Part of the debate – Senedd Cymru am 5:52 pm ar 24 Hydref 2017.
Rwy’n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad, ond i fod yn onest, ac nid yw hyn yn feirniadaeth iddo, mae'n ddigwyddiad digon dibwys, oherwydd yr hyn y mae wedi sôn amdano yw cynnydd bach o fewn y Deyrnas Unedig o ran y berthynas a fydd gan Lywodraeth Cymru, ac a fydd gan y Cynulliad hwn, yn y dyfodol gyda Llywodraeth Prydain a Senedd y Deyrnas Unedig. Ac fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gywir, ni fu braidd dim symudiad o gwbl yn yr UE.
Yr unig gytundeb y maen nhw wedi'i gynnig yw y gallen nhw efallai siarad ymhlith eu hunain am y ffordd ymlaen, ond yn sicr nid oes cynnig cadarn ar y bwrdd am sut y gwneir cynnydd pellach ym Mrwsel. Rwy'n meddwl bod yn rhaid inni gydnabod mai'r anhyblygrwydd hwnnw, nid unrhyw anhyblygrwydd ar ran Llywodraeth Prydain, sydd wedi ein rhoi yn y sefyllfa yr ydym ynddi heddiw.
Mae'n gwbl glir o'r alwad gan y Cyngor Ewropeaidd na allwn hyd yn oed ddechrau siarad am drafodaethau masnach hyd nes inni ddatrys yr hyn y mae'r Prif Weinidog yn ei ddatganiad ei hun yn dweud yw mân fater yr arian. Rydym ni’n sôn am £20 biliwn y mae'r Prif Weinidog wedi ei gynnig—arian trethdalwyr Prydain—na ddylai hi fod wedi’i gynnig, yn fy marn i. Nid yw'r UE wedi enwi ffigur penodol; gallai fod yn gofyn am unrhyw beth rhwng £60 biliwn a £100 biliwn o'n harian ni, fel pridwerth, cyn iddynt hyd yn oed ddechrau’r trafodaethau am fasnach.
Felly, dewch inni fod yn eithaf clir lle mae'r prif fai yma: nid bai Llywodraeth Prydain ydyw, er nad wyf edmygu o gwbl y ffordd y maent wedi ymddwyn yn ystod y broses negodi hon. Y cyfan y mae'n rhaid i'r Prif Weinidog ac unrhyw un arall ei wneud er mwyn deall y broses sy'n digwydd yma yw darllen y llyfr a gyhoeddwyd yn gymharol ddiweddar gan Yanis Varoufakis, ‘Adults in the Room’—sosialydd adain chwith na fyddai, efallai, yn ystyried y Prif Weinidog yn sosialydd ei hun. Ond serch hynny, mae ef wedi nodi—[Torri ar draws.] Mae'n wir, mae’n arhoswr. Ond mae wedi nodi yn ystod y llyfr hwn beth fyddai tactegau negodi’r Undeb Ewropeaidd yn ystod trafodaethau Brexit. Ac mae'r dilyniant yn gwbl allweddol iddo, oherwydd yr hyn y mae'r UE yn ei wneud yma yw chwarae cachgi—pwy sy'n mynd i flincio gyntaf? Ac os nad yw'r arian yn bwysig i ni, mae hyd yn oed yn llai pwysig i'r UE, oherwydd mae cynnyrch domestig gros yr UE, wrth gwrs, lawer gwaith mwy na’r Deyrnas Unedig. Felly, mae gan yr UE gymaint o ddiddordeb mewn cytundeb masnach synhwyrol â Phrydain ag sydd gan Brydain â nhw yn y dyfodol. Ond maen nhw'n chwarae gêm wahanol i'r un y mae'n ymddangos bod y Prif Weinidog yn meddwl eu bod yn chwarae.
Nawr, rwy'n falch o'r cynnydd bach y mae’n ymddangos sydd wedi digwydd o ran rhoi trefn ar y trefniadau cyfansoddiadol ar gyfer y dyfodol yn y Deyrnas Unedig, ac rwy'n sicr yn cytuno â dull bras cyffredinol Llywodraeth Cymru ac, yn wir, hyd yn oed â llawer o'r hyn a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru yn gynharach. Ond y prif anhawster sydd gennym yma yw bod etholwyr y Deyrnas Unedig wedi pleidleisio dros adael yr UE ac, yn wir, bod etholwyr Cymru wedi gwneud hynny, ac er fy mod yn sicr yn erbyn unrhyw fath o gipio grym deddfwriaethol gan San Steffan, hyd yn oed dros dro, serch hynny, yr amcan pwysicaf yw bod Prydain gyfan, gan gynnwys Cymru, yn gadael yr UE, ac nid yw'r telerau ar gyfer gwneud hynny yn hollol o fewn ein rheolaeth, yn amlwg, oherwydd mewn cytundeb mae'n rhaid i’r ddwy ochr gyrraedd safbwynt cyffredin. Ac nid oes gennym syniad beth yw llinell waelod yr UE, ond os dywedwn mai ein llinell waelod ni yw y byddwn yn derbyn beth bynnag sydd ar gael, fydd yna ddim negodi o gwbl, ac mae’n ymddangos i mi mai dyna yw sail sylfaenol ymagwedd y Prif Weinidog at hyn. Mae 'dim bargen' yn annychmygadwy; ni allwn dderbyn dim bargen o dan unrhyw amgylchiadau. Pwy ar y ddaear mewn busnes sy’n mynd i drafodaeth ac yn dweud, ‘Gwnaf gymryd beth bynnag rydych chi’n ei gynnig imi.’ Byddai hynny'n wallgofrwydd llwyr. Wrth gwrs, hoffem daro bargen—hoffem gytundeb masnach rydd cynhwysfawr gyda'r UE—ond os nad ydyn nhw'n barod i'w gynnig, does dim byd y gallwn ei wneud am y peth. Ac ni fyddwn yn derbyn y dull pridwerth y mae’n ymddangos bod yr UE yn ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Y dacteg yw bod Monsieur Barnier yn dweud nad oes ganddo fandad i negodi ar ddim byd hyd nes y bydd y Cyngor Ewropeaidd yn dweud wrtho y caiff wneud hynny, felly pan fydd Theresa May yn mynd i'r Cyngor Ewropeaidd i ddweud, ‘Rydym ni eisiau siarad am fasnach rydd', byddan nhw'n dweud, ‘O na, mae’n rhaid ichi fynd i siarad â Michel Barnier’, a dydyn ni’n mynd dim pellach. A dyna pam rydym ni yn y sefyllfa yr ydym ynddi heddiw.
Mae'n ddrwg gen i bod rhan helaeth o'r datganiad wedi’i neilltuo i barhau â'r ymagwedd ‘prosiect ofn’ a gawsom yn y refferendwm, gyda'r llu o gyrff sy'n dweud bod yn rhaid inni daro bargen am unrhyw bris. Y mwyaf chwerthinllyd ohonynt, wrth gwrs, yw Consortiwm Manwerthu Prydain sy'n dweud y gallai troi’n ôl at dariffau Sefydliad Masnach y Byd olygu y bydd siopwyr yn y DU yn talu hyd at draean yn fwy am eitemau bwyd bob dydd. Beth yw pwynt y PAC heblaw am gadw allan bwyd tramor rhad? Ei holl bwynt yw bod prisiau bwyd y byd yn is na phrisiau bwyd yr UE. Ni fyddai pwynt i’r tariffau pe byddai prisiau bwyd yn ddrutach yng ngweddill y byd. Yn wir, mae pris bwyd cyfartalog wrth adael gatiau ffermydd yn yr UE 17 y cant yn uwch nag ym marchnadoedd y byd. Mae hynny'n cymryd swm sylweddol o bocedi pobl gyffredin Prydain. Nawr, wrth gwrs, rwy'n credu mewn cefnogi ffermwyr Prydain, ond y gwir amdani yw, am bob £1 y mae trethdalwyr Prydain yn ei wario drwy gyfrwng yr UE ar ffermwyr Prydain, ein bod ni’n talu £1 arall i gefnogi ffermwyr mewn rhannau eraill o'r UE. Felly, mae'r syniad na allem ni barhau â rhyw fath o gefnogaeth amaethyddol ar ôl gadael yr UE yn nonsens llwyr. A dweud y gwir, byddai gennym fwy o arian i'w wario ar ffermwyr petaem yn penderfynu bod hynny'n beth dymunol i'w wneud.
Mae’r Prif Weinidog yn dweud yn y datganiad hwn nad yw'n credu mewn rhoi bargen wael i drethdalwyr, ond mae'n barod i dderbyn unrhyw fargen sydd ar gael, felly bydd yn barod i dalu unrhyw swm y bydd yr UE am ei fynnu gennym. Gallai fod yn £60 miliwn, £100 miliwn, £200 biliwn—unrhyw ffigur: ‘Enwch chi’r pris, gwnawn ni ei dalu.’ Dyna dacteg negodi wych! Ni allai unrhyw un synhwyrol, yn sicr neb cyfrifol, erioed fynd i drafodaeth ryngwladol ar y sail honno. Wrth gwrs, mae gennym broblemau i’w datrys, yn enwedig y ffin ag Iwerddon, ffin y mae'r Prif Weinidog yn gwybod llawer iawn amdani, fel yr wyf finnau, yn wir; bûm yn chwip y Llywodraeth dros Ogledd Iwerddon unwaith. Ond prin y gallwch siarad am ddyfodol ein perthynas fasnach â Gweriniaeth Iwerddon os na allwn siarad am ein perthynas fasnach â’r UE yn y dyfodol. Felly, mae'r dilyniant yma i gyd yn anghywir. Felly, maen nhw am inni ildio ar bopeth cyn y gwnânt siarad am unrhyw beth. Wel, nid negodi yw hynny o gwbl, ac mae'n bendant yn erbyn buddiannau Prydain pe byddem o blaid hynny.
Felly, rwy’n meddwl y byddai'r Prif Weinidog wedi gwneud gryn dipyn yn well yn ei, yr hyn y gallem ei alw'n negodi 'domestig', gyda Llywodraeth Prydain pe byddai wedi bod yn fwy optimistaidd am ganlyniad Brexit neu o leiaf am y cyfleoedd i Brydain lwyddo o ganlyniad i fod yn rhydd i fasnachu’n fwy rhydd yn y byd. Rwy’n gwybod ei fod yn besimistaidd iawn ynghylch y posibiliadau o ddod i gytundeb masnach rydd â gwledydd eraill, ond mae yna lawer o wledydd, yn enwedig gwledydd y Gymanwlad, sy'n awyddus iawn i ddechrau'r broses o sgyrsiau. Ac, yn wir, maen nhw, mewn ffordd anffurfiol, yn dechrau. Ond, wrth i’r cloc dicio, dewch inni fod yn hollol glir bod pobl Prydain a phobl Cymru ar 23 Mehefin y llynedd, wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, heb os nac oni bai. Mae’r syniad na ddywedwyd wrth neb y byddai hyn yn golygu gadael y farchnad sengl neu'r undeb tollau—. Roedd pob un arhoswr brwd yn taro’r drwm ac yn defnyddio'r geiriau hynny bob munud bob dydd yn ystod ymgyrch y refferendwm. Ac, wrth gwrs, gallai neb warantu beth fyddai canlyniad trafodaethau masnach gyda'r UE yn y dyfodol. Efallai nad ydynt yn deall ble mae eu hunan-fudd rhesymol. Wedi'r cyfan, mae yna lawer iawn o afresymoldeb yn yr UE. Beth yw ardal yr ewro ond adeiladwaith o afresymoldeb anhygoel sydd wedi rhoi hanner cyfandir ar y clwt?
Felly, pe byddai’r Prif Weinidog ond ychydig yn fwy optimistaidd ynghylch nid yn unig gobeithion a dyheadau pobl Prydain ond hefyd eu gallu i wneud eu gwlad yn llwyddiant yn y byd yn y dyfodol, efallai y byddai Llywodraeth Prydain wedi gwrando llawer iawn mwy ar yr hyn y bu ganddo i’w ddweud.