10. 10. Dadl Fer: Darparu Gofal Sylfaenol yn Llanidloes: Dull Arloesol o Leddfu'r Pwysau ar Feddygon Teulu

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 25 Hydref 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 6:30, 25 Hydref 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae pawb ohonom yn gwybod am yr argyfwng sy’n ein hwynebu o ran recriwtio meddygon teulu, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Yr wythnos diwethaf, cawsom adroddiadau yn y cyfryngau nad ymgeisiodd unrhyw un am swydd wag i weithio fel meddyg teulu mewn meddygfa yn Sir Benfro yn y naw mis diwethaf. Ceir digon o enghreifftiau pellach o fy etholaeth o swyddi’n cael eu hysbysebu a heb gael eu llenwi am flynyddoedd. Felly, rwy’n falch iawn o gyflwyno’r ddadl fer hon i dynnu sylw at ddull arloesol o ddarparu gofal iechyd sy’n lleddfu pwysau ar feddygon teulu yn fy etholaeth. Mae’n gynnig arloesol iawn, sydd, hyd y gwelaf a chyn belled ag y gwn, yn unigryw i Gymru, ac yn Llanidloes yn unig y rhoddir y dull hwn ar waith. Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod yr hyn rwyf ar fin ei ddweud heddiw’n arddangos arfer a allai drawsnewid gofal iechyd sylfaenol ledled Cymru.

Mae canlyniadau fy arolwg iechyd fy hun ar draws Sir Drefaldwyn y llynedd yn dangos, er bod cleifion yn fodlon ar y cyfan â’u meddyg teulu, fod yna bryder penodol ynglŷn â pha mor hir y mae’n rhaid i gleifion aros i gael apwyntiad. Felly, ddiwedd y mis diwethaf, roeddwn yn falch iawn o noddi digwyddiad i Aelodau’r Cynulliad yma yn y Senedd, lle y clywsom gan Dylan Jones, prif fferyllydd yn fferyllfa Dudley Taylor yn Llanidloes, i ddysgu mwy ynglŷn â sut y mae model newydd o ddarparu gofal iechyd wedi mynd i’r afael â’r mater hwn, gan edrych ar bwysau llwyth gwaith ar bractisau meddygon teulu, sydd ar hyn o bryd, wrth gwrs, yn wynebu’r argyfwng meddygon teulu y mae pawb ohonom yn ymwybodol ohono, a chaniatáu i ymgynghoriadau ar gyfer mân gyflyrau hunangyfyngol gael eu rheoli’n effeithiol mewn fferyllfeydd cymunedol, a chynyddu capasiti hefyd, wrth gwrs, a lleihau costau.

Mae practisau meddygon teulu yn profi cynnydd digynsail yn y galw, ac mae gwasanaethau damweiniau ac achosion brys hefyd o dan bwysau difrifol. Yn wir, mae naw o bob 10 meddyg teulu’n dweud bod eu llwyth gwaith wedi cael effaith andwyol ar ansawdd y gofal i gleifion, gyda phedwar o bob pum meddyg teulu yn pryderu hefyd ynglŷn â chynaliadwyedd eu practis. Felly, o ystyried yr anawsterau sy’n gysylltiedig â recriwtio meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill mewn practisau, buaswn yn awgrymu y byddai buddsoddiad parhaus mewn presgripsiynwyr annibynnol mewn fferylliaeth gymunedol yn ddefnydd gwerthfawr o adnoddau’r GIG.

Gyda nifer y meddygon teulu yn lleihau a phractisau’n aml yn cael eu rhedeg gan feddygon locwm, buaswn yn dweud bod fferyllfeydd mewn sefyllfa ddelfrydol i gymryd y pwysau oddi ar feddygon teulu, sy’n ymdrin â 57 miliwn o ymgynghoriadau ar gyfer mân gyflyrau hunangyfyngol bob blwyddyn ar draws y DU, a gallai 18 miliwn o’r rhain gael eu rheoli’n effeithiol mewn fferyllfeydd cymunedol. Yn wir, mae’n rhaid i chi feddwl tybed pam yr ymdrinnir â rhai o’r cyflyrau hyn gan y meddyg teulu o gwbl, gyda fferyllfeydd mewn gwell sefyllfa i ymdrin â dolur gwddf, heintiau ar y frest, anhwylderau’r glust ac yn y blaen. Felly, ar y cyd â’r practis meddygol yn Llanidloes, mae fferyllfa Dylan Jones a Dudley Taylor yn Llanidloes wedi arloesi gyda gwasanaeth presgripsiynu annibynnol, sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ledled y DU yn ddiweddar yng ngwobrau mawreddog C+D. Mae’n bwysig nodi hefyd fod fferyllfa Dudley Taylor, Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys a Dylan Jones wedi cymryd risg fawr, ac rwy’n credu y dylid eu llongyfarch am yr ymrwymiad y maent wedi ei ddangos wrth wneud y llwyddiant hwn yn realiti.

Gyda chefnogaeth y bwrdd iechyd, a’r meddyg teulu presgripsiynu arweiniol yn y practis meddygol, Dr Raynsford, mae Dylan wedi cymhwyso fel presgripsiynydd annibynnol a dechreuodd y gwasanaeth presgripsiynu annibynnol newydd yn y fferyllfa fis Rhagfyr diwethaf, gan alluogi fferyllfa Dudley Taylor i drin cleifion â salwch acíwt o fewn y fferyllfa a lleihau’r angen i ymweld â meddyg teulu.

Felly, mae’n amlwg fod cydweithio agos rhwng yr holl bartïon yn allweddol i gael y gwasanaeth hwn ar ei draed. Fel arweinydd presgripsiynu yn y practis meddygol yn Llanidloes, mae Dr Raynsford wedi bod yn rhan annatod o’r treial, gan gytuno i brotocolau cadarn o’r cychwyn cyntaf ar gyfer rhannu gwybodaeth ac atgyfeirio, sydd hefyd wedi caniatáu i’r gwasanaeth newydd sicrhau mynediad at gofnodion iechyd cleifion meddygon teulu o’r tu mewn i’r fferyllfa. Mae cyfathrebu rhwng y fferyllfa a’r practis mewn perthynas ag argaeledd a chapasiti yn effeithiol, ac mae’r berthynas waith agos wedi sicrhau gwelliannau mawr yn y gofal i gleifion.

Mae’r gwasanaeth y mae fferyllfa Dudley Taylor a’r practis meddygol yn ei ddarparu yn sicrhau bod triniaeth gofal sylfaenol a chyngor ar gael yn gyflym i bobl leol o’r fferyllfa gymunedol ar y stryd fawr, gan leddfu’r pwysau ar feddygon teulu, wrth gwrs, a darparu gwasanaeth mwy cyfleus i gleifion, a helpu i ddarparu mwy o ddewis i gleifion, yn enwedig gan fod y fferyllfa’n gallu cynnig gwasanaeth presgripsiynu ar ddydd Sadwrn, pan na fydd y practis meddyg teulu ar agor—gwasanaeth sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr gan y cleifion. Mae cleifion yn cael eu cyfeirio at y darparwr mwyaf priodol yn gynt, gan leihau’r pwysau ar feddygon teulu a chynyddu argaeledd meddygon teulu ar gyfer cleifion mwy priodol, wrth hybu nifer yr ymwelwyr, wrth gwrs, a chefnogi hyfywedd fferyllfeydd lleol.

Mae’r gwasanaeth newydd yn Llanidloes hefyd wedi arwain at ostyngiad cyson yn nifer y cleifion sy’n defnyddio apwyntiadau brys yn y practis meddyg teulu. Ar gyfartaledd, bu gostyngiad o 23 y cant mewn apwyntiadau meddygon teulu o’i gymharu â’r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol, ac wrth ystyried yr effaith y mae’r gwasanaeth wedi ei chael ar lwyth gwaith meddygon teulu, a’r pwysau yn y feddygfa, mae Dr Raynsford yn credu bod meddygfeydd gyda’r nos yn arbennig wedi bod yn llawer llai prysur o ganlyniad. Mae hyn wedi caniatáu i’r practis ystyried ymestyn nifer neu gynyddu hyd apwyntiadau rheolaidd, ac mae hefyd yn dyrannu mwy o amser ar gyfer darparu gofal y tu allan i’r feddygfa, megis ymweliadau cartref i gleifion lliniarol, er enghraifft. Felly, trwy gynnig dewis arall i gleifion yn lle apwyntiad traddodiadol gyda meddyg teulu, mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod y gwasanaeth fferylliaeth yn hwyluso defnydd mwy priodol o amser meddygon teulu ac yn caniatáu ar gyfer mwy o ffocws ar gleifion ag anghenion gofal cymhleth. Yn hyn o beth, cred Dr Raynsford fod y gwasanaeth fferyllol wedi bod yn llwyddiant digamsyniol wrth gyflawni ei amcanion cychwynnol, ac yn un o’r datblygiadau pwysicaf ym maes gwasanaethau gofal sylfaenol yn y blynyddoedd diwethaf. Mae adborth gan gleifion hefyd wedi arwain at foddhad cyffredinol gyda’r gwasanaeth ac ansawdd y gofal y maent wedi’i gael. Nododd yr holl ymatebwyr y byddent yn argymell y gwasanaeth i aelod o’r teulu, ac mae’r fferyllfa hefyd wedi cael adborth gan gleifion sydd wedi bod yn gadarnhaol iawn, gan ddweud ei fod yn gwneud gwahaniaeth go iawn iddynt hwy fel cleifion.

Mae’r ffigurau hefyd yn siarad drostynt eu hunain. Mae 90 y cant o gleifion i bob pwrpas wedi ystyried neu eisoes wedi gwneud apwyntiad yn y feddygfa, a byddai 65 y cant wedi gwneud apwyntiad yn y feddygfa pe na bai gwasanaeth y fferyllfa ar gael. Mae’r gwasanaeth bellach yn cael ei ystyried yn rhan annatod o’r gwasanaeth gofal sylfaenol lleol yn Llanidloes, ac yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan y gymuned leol. Mae’r gwasanaeth newydd hefyd wedi cael effaith ar ganfyddiad cleifion o wasanaethau fferyllol, gyda pherthynas gynyddol gadarnhaol yn profi’n werth chweil yn broffesiynol.

O ganlyniad i’r llwyddiant yn Llanidloes, buaswn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fyddai’n ymuno â mi ar ymweliad â’r fferyllfa a’r practis meddyg teulu i weld a chlywed am y gwasanaeth yn uniongyrchol, i weld a fyddai’n bosibl datblygu’r model hwn ymhellach, i ddarparu’r un mynediad, ond hefyd ar gyfer ystod ehangach o anhwylderau, mewn ffordd sy’n integreiddio’r meddygfeydd yn iawn i allu cynnig triniaeth, gofal a chyngor mwy hygyrch.

Fodd bynnag, er mwyn i’r holl gynlluniau newydd lwyddo, bydd angen ymrwymiad gan y Llywodraeth ganolog ynglŷn ag a fyddwch chi a’ch adran yn cefnogi ein fferyllwyr cymunedol yn ariannol i fynd ar drywydd hyfforddiant ychwanegol i ddod yn bresgripsiynwyr annibynnol. O ystyried bod y manteision cymunedol yn ymestyn y tu hwnt i’r fferyllfa, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet a yw’n teimlo bod potensial i’r math hwn o wasanaeth gael ei ddyrannu o bot o arian ar wahân drwy’r gronfa arloesi gofal sylfaenol, felly nad yw’r manteision wedi eu cyfyngu gan faint cyllideb fferyllfa unigol, a hefyd fel nad yw’r gwasanaeth newydd yn cael ei frigdorri o’r gyllideb bresennol ar gyfer fferyllfeydd neu feddygon teulu.

Dirprwy Lywydd, i gloi, rwy’n credu’n gryf fod gan hyn botensial i dalu amdano’i hun drosodd a throsodd, a byddai’n trawsnewid y ffordd y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Bydd darparu gofal iechyd costeffeithiol o ansawdd uchel ar gyfer y darparwr mwyaf priodol o fudd i’r GIG cyfan, ac edrychaf ymlaen at glywed eich barn ar hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, a’r potensial ar gyfer cyflwyno hyn ledled Cymru.