Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 25 Hydref 2017.
Wel, Dirprwy Lywydd, mae gennym hanes hir a balch iawn yng Nghymru, sy’n dyddio’n ôl dros nifer o flynyddoedd—ac yn enwedig yn ystod y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel byd—o sosialaeth ddinesig, lle’r oedd awdurdodau lleol yn wir yn gyflenwyr uniongyrchol i wasanaethau cyfleustodau fel dŵr ac ynni. Nawr, rwy’n awyddus i weld rhywfaint o’r ysbryd hwnnw’n cael ei ailddyfeisio yn y cyfnod modern. Ni allwch wneud pethau’n union fel y caent eu gwneud bryd hynny, ond mae dod o hyd i ffyrdd newydd y gall awdurdodau lleol ddarparu gwasanaethau, gan sicrhau eu bod—ac onid yw hyn yn wir am y cynllun yn Swydd Nottingham? Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar sicrhau nad yw’r rhai sydd leiaf abl i dalu biliau o dan anfantais bellach wrth gael eu denu at y mathau drytaf o dariff. Drwy drefnu pethau ar sail gyhoeddus ac ar sail dosbarthu dielw, mae’n fwy posibl sicrhau bod tariffau ar gael sy’n diogelu’r rheini sydd angen eu diogelu fwyaf. Rwy’n siŵr y bydd rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn awyddus i edrych ar y profiad hwnnw a gweld a allant wneud mwy o’r math hwnnw o beth yma yng Nghymru.