6. 6. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Drafodaethau Brexit

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:02 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 6:02, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, mae ardal yr ewro yn gwneud yn dda iawn, a dweud y gwir—yn well na Phrydain ar hyn o bryd. Ni wn a welodd y ffigurau twf yn ardal yr ewro. Roedd yna rywfaint o naïfrwydd, unwaith eto, yn yr araith honno gan arweinydd UKIP. Dewch inni ailadrodd yr hyn a ddywedwyd y llynedd. Nid wyf am frwydro’r refferendwm eto, ond mae'n werth ein hatgoffa ein hunain o'r cyd-destun yma. Bydd tri chant a hanner o filiynau o bunnoedd yr wythnos ar gael i'r GIG: sothach. Byddwn yn rheoli ein ffiniau ein hunain: nonsens. Bydd cytundeb masnach rydd ar unwaith gyda'r Undeb Ewropeaidd oherwydd bydd cynhyrchwyr ceir yr Almaen yn gorfodi hynny i ddigwydd: breuddwyd gwrach. Bydd cytundebau masnach rydd ar waith gyda phob math o wledydd cyn mis Mawrth 2019: chwerthinllyd. I ddechrau, nid oes gan y DU unrhyw brofiad o negodi cytundebau masnach rydd. Nid yw'r holl bethau hyn a ddywedwyd y llynedd yn wir. Doedden nhw erioed yn wir. Felly, mae'n rhaid inni addasu i'r sefyllfa bresennol.

Nawr, byrdwn yr hyn yr oedd arweinydd UKIP yn ei ddweud yn y bôn oedd hyn: nid yw'n deg na fydd yr UE yn rhoi’r hyn yr ydym ei eisiau inni. Roedd wedi defnyddio gair fel pridwerth. Pa drafodaethau busnes sy'n digwydd lle mae un ochr yn mynd i mewn ac yn dweud wrth y llall, ‘Rydym am gael popeth ein ffordd ni; pob peth ein ffordd ni, ac, os nad ydych chi'n cyfaddawdu, byddwn ni'n cerdded i ffwrdd’? Nid yw hynny, rwy’n dweud wrthych, yn lle synhwyrol i fod mewn trafodaeth fusnes. Y gred oedd y byddai'r UE yn chwalu. Nid yw'n mynd i chwalu. Dywedodd David Davis y byddai yn Berlin yn gyntaf, yn negodi gyda'r Almaenwyr. Nid yw’n mynd i ddigwydd. Mae'r farchnad sengl yn llawer pwysicach i ddiwydiant yr Almaen na dim byd arall. Mae Prydain yn farchnad bwysig, ond mae marchnad sengl yr UE yn llawer, llawer mwy na Phrydain. Y realiti yw bod Prydain yn bumed rhan o faint yr UE. Rwy'n meddwl ei fod wedi crynhoi pethau ei hun wrth ddweud mai'r anhawster oedd y bleidlais y llynedd. Wel, roedd ef o blaid yr anhawster hwnnw. Felly, ni all ymgilio oddi wrth hynny nawr. Nid wyf yn derbyn bod pobl, y llynedd, wedi pleidleisio i adael yr UE ar y telerau y mae ef wedi’u hawgrymu. Y realiti yw y gofynnwyd i bobl bleidleisio am gysyniad. Ni ofynnwyd iddynt bleidleisio ynghylch sut y byddai'r cysyniad hwnnw'n gweithredu. Ni ofynnwyd iddynt am undeb tollau. Doedd pobl ddim yn deall beth oedd undeb tollau. Ni ofynnwyd iddynt am y farchnad sengl. Doedd pobl ddim yn deall beth oedd y farchnad sengl. Er gwaethaf hynny, roedd arhoswyr yn dweud, ‘Byddwn yn aros yn y farchnad sengl. Byddwn yn iawn. Byddwn yn aros yn yr undeb tollau. Bydd gennym gytundeb masnach rydd cynhwysfawr.’ A nawr mae'n beirniadu'r UE am wneud yr hyn y byddai ef ei hun yn argymell bod y DU yn ei wneud—gofalu am eu buddiannau eu hunain. Wrth gwrs eu bod nhw'n mynd i wneud hynny. Felly, mae'n rhaid cyfaddef yma bod rhaid cyfaddawdu ar y ddwy ochr.

Y broblem, yn fy meddwl i ar hyn o bryd, yw’r DU. Nid yw'r DU yn gwybod beth mae ei eisiau arni. Mae gennym Lywodraeth y DU sydd ddim wir yn gwybod pa fath o Brexit y mae am ei weld, ac mae angen datrys hynny yn gyntaf. Soniodd am brisiau bwyd. Wrth gwrs, yr hyn nad yw'n ymddangos ei fod yn ei ddeall yw y byddem wedyn yn gweld tariffau’n cael eu rhoi ar fwyd sy'n dod o weddill yr UE, lle mae swm sylweddol o'n mewnforion yn dod ohono. Mae prisiau'n siŵr o godi oherwydd mae tariffau ar fwyd yn uchel iawn, iawn. Ar ben hynny, byddai allforion Cymru—cig oen Cymru, yn enwedig—yn mynd yn llawer drutach dros nos. Mae'n siŵr o wneud. Os oes gennych chi dariffau, does dim osgoi hynny; bydd hynny'n digwydd. Mae'n golygu bod cig oen Cymru yn ddrutach yn ei farchnad bwysicaf. Dyna beth mae 'dim bargen' yn ei olygu. Mae'n golygu y bydd y galw’n gostwng. Mae'n golygu y bydd gan ffermwyr anifeiliaid na allant eu gwerthu. Ni fydd unrhyw swm o arian yn eu helpu os na allant werthu’r hyn maen nhw'n ei gynhyrchu. Felly, bydd rhaid ystyried materion yn ymwneud â lles anifeiliaid. Does dim ffordd o gwmpas hyn. Byddwn mewn sefyllfa, os bydd tariffau, lle mae llawer o nwyddau’n ddrutach yn y DU, yn enwedig bwyd a diod, a byddwn yn gweld bod yr hyn yr ydym yn ei allforio’n mynd yn llawer drutach, a does dim angen inni wneud hyn.

Does neb yn argymell gosod tariffau, mae hynny’n wir, ond dylem fod yn ofalus iawn, iawn i beidio â mynd i sefyllfa lle mae tariffau, mewn gwirionedd, yn cael eu gosod. Pwy sy'n mynd i lywodraethu'r tariffau rhwng Gweriniaeth Iwerddon a'r DU? Pwy sy'n mynd i wneud hynny? Does dim archwiliadau, felly beth ydyn ni'n ei wneud i leihau smyglo, y ddwy ffordd? Os nad oes rheolaethau ffin, beth fyddwch chi'n ei wneud i leihau masnachu pobl? Nid yw’r pethau hyn i gyd wedi cael eu hystyried o gwbl. Tybiaeth drahaus llawer o eithafwyr Brexit oedd y byddai Iwerddon yn gadael yr UE gyda'r DU, oherwydd bod pobl Iwerddon yn adnabyddus am wneud yr hyn y mae'r DU yn dweud wrthynt am ei wneud. Ni chafodd dim o hyn ei ystyried.

Nawr, soniodd am y rhyddid i fasnachu. Mae'n ddeniadol. Pe byddwn i yn Awstralia a Seland Newydd, byddwn i wrth fy modd o fod â bargen masnach rydd gyda'r DU. Pam na fyddwn i? Beth ydyn ni'n ei gael yn ôl? Mae Awstralia yn llawer llai na'r DU, ac mae gan Seland Newydd 4 miliwn o bobl. Os oes gennych fargen masnach rydd â Seland Newydd, mae'n wych i Seland Newydd—rwy'n derbyn hynny. Byddai eu cig oen yn gallu dod i'r DU heb unrhyw fath o gyfyngiad o gwbl. Ble mae hynny'n gadael ffermwyr Cymru? Beth ydyn ni'n ei gael o’r peth? Sut gall marchnad o 4 miliwn o bobl gymryd lle marchnad o 500 miliwn o bobl? Nid yw'n gweithio o gwbl. Nid yw'r rhifyddeg yno.

Rwy’n gwybod, yn India, er enghraifft, bod y trafodaethau â Llywodraeth India wedi mynd yn wael, oherwydd dywedodd Llywodraeth India, Prif Weinidog India, ‘Wel, os ydym ni yn edrych ar gytundeb masnach rydd, beth am ein myfyrwyr? Beth am y cyfyngiadau fisa yr ydych chi’n eu gosod ar ein myfyrwyr?’ Safbwynt Llywodraeth India, os caf ei grynhoi—ac rwy’n meddwl fy mod yn gwneud cyfiawnder â nhw—yw dweud, ‘Wel, os ydych chi eisiau cytundeb masnach rydd, rydyn ni eisiau i bobl allu symud yn fwy rhydd’. Dyna safbwynt rhesymol India, gwlad o dros biliwn o bobl. Dyna fydd eu safbwynt nhw. Wrth gwrs, pan mae'n sôn am ein masnach rydd gyda gwledydd y Gymanwlad ac, efallai, rhyddid symudiad â gwledydd y Gymanwlad, nid yw'n golygu pob gwlad y Gymanwlad, ydy ef? Mae'n golygu rhai fel Awstralia a Seland Newydd.

Felly, mae'n rhaid ystyried y pethau hyn yn ofalus iawn, iawn. Yr hyn rwy'n ei wybod yw bod yr holl bethau, yr holl optimistiaeth, y dywedodd byddin Brexit eu bod yno y llynedd wedi mynd. Yr holl bethau yr oeddent yn dweud y byddent yn digwydd, nid ydyn nhw wedi digwydd. Nid ydyn nhw wedi digwydd. Felly, mae'n rhaid inni fod yn realistig. Oes, mae’n rhaid inni weithredu'r bleidlais a gafodd pobl, ond nid wyf yn credu mai Brexit ar y telerau caletaf yw’r hyn yr oedd y bobl yn pleidleisio amdano. Dywedwyd wrthynt na fyddai hynny'n digwydd, ac os oes gofyn nawr i bobl wynebu hynny, os na chawn ni unrhyw fargen, byddem yn cael etholiad cyffredinol ar unwaith. Byddai gan bobl bob hawl i fynegi barn am yr hyn a fyddai wedi bod yn fethiant ac am set o amgylchiadau lle byddent yn teimlo eu bod wedi cael eu camarwain. Rwy'n gobeithio na ddaw i hynny, oherwydd bydd pobl yn dioddef os yw'n dod i hynny. Bydd swyddi'n mynd a bydd pobl yn talu mwy am yr hyn maen nhw'n ei brynu. Nid wyf eisiau gweld hynny.

Felly, dewch inni anghofio’r sôn hwn am ddim bargen. Wrth gwrs, nid oes neb yn awgrymu y dylem dalu beth bynnag y mae'r Undeb Ewropeaidd yn gofyn amdano. Gwnes y pwynt hwnnw yn fy natganiad. Mae'n rhaid cael cyfaddawd synhwyrol ar hyn. Mae'n rhaid inni ddatrys mater ein dinasyddion ein gilydd. Mae pobl yn teimlo eu bod yn cael eu dal yn wystlon, yn yr UE ac yn y DU. Mae angen datrys hynny. Ond mae hi nawr 15 mis yn ddiweddarach a does dim digon o gynnydd wedi'i wneud o hyd. Mae angen cynnydd arnom erbyn mis Rhagfyr. Mae angen inni symud ymlaen. Dewch inni anghofio’r byd ffantasi hwn lle bydd niferoedd enfawr o gytundebau masnach rydd ar waith erbyn mis Mawrth 2019—wnaiff hynny ddim digwydd—a dewch inni ganolbwyntio ar daro’r fargen orau gyda'n marchnad agosaf: 400 miliwn o bobl ar ôl i ni adael, ein cymydog agosaf. Rhaid canolbwyntio ar yr her honno. Yn y bôn, mae'r syniad o gefnu ar ein rhwymedigaethau’n anfon y neges nad yw'r DU yn cadw at eu hymrwymiadau. Pwy fyddai'n ymddiried ynom ar ôl hynny? Y mater dan sylw yw sicrhau mynediad i'n marchnad fwyaf, sef y farchnad sengl. Dyna lle y dylai'r pwyslais fod ac nid yn unman arall ar hyn o bryd.