Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 25 Hydref 2017.
Mae hwnnw’n bwynt pwysig iawn, wrth gwrs. Rwy’n falch o glywed yr eglurhad y bydd y neilltuo’n parhau ar ryw ffurf. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod y llinell gyllideb benodol ar gyfer y grant Cefnogi Pobl yn diflannu yn yr ail flwyddyn yn codi cwestiynau ynglŷn â sut y gallwn sicrhau y gallwn graffu’n briodol ac yn gywir fel cynrychiolwyr etholedig, ond hefyd o ran y sector yn ei gyfanrwydd, fod yr arian hwnnw, sy’n cael ei ddyrannu a’i warchod oherwydd y cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru, yn cael ei wario ar yr hyn a fwriadwyd mewn gwirionedd. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, gan ei fod wedi egluro na fydd uno â grantiau eraill yn arwain at swm gostyngol i brosiectau Cefnogi Pobl a’i fod yn fath o neilltuo, er y byddai’n digwydd drwy ffurf wahanol ar gyfrifo, fel petai, a all ddweud ar gyfer y cofnod ac egluro y byddwn yn gallu craffu i sicrhau mai dyna sy’n cael ei gyflawni ar lawr gwlad mewn gwirionedd, hyd yn oed yn absenoldeb llinell gyllideb benodol ar gyfer y grant Cefnogi Pobl yn llyfrau Llywodraeth Cymru?