Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 25 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:50, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, Dirprwy Lywydd, edrychaf ymlaen at weld yr e-bost yn llawn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf wedi gwrando arno, clywaf unigolyn a etholwyd yn gyhoeddus yn annog y syniad y gallai aelodau o’r cyhoedd ddod i ofyn cwestiynau mewn un o gyfarfodydd cyhoeddus y cyngor. Rwy’n ei chael hi’n anodd gweld, hyd yn hyn, beth sydd o’i le gyda hynny, ac rwy’n hollol sicr fod yr holl bleidiau gwleidyddol yma’n sicrhau bod eu haelodau’n cael gwybod am bethau, a phan fo materion sydd o ddiddordeb iddynt yn cael eu trafod, eu bod yn gallu dod i gymryd rhan mewn fforymau democrataidd.