Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 25 Hydref 2017.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb. Ond o gofio bod y trethi newydd, wrth gwrs—unrhyw dreth newydd sy’n cael ei chyflwyno—yn gorfod cael cydsyniad Llywodraeth San Steffan yn ogystal, ac o edrych ar y pedair treth sydd nawr o dan ystyriaeth, pob un gyda rhinweddau ac anfanteision sy’n amrywio o’i gwmpas, pa mor bwysig yw e i’r Llywodraeth a’r Ysgrifennydd Cabinet bod o leiaf un o’r trethi yna, y dreth yn ymwneud â gwaredu plastig, yn newid ymddygiad pobl yn hytrach na chael ei gweld fel dreth sy’n codi arian oddi ar bobl? A ydy hwnnw’n awgrymu bod treth o’r math yna, fel gyda bagiau plastig o’r blaen, yn yr archfarchnadoedd ac ati, yn dreth sydd yn debyg o ennill cefnogaeth nid yn unig yn San Steffan, ond hefyd gan drwch y boblogaeth yma yng Nghymru?