Bargen Ddinesig Bae Abertawe

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 25 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 1:30, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Nawr, y mis diwethaf, mewn ateb i Jeremy Miles, fe bwysleisioch chi, cyn belled â bod yr 11 prosiect wrthi’n cael eu paratoi, nad oedd yn rhaid i bob achos busnes gael eu paratoi cyn y gallent ddechrau gweithio. Ond mae problem o hyd gydag agweddau llywodraethu’r fargen ddinesig. Nawr, yn gynharach y mis hwn—ar 4 Hydref—mewn papur i bwyllgor craffu cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, tynnwyd sylw at y pryderon ynglŷn â’r materion llywodraethu. Beth yw ein sefyllfa mewn perthynas â’r materion llywodraethu, a phryd y byddwch yn gosod terfyn amser iddynt ar gyfer datrys y materion llywodraethu, gan fod rhai prosiectau yn barod i gychwyn, maent yn aros i’r broses hon gyrraedd pwynt lle y mae trefniadau llywodraethu ar waith ac y gallwn sicrhau eu bod yn mynd rhagddynt yn iawn?