8. 8. Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) (Diwygio) 2017

– Senedd Cymru am 6:26 pm ar 24 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:26, 24 Hydref 2017

Yr eitem nesaf yw’r Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) (Diwygio) 2017. Rydw i’n galw ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i wneud y cynnig—Kirsty Williams.

Cynnig NDM6539 Jane Hutt

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) (Diwygio) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Hydref 2017.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 6:26, 24 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae datblygu proffesiwn addysgu o ansawdd uchel a chreu arweinyddion ysbrydoledig i helpu i godi safonau ymhlith amcanion ein cynllun addysg cenedlaethol newydd. Un elfen bwysig o'n diwygiadau i gefnogi hyn yw'r gwaith yr ydym wedi'i wneud gyda'n partneriaid addysg uwch ac ysgolion i gynllunio ar gyfer gweddnewid addysg gychwynnol i athrawon.

Fel y dywedais yn gynharach y prynhawn yma, ni all system addysg fod yn well na safon ei hathrawon, ac ni ellir cyflwyno ein cwricwlwm cenedlaethol newydd heb broffesiwn addysgu uchelgeisiol a gefnogir yn dda. I wneud hynny, bydd angen gweithlu addysg o ansawdd uchel arnom sy'n fywiog, sy’n ymgysylltu ac sy’n ymrwymedig i ddysgu parhaus i bawb.

Gan fod Cyngor y Gweithlu Addysg eisoes wedi cael y pwerau i achredu hyfforddiant cychwynnol i athrawon o fis Medi 2019 ymlaen, mae'n briodol y dylent hefyd gymryd y swyddogaeth ychwanegol hon a nodwyd trwy ein trafodaethau gyda Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae'r Gorchymyn hwn yn fân welliant ac fe'i nodwyd yn rhan o'n hymgysylltiad parhaus â CCAUC. Y cyfan y mae’n ei wneud yw nodi swyddogaeth arall i Cyngor y Gweithlu Addysg i roi sylw i ragfynegiad Gweinidogion Cymru o'r galw am athrawon newydd gymhwyso, wrth arfer ei swyddogaeth achredu addysg gychwynnol i athrawon.

Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r ffaith nad yw Llywodraeth Cymru yn rheoli'n uniongyrchol pa gyrsiau a gynigir mewn sefydliadau penodol. Fodd bynnag, mae'n rheoli cyflenwad cychwynnol athrawon trwy osod dyraniadau targed derbyn cyffredinol ar gyfer recriwtio i addysg gychwynnol i athrawon. 2018-19 fydd y flwyddyn olaf y bydd CCAUC yn dyrannu niferoedd hyfforddeion i sefydliadau. Mae CCAUC wedi cadarnhau y byddai'n fwy priodol i'r swyddogaeth hon o ddyrannu targedau derbyn symud i Cyngor y Gweithlu Addysg ac rwy’n gobeithio y bydd yr Aelodau'n gallu cefnogi'r cynnig hwn heno.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Nid oes yna siaradwyr. Ac felly, rwy’n cymryd nad yw’r Gweinidog eisiau ymateb i’r ddadl. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.