6. 6. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Drafodaethau Brexit

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:14 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 6:14, 24 Hydref 2017

A fyddai’r Prif Weinidog yn cytuno ein bod ni’n wynebu penderfyniad dau refferendwm sydd yn gwrthdaro â'i gilydd? Yn gyntaf, y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd—roedd y canlyniad o fwyafrif bychan yn glir. Ond mae yna refferendwm arall, pwysig iawn, i ni yn y lle hwn, sef 2011, pan bleidleisiodd pobl Cymru dros ychwanegu grymoedd cyfreithiol i’r lle hwn. Ac felly, onid ydy hi’n hollol amhriodol inni basio cynnig cydsyniad deddfwriaethol i Fil sydd yn tynnu pwerau oddi wrth Senedd Cymru?