7. 7. Rheoliadau Dyddodi Gwastraff heb Awdurdod (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2017

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 6:20, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig.

Rwy'n cyflwyno'r rheoliadau a fydd yn mewnosod darpariaethau newydd yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, a fydd yn caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer achosion o dipio anghyfreithlon. O dan y darpariaethau newydd, bydd awdurdodau lleol yn gallu pennu swm cosb benodedig o rhwng £150 a £400, gyda swm diofyn o £200. Gallai gostyngiad ar gyfer talu cynnar fod ar gael, a gall awdurdodau lleol gadw'r derbyniadau i helpu i gyfrannu at gostau mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon. Ceir defnyddio'r hysbysiadau cosb benodedig ar dir cyhoeddus a phreifat. Mae'n offeryn gorfodi ychwanegol i helpu i fynd i’r afael â’r troseddau tipio anghyfreithlon hynny ar raddfa fechan pan ystyrir bod erlyniad yn anghymesur. Fodd bynnag, bydd awdurdodau lleol yn dal i allu defnyddio eu pwerau erlyn troseddol sy'n bodoli eisoes am droseddau y maent yn eu hystyried yn amhriodol ar gyfer hysbysiad cosb benodedig, er enghraifft i fynd i’r afael â throseddwr parhaus.

Mae hysbysiad cosb benodedig yn ffordd bwysig o fynd i'r afael â throsedd amgylcheddol, cyn belled â'u bod yn cael eu cyflwyno’n synhwyrol, eu gorfodi’n deg a’u bod yn cael eu hystyried fel ymateb i broblem wirioneddol. Fodd bynnag, teimlaf ei bod yn bwysig bod ymgysylltiad cyhoeddus priodol, codi ymwybyddiaeth a rhaglenni addysg ehangach yn cyd-fynd â nhw. Credaf fod hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau ymateb cadarnhaol gan ein dinasyddion a gostyngiad cynaliadwy mewn ymddygiad troseddol. Rwy'n falch o gymeradwyo'r cynnig hwn i'r Siambr.