Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 25 Hydref 2017.
Diolch. Wel, mewn gwirionedd, y Groes Goch a dynnodd fy sylw at y cwestiwn hwn, ac ar ôl hynny, ysgrifennais atoch gyda chwestiwn ysgrifenedig, ac roedd eich ateb yn cydnabod bod llywodraeth leol yn gyfrifol am ystod o wasanaethau ataliol, ond yn yr un modd, wedyn, fe ymateboch chi gan gyfeirio at gyllid llywodraeth leol yn gyffredinol. Pa ystyriaeth a roesoch, felly, i ddarpariaeth ariannol yn y cyd-destun y bydd datblygiadau cynaliadwy dan arweiniad y gymuned ar lefel awdurdodau lleol sy’n ysgogi unigolion, cymdeithasau a sefydliadau i ddod at ei gilydd ac adeiladu ar eu hasedau cymdeithasol, diwylliannol a materol, gan sicrhau eu bod yn ganolog wrth wneud penderfyniadau, yn atal anghenion gofal rhag dod yn fwy difrifol, ac felly’n arbed arian i awdurdodau lleol ar adegau pan fo’r gyllideb yn lleihau ac fel arall?