Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 25 Hydref 2017.
Ie, diolch. Mae hynny, wrth gwrs—. Credaf fod angen i chi feddwl am yr anfanteision posibl, ac fe’u hamlinellwyd gennych, felly credaf fod hwnnw’n ateb synhwyrol.
Nawr, datblygiad arall yn Lloegr—[Torri ar draws.] Datblygiad arall yn Lloegr yw bod o leiaf un cyngor wedi llwyddo i sefydlu cwmni ynni dielw. Robin Hood Energy yn Nottingham yw’r cwmni hwnnw. Nawr, pe bai’r pwerau cymhwysedd cyffredinol hyn yn dod i Gymru, a ydych yn credu y buasai hwnnw’n syniad y gallai rhai cynghorau lleol fynd ar ei drywydd yn effeithiol yma?