yr wythnos ddiwethaf fe wnaethom gyhoeddi barn gyfreithiol i'r perwyl hwnnw. Ein dadansoddiad yw ein bod ar ein ffordd at sefyllfa lle bydd grym yn y wladwriaeth Brydeinig wedi’i ganoli yn San Steffan o dan esgus gweithredu marchnad sengl yn y DU. Yn wahanol i farchnad sengl yr UE, lle mae aelod-wladwriaethau'r UE yn penderfynu ar y rheolau ar y cyd, caiff y gweinyddiaethau datganoledig eu trin fel ymgynghoreion yn unig. Mae Plaid Cymru yn credu y gellid ymdrin â threfniadau o'r fath y tu mewn i'r DU mewn modd lle mae’r cenhedloedd, eu Llywodraethau a'u deddfwrfeydd yn gydradd.
Mae yna nifer o broblemau gweithdrefnol gyda Bil yr UE (Ymadael), sy'n golygu na all Plaid Cymru ei dderbyn. Hoffem atal Gweinidogion y Goron rhag gallu defnyddio rheoliadau i addasu'r setliadau datganoledig. Hoffem gael gwared ar y cyfyngiadau ar Weinidogion Llywodraeth Cymru i allu cywiro diffygion sy'n deillio o ymadael. Ac mae Plaid Cymru hefyd yn credu bod cymal 11 y Bil yn gwanhau ein pwerau datganoledig yn y ffordd fwyaf sylfaenol. Yn fwy nag erioed, rydym yn credu y byddai Bil parhad yn ffordd unigryw i ymdrin â hyn.
Felly, i droi at fy nghwestiynau, Brif Weinidog, yn gyntaf oll, a ydych yn gresynu nawr bod Llafur yn San Steffan wedi pleidleisio i ysgogi erthygl 50, o ystyried nad oedd dim gwarantau i ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru? Gofynnais ichi yr wythnos diwethaf a oeddech yn cytuno â Damian Green bod y sôn am gipio grym y tu ôl inni, a gwnaethoch ddweud yn eich ateb eich bod yn credu bod cipio grym yn dal i fod yn risg, er bod y cyfarfod wedi bod yn gadarnhaol. A gaf i ofyn ichi heddiw: a ydych chi’n fodlon ar fod yn ymgynghorai? A ydych chi’n fodlon bod cymryd rhan mewn ymgynghoriad ar fframweithiau'r DU yn y dyfodol yn ddigonol, ynteu a ydych yn cytuno â barn Plaid Cymru y dylid penderfynu ar y cyd ar y fframweithiau hynny? Wrth ystyried dyfodol grym gwleidyddol yn y wladwriaeth hon a lle bydd y grym hwnnw, a yw cyngor Gweinidogion y DU yn nes at fod yn realiti?
O ystyried popeth rydych chi wedi'i ddweud am beryglon methu â tharo bargen, a ydych chi nawr yn derbyn y dylech chi gynllunio ar gyfer y canlyniad hwnnw? Mae pawb ohonom yn cytuno y byddai hynny'n ganlyniad gwael, ond rydym hefyd yn cytuno y gallai ddigwydd. Felly beth ydych chi'n mynd i'w wneud amdano? Allwch chi ddim gwadu y gallai ddigwydd.
Yn olaf, a ydych chi'n credu bod yr oedi yn y Bil ymadael â’r UE yn rhoi cyfle inni nawr i fwrw ymlaen â Bil parhad?