Part of the debate – Senedd Cymru am 6:16 pm ar 24 Hydref 2017.
A dweud y gwir, byddai rhywun teg yn dechrau drwy gymeradwyo’r trafodaethau adeiladol ond cadarn y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am y Bil ymadael â’r UE ac am beirianwaith newidiadau’r Llywodraeth hefyd. Fel rhywun teg, rhof glod lle mae’n haeddiannol. Ond o ran y cynnig cydsyniad deddfwriaethol a hefyd y peirianwaith angenrheidiol o ran newidiadau gan y Llywodraeth, pa un a yw'n Bwyllgor Cyd-Weinidogion neu Gyngor Gweinidogion cryfach, a gaf i ei annog, os gwelwch yn dda, i beidio â rhoi’r wobr yn rhy hawdd, yn seiliedig ar y cyflwyniadau gan bwyllgor David Rees, y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, a'n pwyllgor ni, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a’n sesiwn dystiolaeth ar y cyd, ynghyd â'n hymweliad yr wythnos diwethaf â'r fforwm rhyng-seneddol ar ymadael â’r UE. Byddai'r hyn a glywsom yn awgrymu’n gryf bod angen iddo ddal yn dynn iawn a bod angen iddo sicrhau’r newidiadau o fewn peirianwaith y Llywodraeth a hefyd y cynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd ei angen a pheidio â rhoi'r gorau iddi yn hawdd ar hynny.
Ond a gaf i ofyn iddo ble mae'n sefyll ar y consensws trawsbleidiol sy'n tyfu yn Llywodraeth y DU y dylai'r fargen olaf, ac yn enwedig 'dim bargen', fod yn destun pleidlais yn Senedd y DU yn yr hyn a fyddai, mewn gwirionedd, yn dangos gwir sofraniaeth seneddol, neu yng ngeiriau’r 'Brexiteers', 'cael ein gwlad yn ôl'?