6. 6. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Drafodaethau Brexit

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:17 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 6:17, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, gallaf sicrhau'r Aelod na chaiff dim gwobr ei hildio—nid wyf yn ei ystyried yn wobr, rwy’n ei ystyried yn degwch ac rwy'n ei ystyried yn barch at ganlyniadau'r refferendwm ac rwy'n ei weld fel ymrwymiad i ymagwedd gydweithredol fel partneriaid yn yr undeb. Nid yw’n llawer, does bosib, i ofyn amdano.

O ran y fargen, rwyf wedi dweud y dylai unrhyw fargen fod yn destun pleidlais, nid yn unig yn Senedd y DU, ond yma hefyd ac yn Senedd yr Alban a gobeithiwn, wrth gwrs, ar ryw adeg yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon. Pam? Oherwydd bydd hynny'n effeithio ar ardaloedd datganoledig. Er mwyn cael y cytundeb ehangaf posibl â bargen, mae'n gwneud synnwyr perffaith i mi i gael pleidlais ym mhob un o'r pedwar sefydliad. Os nad oes bargen, byddai hynny'n fethiant mor druenus fel y byddai angen etholiad cyffredinol ar unwaith.