Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 25 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 1:42, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fanylion ei chyllideb ddrafft, gan gynnwys tablau manwl o linellau gwariant y gyllideb ar gyfer 2018-19 a 2019-20. Yn ystod y 24 awr ddiwethaf, mae nifer o sefydliadau wedi mynegi pryder ynglŷn â llinell gyllideb Cefnogi Pobl o ystyried bod y llinell gyllideb benodol honno’n diflannu yn nhabl y gyllideb ar gyfer 2019-20. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn deall y pryderon hynod ddilys hyn gan ei fod yn rhan ganolog o’n cytundeb cyllidebol â Llywodraeth Cymru. A wnaiff Ysgrifennydd Cabinet fanteisio ar y cyfle hwn i egluro statws y grant Cefnogi Pobl am y ddwy flynedd ariannol, ac a all ymhelaethu’n benodol ar y berthynas rhwng y grant Cefnogi Pobl a grant cynnal refeniw llywodraeth leol ar gyfer y ddwy flynedd ariannol, o ystyried na fydd arian wedi’i neilltuo?