Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 25 Hydref 2017.
Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt da iawn yn y ffordd y mae’n ei roi, fod y grantiau’n cael eu dwyn ynghyd am eu bod yn ategu ei gilydd. Mae pob un ohonynt yn gweithredu ym maes atal ac ymyrraeth gynnar. Dirprwy Lywydd, dylwn fod wedi ateb y pwynt a wnaeth Steffan Lewis yn ei gwestiwn cyntaf i mi: nid cynnig i roi’r grant Cefnogi Pobl yn y grant cynnal refeniw yw hwn. Ni fydd yn mynd i mewn i’r rhan o’r setliad sydd heb ei neilltuo; bydd yn parhau i fod mewn grant sydd wedi’i neilltuo, lle y datblygir mecanweithiau’r modd y bydd y grant hwnnw’n gweithredu yn y dyfodol drwy ymgysylltu â’r sector ei hun, lle y bydd yn rhaid i awdurdodau lleol gynhyrchu cynlluniau cyflawni a lle y gwneir ôl-daliadau grant, yn amodol ar y ddarpariaeth honno. Felly, bydd mecanwaith clir ar gyfer yr arian rydym wedi’i gytuno ac a fydd yno dros y ddwy flynedd—bydd mecanwaith clir iawn i’w olrhain ac i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio at y diben a fwriedir.