1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 25 Hydref 2017.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr egwyddorion sy’n llywio ystyriaeth Llywodraeth Cymru o drethi newydd? (OAQ51244)[W]
Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae’r pump egwyddor sy’n sail i bolisi trethi Cymru, fel y maent wedi’u nodi yn y fframwaith polisi trethi, yn llywio ein hystyriaeth o drethi newydd.
Diolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am yr ateb. Ond o gofio bod y trethi newydd, wrth gwrs—unrhyw dreth newydd sy’n cael ei chyflwyno—yn gorfod cael cydsyniad Llywodraeth San Steffan yn ogystal, ac o edrych ar y pedair treth sydd nawr o dan ystyriaeth, pob un gyda rhinweddau ac anfanteision sy’n amrywio o’i gwmpas, pa mor bwysig yw e i’r Llywodraeth a’r Ysgrifennydd Cabinet bod o leiaf un o’r trethi yna, y dreth yn ymwneud â gwaredu plastig, yn newid ymddygiad pobl yn hytrach na chael ei gweld fel dreth sy’n codi arian oddi ar bobl? A ydy hwnnw’n awgrymu bod treth o’r math yna, fel gyda bagiau plastig o’r blaen, yn yr archfarchnadoedd ac ati, yn dreth sydd yn debyg o ennill cefnogaeth nid yn unig yn San Steffan, ond hefyd gan drwch y boblogaeth yma yng Nghymru?
Wel, Dirprwy Lywydd, jest i ddweud bod un o’r trethi newydd sydd gyda ni yn barod—y dreth gwarediadau tirlenwi, wrth gwrs—yn enghraifft o dreth sy’n trio cael effaith ar ymddygiad pobl mwy na chodi arian. So, rydw i’n cydnabod yr egwyddor y mae Simon Thomas wedi’i hawgrymu. Mae’r trethi newydd, pan fyddem ni’n eu hystyried nhw, pan fyddem ni’n gwneud yr achos y bydd yn rhaid i ni ei wneud pan fyddem ni’n mynd i San Steffan—mae mwy nag un peth rŷm ni’n gallu rhoi i mewn i’r asesiad yna, a’r effaith ar ymddygiad, gydag un neu ddau o bethau, yw un o’r pethau pwysig rŷm ni’n gallu gweithio lan a rhoi mewn i’r penderfyniad y bydd yn rhaid i ni ei wneud yn y flwyddyn newydd, pan fyddem ni’n dod i ddewis un o’r posibiliadau i’w roi ymlaen i brofi’r posibiliadau newydd sydd gyda ni dan y Ddeddf Cymru 2014.
Neithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet, mynychais gyfarfod grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth, ac roedd llawer o weithredwyr twristiaeth yno a oedd yn bryderus iawn ynglŷn â’ch awgrym y dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i weithredu treth dwristiaeth yma yng Nghymru. Mae’r genie, wrth gwrs, wedi dianc o’r botel, a hyd yn oed os ydych yn diystyru hyn yn gynnar, ac rwy’n mawr obeithio y gwnewch, bydd bwgan y posibilrwydd o dreth dwristiaeth rydych wedi caniatáu iddo fod ym meddyliau pobl yn peri pryder iddynt. Maent eisoes wedi dweud hyn yn y cyfarfod. Nawr, o ystyried y ffaith—[Torri ar draws.] O ystyried y ffaith bod hyn wedi cael ymateb mor negyddol gan y diwydiant twristiaeth fel ei fod yn achosi i lawer o fusnesau twristiaeth oedi rhag buddsoddi yn eu cyfleusterau eu hunain, a ydych yn derbyn bod hyd yn oed crybwyll awgrymiadau ar gyfer treth dwristiaeth wedi bod yn gamgymeriad enfawr, ac a fyddwch yn awr yn diystyru hyn am y tymor Cynulliad hwn o leiaf?
Mae’r Aelod, fel bob amser, yn gorliwio’i achos i’r fath raddau nes ei fod yn colli unrhyw effaith y gallai fod wedi’i chael. Hoffwn glywed am ei gyfarfod neithiwr. Rwy’n gobeithio nad oedd yn annog Aelodau eraill—[Torri ar draws.]
Rydych wedi gofyn y cwestiwn. A wnewch chi wrando ar ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, os gwelwch yn dda, heb dorri ar draws? Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet.
Rwyf ond yn dweud, Dirprwy Lywydd, fy mod yn gobeithio nad oedd yn annog Aelodau eraill o’i blaid i fynychu’r cyfarfod hwnnw a gofyn cwestiynau. Fel arall, bydd yr Aelod y tu ôl iddo—bydd mewn cryn drafferth gyda hi yn sgil hynny.
Fel y gŵyr yr Aelod yn iawn, yr hyn rydym wedi’i wneud yw cynnig pedwar syniad posibl—pob un ohonynt yn syniadau hollol brif ffrwd, pob un ohonynt yn syniadau sydd wedi’u profi mewn rhannau eraill o’r byd. Mae pob un ohonynt wedi bod yn rhan o’r ddadl sydd wedi bod yn mynd rhagddi yma yng Nghymru dros y misoedd diwethaf. Nid ydynt yn ddim mwy na phosibiliadau a bydd pob un ohonynt yn cael ei ddadansoddi’n ofalus.
Yr hyn sy’n siom go iawn i mi ynglŷn â chyfraniad yr Aelod, Dirprwy Lywydd, yw ei fod eisiau cau’r caead ar y ddadl cyn iddi ddechrau hyd yn oed, yn hytrach na defnyddio’r cyfle newydd sydd gennym yma yng Nghymru i gael trafodaeth agored ynglŷn â’r pethau hyn ac i glywed y dystiolaeth a chlywed gan bobl sydd â safbwyntiau gwahanol a phwyso a mesur wedyn yn y ffordd briodol. Credaf fod honno’n ffordd siomedig o feddwl sut y dylai ein democratiaeth weithio yma yng Nghymru.
I ddilyn y cwestiwn hwnnw—rwy’n deall na fydd yr Ysgrifennydd cyllid, yn amlwg, yn gallu ystyried na diystyru unrhyw un o’r trethi hyn ar hyn o bryd—a wnaiff gofio, wrth iddo wneud ei benderfyniad, adroddiad Fforwm Economaidd y Byd ar deithio, sydd wedi gosod y Deyrnas Unedig yn safle 140 o 141 o wledydd yn y byd mewn perthynas â chystadleurwydd o ran cost yn y diwydiant twristiaeth? Un wlad yn unig yn y byd sydd â threthi twristiaeth uwch na ni eisoes, os ydych yn cynnwys pethau fel y doll teithwyr awyr a TAW, a dylai cynnal cystadleurwydd economi Cymru, yn enwedig ar gyfer twristiaeth ryngwladol, fod yn un o’r egwyddorion pwysig sy’n sail i unrhyw benderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud ynglŷn â threthi.
Credaf fod yr holl dystiolaeth o unrhyw fan yn y byd yn werth ei hystyried yn rhan o’r ddadl y mae angen i ni ei chael ynglŷn â pha rai o’r trethi hyn sy’n werth bwrw ymlaen â hwy. Mae llawer o enghreifftiau o drethi twristiaeth mewn mannau eraill. Mae angen inni ystyried beth yw eu manteision a lle y nodwyd anfanteision. Gellir ystyried y dystiolaeth y cyfeiriodd yr Aelod ati y prynhawn yma yn rhan o’r ddadl ehangach honno.
Yn dilyn cwestiwn Simon ynglŷn â’r egwyddorion sy’n sail i drethi neu ardollau newydd, a gaf fi ofyn i ba raddau y mae Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol a’r egwyddorion sy’n sail iddi wedi eu hymgorffori yn y cynigion newydd? Gwyddom y bydd y gyfran o bobl hŷn y rhagwelir y bydd angen gofal preswyl arnynt yn codi dros 80 y cant erbyn 2035, mewn llai nag 20 mlynedd, ynghyd â chynnydd o bron i 70 y cant yn y gyfran sydd angen gofal dibreswyl.
Mae Gerald Holtham a Tegid Roberts wedi awgrymu y gallai ardoll fach wedi’i neilltuo, o dan arweiniad ymddiriedolwyr i fynd i gronfa, cronfa yswiriant cymdeithasol estynedig yng Nghymru, ariannu gofal cymdeithasol digonol yng Nghymru yn y dyfodol y gellir ei ragweld. Oni fuasai hon yn enghraifft wych o ddefnyddio’r egwyddorion a ymgorfforir yn Neddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol i arwain datblygiad trethi ac ardollau yng Nghymru ac i wella bywydau dinasyddion Cymru?
Diolch i Huw Irranca-Davies. Mae tri o’r pedwar posibilrwydd gwahanol ar ein rhestr bellach wedi cael eu crybwyll y prynhawn yma. Credaf fod hynny’n arwydd da iawn o’n gallu i gael trafodaeth briodol ynglŷn â’r gwahanol ffyrdd y gellid defnyddio pwerau sydd wedi dod i Gymru.
Mae gwaith Gerry Holtham a Tegid Roberts yn ddifrifol iawn. Gwn eu bod wedi cyfarfod yn ddiweddar â’m cyd-Aelod Rebecca Evans ac wedi sôn am fwy o waith sydd angen ei wneud er mwyn adeiladu ar y posibilrwydd hwnnw. Yr hyn rwy’n awyddus i’w wneud wedyn, Dirprwy Lywydd, fel rwyf wedi egluro yn y Siambr o’r blaen, yw treialu’r mecanweithiau newydd a nodir yn Neddf 2014. Byddaf yn trafod hynny gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys pan fyddaf yn cyfarfod â hi yfory. Ceir cyfres o brofion y bydd angen i ni allu eu hateb ar lefel y DU yma pan fydd Llywodraeth yn penderfynu pa geisiadau i’w cyflwyno, os o gwbl. Yna, byddai cysondeb ag egwyddorion Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn sicr yn rhywbeth y byddai unrhyw Weinidog yn disgwyl i Aelodau eraill graffu arno a’i brofi.
Diolch yn fawr. Ac yn olaf, cwestiwn 6—Angela Burns.