7. 7. Rheoliadau Dyddodi Gwastraff heb Awdurdod (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2017

– Senedd Cymru am 6:20 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:20, 24 Hydref 2017

Rydym ni’n symud nesaf at y Rheoliadau Dyddodi Gwastraff heb Awdurdod (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2017, ac rydw i’n galw ar Ysgrifennydd Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i wneud y cynnig—Lesley Griffiths.

Cynnig NDM6540 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Dyddodi Gwastraff Heb Awdurdod (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Hydref 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 6:20, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y cynnig.

Rwy'n cyflwyno'r rheoliadau a fydd yn mewnosod darpariaethau newydd yn Neddf Diogelu'r Amgylchedd 1990, a fydd yn caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer achosion o dipio anghyfreithlon. O dan y darpariaethau newydd, bydd awdurdodau lleol yn gallu pennu swm cosb benodedig o rhwng £150 a £400, gyda swm diofyn o £200. Gallai gostyngiad ar gyfer talu cynnar fod ar gael, a gall awdurdodau lleol gadw'r derbyniadau i helpu i gyfrannu at gostau mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon. Ceir defnyddio'r hysbysiadau cosb benodedig ar dir cyhoeddus a phreifat. Mae'n offeryn gorfodi ychwanegol i helpu i fynd i’r afael â’r troseddau tipio anghyfreithlon hynny ar raddfa fechan pan ystyrir bod erlyniad yn anghymesur. Fodd bynnag, bydd awdurdodau lleol yn dal i allu defnyddio eu pwerau erlyn troseddol sy'n bodoli eisoes am droseddau y maent yn eu hystyried yn amhriodol ar gyfer hysbysiad cosb benodedig, er enghraifft i fynd i’r afael â throseddwr parhaus.

Mae hysbysiad cosb benodedig yn ffordd bwysig o fynd i'r afael â throsedd amgylcheddol, cyn belled â'u bod yn cael eu cyflwyno’n synhwyrol, eu gorfodi’n deg a’u bod yn cael eu hystyried fel ymateb i broblem wirioneddol. Fodd bynnag, teimlaf ei bod yn bwysig bod ymgysylltiad cyhoeddus priodol, codi ymwybyddiaeth a rhaglenni addysg ehangach yn cyd-fynd â nhw. Credaf fod hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau ymateb cadarnhaol gan ein dinasyddion a gostyngiad cynaliadwy mewn ymddygiad troseddol. Rwy'n falch o gymeradwyo'r cynnig hwn i'r Siambr.

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 6:22, 24 Hydref 2017

Mae Plaid Cymru yn cefnogi’r rheoliadau sydd gerbron y Siambr heddiw, ond rwyf jest eisiau gofyn cwpl o gwestiynau a gwneud ambell i sylw. Yn gyntaf oll, rwy’n siomedig bod y memorandwm esboniadol, sydd ddim ond yn 10 tudalen, sy’n esbonio’r rheoliadau hyn, ddim ond ar gael yn Saesneg. Yn fy marn i, os ŷch chi’n cyflwyno unrhyw fath o ddeddfwriaeth, gan gynnwys deddfwriaeth eilaidd, sydd yn rhoi cosbau ar unigolion, neu sydd yn gallu arwain at ryw fath o ddilyniant cyfreithiol a throseddol, mi ddylai fod ar gael yn ddwyieithog. Mae’n siomedig nad yw’r Llywodraeth fersiwn yn Gymraeg o’r memorandwm esboniadol yn fan hyn.

Yr ail bwynt rydw i eisiau gwneud yw bod—dyma enghraifft berffaith o beth rŷm ni newydd fod yn trafod. Nid ydw i eisiau parhau’r drafodaeth y cawsom ni dros awr gynnau fach, ond dyma gyflwyno rheoliadau amgylcheddol, ac a gawn ni fod yn glir bod y rheoliadau hyn yn deillio yn uniongyrchol o Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972? Pe baem ni ddim yn llwyddo yn y frwydr yma gyda San Steffan ynglŷn â phwy sydd â’r hawl i’r grymoedd sydd yn dod i law o’r gymuned Ewropeaidd wrth inni ymadael â’r gymuned Ewropeaidd, dyma enghraifft o Gynulliad heddiw yn pasio rheoliadau a fydd wedyn yn nwylo Gweinidogion yn San Steffan. Felly, enghraifft go iawn sydd ger ein bron heddiw o ba mor bwysig yw e ein bod ni’n ennill y frwydr yma, a pheidio â chaniatáu i San Steffan ennill y frwydr ynglŷn â gafael yng ngrym y Cynulliad ar faterion Ewropeaidd.

Y trydydd pwynt ar hyn, sydd yn gwestiwn hefyd i’r Gweinidog: rydw i’n croesawu’r ffaith bod gyda ni arf ychwanegol i fynd i’r afael â dyddodi sbwriel a chael gwared ar wastraff yn y modd yma. Rydw i jest eisiau bod yn siŵr, pan fydd hyn yn codi o hyd fel mater o batrwm—. Nid ydym yn sôn am rywun yn cael gwared ar ‘fridge’—mae’n hollol briodol eu bod nhw’n cael cosb benodol am hynny—ond pan fydd gyda chi dystiolaeth bod rhywun yn defnyddio caeau ffermwyr, cornel lawr y stryd neu lôn gefn fel ffordd o gael gwared ar wastraff yn gyson—ac rŷm ni wedi gweld yn y gorffennol rai adeiladwyr sydd heb ddilyn y drefn ac ati—na fyddwn ni’n dibynnu ar y cosbau penodol hyn wedyn, ond bod yn rhaid mynd â’r bobl yna i’r llys o dan Ddeddf amgylcheddol. Felly, rydw i jest eisiau deall gan yr Ysgrifennydd Cabinet ble mae hi’n credu y mae’r cosbau penodol yn y fan hyn yn y rheoliadau priodol, a ble mae’n credu y dylai’r awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill ddefnyddio’r ystod helaethaf o bwerau statudol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:25, 24 Hydref 2017

Yr Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i’r ddadl, felly. Nid oes yna siaradwyr eraill.

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Byddaf yn sicrhau bod y ddogfen ar gael yn Gymraeg cyn gynted â phosib. Rwy'n rhoi’r sicrwydd hwnnw i chi.

Rydych chi’n gwbl iawn bod hon yn enghraifft berffaith o'r hyn yr ydym ni newydd fod yn siarad amdano, a byddwch wedi fy nghlywed i’n dweud sawl gwaith fy mod o’r farn bod ein safonau amgylcheddol yng Nghymru yn llawer uwch nag mewn rhannau eraill o'r DU, yn rhannol. Ac, yn sicr, os edrychwch chi ar ein hailgylchu, er enghraifft, mae hynny'n rhan o'n hamgylchedd lle mae gennym safonau uchel iawn ac rydym wedi cyrraedd targedau llawer uwch na rhannau eraill. Ac rwyf wedi dweud hyn: mae'n rhaid i ni allu gosod y cyfyngiadau hynny a bod y polisïau hynny ar waith ac nad ydynt yn cael eu gorfodi arnom ni gan Lywodraeth y DU. Felly, rwy'n credu eich bod chi'n hollol iawn: mae hon yn enghraifft berffaith.

O ran yr enghreifftiau a roesoch chi, soniais i yn fy sylwadau agoriadol y byddai awdurdodau lleol yn dal i allu defnyddio eu pwerau erlyn troseddol presennol ar gyfer troseddau y byddent yn eu hystyried yn amhriodol ar gyfer hysbysiad cosb benodedig a chredaf fod troseddwr parhaus, unwaith eto, yn enghraifft dda o hynny. Felly, dim ond rhan o'r ddau ydyw hyn. Rwyf wedi cyfarfod ag awdurdodau lleol sydd wedi gofyn imi gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon; maen nhw'n teimlo y byddai'n fuddiol iawn wrth fynd i'r afael â throseddau amgylcheddol, ond eu dewis nhw yw gallu penderfynu pryd y maen nhw eisiau defnyddio'r pwerau sydd ganddyn nhw o ran erlyn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:26, 24 Hydref 2017

Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.