Part of the debate – Senedd Cymru am 6:25 pm ar 24 Hydref 2017.
Diolch. Byddaf yn sicrhau bod y ddogfen ar gael yn Gymraeg cyn gynted â phosib. Rwy'n rhoi’r sicrwydd hwnnw i chi.
Rydych chi’n gwbl iawn bod hon yn enghraifft berffaith o'r hyn yr ydym ni newydd fod yn siarad amdano, a byddwch wedi fy nghlywed i’n dweud sawl gwaith fy mod o’r farn bod ein safonau amgylcheddol yng Nghymru yn llawer uwch nag mewn rhannau eraill o'r DU, yn rhannol. Ac, yn sicr, os edrychwch chi ar ein hailgylchu, er enghraifft, mae hynny'n rhan o'n hamgylchedd lle mae gennym safonau uchel iawn ac rydym wedi cyrraedd targedau llawer uwch na rhannau eraill. Ac rwyf wedi dweud hyn: mae'n rhaid i ni allu gosod y cyfyngiadau hynny a bod y polisïau hynny ar waith ac nad ydynt yn cael eu gorfodi arnom ni gan Lywodraeth y DU. Felly, rwy'n credu eich bod chi'n hollol iawn: mae hon yn enghraifft berffaith.
O ran yr enghreifftiau a roesoch chi, soniais i yn fy sylwadau agoriadol y byddai awdurdodau lleol yn dal i allu defnyddio eu pwerau erlyn troseddol presennol ar gyfer troseddau y byddent yn eu hystyried yn amhriodol ar gyfer hysbysiad cosb benodedig a chredaf fod troseddwr parhaus, unwaith eto, yn enghraifft dda o hynny. Felly, dim ond rhan o'r ddau ydyw hyn. Rwyf wedi cyfarfod ag awdurdodau lleol sydd wedi gofyn imi gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon; maen nhw'n teimlo y byddai'n fuddiol iawn wrth fynd i'r afael â throseddau amgylcheddol, ond eu dewis nhw yw gallu penderfynu pryd y maen nhw eisiau defnyddio'r pwerau sydd ganddyn nhw o ran erlyn.