Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 25 Hydref 2017.
Neithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet, mynychais gyfarfod grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth, ac roedd llawer o weithredwyr twristiaeth yno a oedd yn bryderus iawn ynglŷn â’ch awgrym y dylid rhoi ystyriaeth ddifrifol i weithredu treth dwristiaeth yma yng Nghymru. Mae’r genie, wrth gwrs, wedi dianc o’r botel, a hyd yn oed os ydych yn diystyru hyn yn gynnar, ac rwy’n mawr obeithio y gwnewch, bydd bwgan y posibilrwydd o dreth dwristiaeth rydych wedi caniatáu iddo fod ym meddyliau pobl yn peri pryder iddynt. Maent eisoes wedi dweud hyn yn y cyfarfod. Nawr, o ystyried y ffaith—[Torri ar draws.] O ystyried y ffaith bod hyn wedi cael ymateb mor negyddol gan y diwydiant twristiaeth fel ei fod yn achosi i lawer o fusnesau twristiaeth oedi rhag buddsoddi yn eu cyfleusterau eu hunain, a ydych yn derbyn bod hyd yn oed crybwyll awgrymiadau ar gyfer treth dwristiaeth wedi bod yn gamgymeriad enfawr, ac a fyddwch yn awr yn diystyru hyn am y tymor Cynulliad hwn o leiaf?