Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 24 Hydref 2017.
Diolch, Llywydd. Mae datblygu proffesiwn addysgu o ansawdd uchel a chreu arweinyddion ysbrydoledig i helpu i godi safonau ymhlith amcanion ein cynllun addysg cenedlaethol newydd. Un elfen bwysig o'n diwygiadau i gefnogi hyn yw'r gwaith yr ydym wedi'i wneud gyda'n partneriaid addysg uwch ac ysgolion i gynllunio ar gyfer gweddnewid addysg gychwynnol i athrawon.
Fel y dywedais yn gynharach y prynhawn yma, ni all system addysg fod yn well na safon ei hathrawon, ac ni ellir cyflwyno ein cwricwlwm cenedlaethol newydd heb broffesiwn addysgu uchelgeisiol a gefnogir yn dda. I wneud hynny, bydd angen gweithlu addysg o ansawdd uchel arnom sy'n fywiog, sy’n ymgysylltu ac sy’n ymrwymedig i ddysgu parhaus i bawb.
Gan fod Cyngor y Gweithlu Addysg eisoes wedi cael y pwerau i achredu hyfforddiant cychwynnol i athrawon o fis Medi 2019 ymlaen, mae'n briodol y dylent hefyd gymryd y swyddogaeth ychwanegol hon a nodwyd trwy ein trafodaethau gyda Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae'r Gorchymyn hwn yn fân welliant ac fe'i nodwyd yn rhan o'n hymgysylltiad parhaus â CCAUC. Y cyfan y mae’n ei wneud yw nodi swyddogaeth arall i Cyngor y Gweithlu Addysg i roi sylw i ragfynegiad Gweinidogion Cymru o'r galw am athrawon newydd gymhwyso, wrth arfer ei swyddogaeth achredu addysg gychwynnol i athrawon.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r ffaith nad yw Llywodraeth Cymru yn rheoli'n uniongyrchol pa gyrsiau a gynigir mewn sefydliadau penodol. Fodd bynnag, mae'n rheoli cyflenwad cychwynnol athrawon trwy osod dyraniadau targed derbyn cyffredinol ar gyfer recriwtio i addysg gychwynnol i athrawon. 2018-19 fydd y flwyddyn olaf y bydd CCAUC yn dyrannu niferoedd hyfforddeion i sefydliadau. Mae CCAUC wedi cadarnhau y byddai'n fwy priodol i'r swyddogaeth hon o ddyrannu targedau derbyn symud i Cyngor y Gweithlu Addysg ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau'n gallu cefnogi'r cynnig hwn heno.