6. 6. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Drafodaethau Brexit

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:13 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 6:13, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Iawn. Yr hyn a fyddai'n ein bodloni yw cael gwared â'r cipio grym, ymrwymiad i ymagwedd gydweithredol at farchnad sengl y DU, ymrwymiad i ymagwedd gydweithredol a chytûn at fframweithiau, at gymorth gwladwriaethol, a hefyd at y ffordd y mae'r farchnad yn cael ei rheoleiddio a dyfarniad llys. Y rheini yw ein llinellau coch ni o ran cipio grym.

O ran dadansoddi effaith, mae pobl eraill wedi gwneud y dadansoddiad hwnnw. Nid oes dim ohono’n dda. Mae Llywodraeth y DU, rydym yn meddwl, wedi gwneud un ac nid ydym yn meddwl ei fod yn arbennig o dda oherwydd nid yw wedi cael ei rannu â neb arall. A ddylid cynnal cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn amlach? Dylid. Hoffwn pe bai cyfarfod llawn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn ogystal â’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE). Bydd gennym Gyngor Prydain-Iwerddon y mis nesaf ac mae gennyf gyfarfod wedi'i gynllunio gyda'r Prif Weinidog yr wythnos nesaf, sy’n gynnydd. A ddylent gyfarfod yn amlach? Dylent. Mae gennym gyfarfodydd dwyochrog hefyd, dylwn ychwanegu, yn ogystal â’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion, sy'n ein helpu i drafod rhai o'r materion hyn hefyd. Mae'n drueni ei bod wedi cymryd wyth mis i'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Un o'r problemau yn y gorffennol oedd eu bod yn cyfarfod yn afreolaidd, gyda chadeiryddion gwahanol bob amser ac nad oedd pobl yn gwybod beth oedd wedi digwydd yn y cyfarfod cyn hynny neu pwy oedd yn eistedd yn y gadair. Mae angen cysondeb; mae angen i'r un bobl fod yn y cyfarfodydd hynny bob tro er mwyn gwneud cynnydd. Dyna'r hyn sydd ei angen arnom. Dyna'r hyn yr ydym wedi bod yn ei ddweud ers misoedd lawer nawr, a dyna beth y byddwn yn parhau i’w argymell.