– Senedd Cymru am 6:30 pm ar 25 Hydref 2017.
Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Russell George i siarad am y pwnc y mae wedi ei ddewis—Russell George.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae pawb ohonom yn gwybod am yr argyfwng sy’n ein hwynebu o ran recriwtio meddygon teulu, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Yr wythnos diwethaf, cawsom adroddiadau yn y cyfryngau nad ymgeisiodd unrhyw un am swydd wag i weithio fel meddyg teulu mewn meddygfa yn Sir Benfro yn y naw mis diwethaf. Ceir digon o enghreifftiau pellach o fy etholaeth o swyddi’n cael eu hysbysebu a heb gael eu llenwi am flynyddoedd. Felly, rwy’n falch iawn o gyflwyno’r ddadl fer hon i dynnu sylw at ddull arloesol o ddarparu gofal iechyd sy’n lleddfu pwysau ar feddygon teulu yn fy etholaeth. Mae’n gynnig arloesol iawn, sydd, hyd y gwelaf a chyn belled ag y gwn, yn unigryw i Gymru, ac yn Llanidloes yn unig y rhoddir y dull hwn ar waith. Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod yr hyn rwyf ar fin ei ddweud heddiw’n arddangos arfer a allai drawsnewid gofal iechyd sylfaenol ledled Cymru.
Mae canlyniadau fy arolwg iechyd fy hun ar draws Sir Drefaldwyn y llynedd yn dangos, er bod cleifion yn fodlon ar y cyfan â’u meddyg teulu, fod yna bryder penodol ynglŷn â pha mor hir y mae’n rhaid i gleifion aros i gael apwyntiad. Felly, ddiwedd y mis diwethaf, roeddwn yn falch iawn o noddi digwyddiad i Aelodau’r Cynulliad yma yn y Senedd, lle y clywsom gan Dylan Jones, prif fferyllydd yn fferyllfa Dudley Taylor yn Llanidloes, i ddysgu mwy ynglŷn â sut y mae model newydd o ddarparu gofal iechyd wedi mynd i’r afael â’r mater hwn, gan edrych ar bwysau llwyth gwaith ar bractisau meddygon teulu, sydd ar hyn o bryd, wrth gwrs, yn wynebu’r argyfwng meddygon teulu y mae pawb ohonom yn ymwybodol ohono, a chaniatáu i ymgynghoriadau ar gyfer mân gyflyrau hunangyfyngol gael eu rheoli’n effeithiol mewn fferyllfeydd cymunedol, a chynyddu capasiti hefyd, wrth gwrs, a lleihau costau.
Mae practisau meddygon teulu yn profi cynnydd digynsail yn y galw, ac mae gwasanaethau damweiniau ac achosion brys hefyd o dan bwysau difrifol. Yn wir, mae naw o bob 10 meddyg teulu’n dweud bod eu llwyth gwaith wedi cael effaith andwyol ar ansawdd y gofal i gleifion, gyda phedwar o bob pum meddyg teulu yn pryderu hefyd ynglŷn â chynaliadwyedd eu practis. Felly, o ystyried yr anawsterau sy’n gysylltiedig â recriwtio meddygon teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill mewn practisau, buaswn yn awgrymu y byddai buddsoddiad parhaus mewn presgripsiynwyr annibynnol mewn fferylliaeth gymunedol yn ddefnydd gwerthfawr o adnoddau’r GIG.
Gyda nifer y meddygon teulu yn lleihau a phractisau’n aml yn cael eu rhedeg gan feddygon locwm, buaswn yn dweud bod fferyllfeydd mewn sefyllfa ddelfrydol i gymryd y pwysau oddi ar feddygon teulu, sy’n ymdrin â 57 miliwn o ymgynghoriadau ar gyfer mân gyflyrau hunangyfyngol bob blwyddyn ar draws y DU, a gallai 18 miliwn o’r rhain gael eu rheoli’n effeithiol mewn fferyllfeydd cymunedol. Yn wir, mae’n rhaid i chi feddwl tybed pam yr ymdrinnir â rhai o’r cyflyrau hyn gan y meddyg teulu o gwbl, gyda fferyllfeydd mewn gwell sefyllfa i ymdrin â dolur gwddf, heintiau ar y frest, anhwylderau’r glust ac yn y blaen. Felly, ar y cyd â’r practis meddygol yn Llanidloes, mae fferyllfa Dylan Jones a Dudley Taylor yn Llanidloes wedi arloesi gyda gwasanaeth presgripsiynu annibynnol, sydd wedi ennill cydnabyddiaeth ledled y DU yn ddiweddar yng ngwobrau mawreddog C+D. Mae’n bwysig nodi hefyd fod fferyllfa Dudley Taylor, Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys a Dylan Jones wedi cymryd risg fawr, ac rwy’n credu y dylid eu llongyfarch am yr ymrwymiad y maent wedi ei ddangos wrth wneud y llwyddiant hwn yn realiti.
Gyda chefnogaeth y bwrdd iechyd, a’r meddyg teulu presgripsiynu arweiniol yn y practis meddygol, Dr Raynsford, mae Dylan wedi cymhwyso fel presgripsiynydd annibynnol a dechreuodd y gwasanaeth presgripsiynu annibynnol newydd yn y fferyllfa fis Rhagfyr diwethaf, gan alluogi fferyllfa Dudley Taylor i drin cleifion â salwch acíwt o fewn y fferyllfa a lleihau’r angen i ymweld â meddyg teulu.
Felly, mae’n amlwg fod cydweithio agos rhwng yr holl bartïon yn allweddol i gael y gwasanaeth hwn ar ei draed. Fel arweinydd presgripsiynu yn y practis meddygol yn Llanidloes, mae Dr Raynsford wedi bod yn rhan annatod o’r treial, gan gytuno i brotocolau cadarn o’r cychwyn cyntaf ar gyfer rhannu gwybodaeth ac atgyfeirio, sydd hefyd wedi caniatáu i’r gwasanaeth newydd sicrhau mynediad at gofnodion iechyd cleifion meddygon teulu o’r tu mewn i’r fferyllfa. Mae cyfathrebu rhwng y fferyllfa a’r practis mewn perthynas ag argaeledd a chapasiti yn effeithiol, ac mae’r berthynas waith agos wedi sicrhau gwelliannau mawr yn y gofal i gleifion.
Mae’r gwasanaeth y mae fferyllfa Dudley Taylor a’r practis meddygol yn ei ddarparu yn sicrhau bod triniaeth gofal sylfaenol a chyngor ar gael yn gyflym i bobl leol o’r fferyllfa gymunedol ar y stryd fawr, gan leddfu’r pwysau ar feddygon teulu, wrth gwrs, a darparu gwasanaeth mwy cyfleus i gleifion, a helpu i ddarparu mwy o ddewis i gleifion, yn enwedig gan fod y fferyllfa’n gallu cynnig gwasanaeth presgripsiynu ar ddydd Sadwrn, pan na fydd y practis meddyg teulu ar agor—gwasanaeth sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr gan y cleifion. Mae cleifion yn cael eu cyfeirio at y darparwr mwyaf priodol yn gynt, gan leihau’r pwysau ar feddygon teulu a chynyddu argaeledd meddygon teulu ar gyfer cleifion mwy priodol, wrth hybu nifer yr ymwelwyr, wrth gwrs, a chefnogi hyfywedd fferyllfeydd lleol.
Mae’r gwasanaeth newydd yn Llanidloes hefyd wedi arwain at ostyngiad cyson yn nifer y cleifion sy’n defnyddio apwyntiadau brys yn y practis meddyg teulu. Ar gyfartaledd, bu gostyngiad o 23 y cant mewn apwyntiadau meddygon teulu o’i gymharu â’r un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol, ac wrth ystyried yr effaith y mae’r gwasanaeth wedi ei chael ar lwyth gwaith meddygon teulu, a’r pwysau yn y feddygfa, mae Dr Raynsford yn credu bod meddygfeydd gyda’r nos yn arbennig wedi bod yn llawer llai prysur o ganlyniad. Mae hyn wedi caniatáu i’r practis ystyried ymestyn nifer neu gynyddu hyd apwyntiadau rheolaidd, ac mae hefyd yn dyrannu mwy o amser ar gyfer darparu gofal y tu allan i’r feddygfa, megis ymweliadau cartref i gleifion lliniarol, er enghraifft. Felly, trwy gynnig dewis arall i gleifion yn lle apwyntiad traddodiadol gyda meddyg teulu, mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod y gwasanaeth fferylliaeth yn hwyluso defnydd mwy priodol o amser meddygon teulu ac yn caniatáu ar gyfer mwy o ffocws ar gleifion ag anghenion gofal cymhleth. Yn hyn o beth, cred Dr Raynsford fod y gwasanaeth fferyllol wedi bod yn llwyddiant digamsyniol wrth gyflawni ei amcanion cychwynnol, ac yn un o’r datblygiadau pwysicaf ym maes gwasanaethau gofal sylfaenol yn y blynyddoedd diwethaf. Mae adborth gan gleifion hefyd wedi arwain at foddhad cyffredinol gyda’r gwasanaeth ac ansawdd y gofal y maent wedi’i gael. Nododd yr holl ymatebwyr y byddent yn argymell y gwasanaeth i aelod o’r teulu, ac mae’r fferyllfa hefyd wedi cael adborth gan gleifion sydd wedi bod yn gadarnhaol iawn, gan ddweud ei fod yn gwneud gwahaniaeth go iawn iddynt hwy fel cleifion.
Mae’r ffigurau hefyd yn siarad drostynt eu hunain. Mae 90 y cant o gleifion i bob pwrpas wedi ystyried neu eisoes wedi gwneud apwyntiad yn y feddygfa, a byddai 65 y cant wedi gwneud apwyntiad yn y feddygfa pe na bai gwasanaeth y fferyllfa ar gael. Mae’r gwasanaeth bellach yn cael ei ystyried yn rhan annatod o’r gwasanaeth gofal sylfaenol lleol yn Llanidloes, ac yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan y gymuned leol. Mae’r gwasanaeth newydd hefyd wedi cael effaith ar ganfyddiad cleifion o wasanaethau fferyllol, gyda pherthynas gynyddol gadarnhaol yn profi’n werth chweil yn broffesiynol.
O ganlyniad i’r llwyddiant yn Llanidloes, buaswn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fyddai’n ymuno â mi ar ymweliad â’r fferyllfa a’r practis meddyg teulu i weld a chlywed am y gwasanaeth yn uniongyrchol, i weld a fyddai’n bosibl datblygu’r model hwn ymhellach, i ddarparu’r un mynediad, ond hefyd ar gyfer ystod ehangach o anhwylderau, mewn ffordd sy’n integreiddio’r meddygfeydd yn iawn i allu cynnig triniaeth, gofal a chyngor mwy hygyrch.
Fodd bynnag, er mwyn i’r holl gynlluniau newydd lwyddo, bydd angen ymrwymiad gan y Llywodraeth ganolog ynglŷn ag a fyddwch chi a’ch adran yn cefnogi ein fferyllwyr cymunedol yn ariannol i fynd ar drywydd hyfforddiant ychwanegol i ddod yn bresgripsiynwyr annibynnol. O ystyried bod y manteision cymunedol yn ymestyn y tu hwnt i’r fferyllfa, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet a yw’n teimlo bod potensial i’r math hwn o wasanaeth gael ei ddyrannu o bot o arian ar wahân drwy’r gronfa arloesi gofal sylfaenol, felly nad yw’r manteision wedi eu cyfyngu gan faint cyllideb fferyllfa unigol, a hefyd fel nad yw’r gwasanaeth newydd yn cael ei frigdorri o’r gyllideb bresennol ar gyfer fferyllfeydd neu feddygon teulu.
Dirprwy Lywydd, i gloi, rwy’n credu’n gryf fod gan hyn botensial i dalu amdano’i hun drosodd a throsodd, a byddai’n trawsnewid y ffordd y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Bydd darparu gofal iechyd costeffeithiol o ansawdd uchel ar gyfer y darparwr mwyaf priodol o fudd i’r GIG cyfan, ac edrychaf ymlaen at glywed eich barn ar hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, a’r potensial ar gyfer cyflwyno hyn ledled Cymru.
Diolch yn fawr iawn, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon i ymateb i’r ddadl—Vaughan Gething.
Diolch i Russell George am gyflwyno’r pwnc arbennig hwn i’r Siambr heddiw, ac mae’n un o’r achlysuron hynny lle’r ydym yn cytuno’n gyffredinol. Yn wir, nodaf eich bod wedi cael cyflwyniad gan Dylan Jones, a oedd, drwy gyd-ddigwyddiad—ac rwyf am gofnodi fy llongyfarchiadau iddo, yn hwyr, wedi iddo gael ei gydnabod yng Ngwobrau Fferylliaeth Cymru yn gyd-enillydd fferyllydd cymunedol y flwyddyn. Bydd y Dirprwy Lywydd, wrth gwrs, â diddordeb mewn cael ei hatgoffa mai’r cyd-enillydd arall oedd Jacqui Campbell o Brestatyn, a Pritchards ym Mhrestatyn lle y lansiais y sticeri GIG Cymru ac mewn amryw o ddarparwyr gofal iechyd eraill. Mae rhywbeth yma eto am ddeall pwy sy’n rhan o’r tîm gofal iechyd, beth yw’r timau gofal iechyd lleol hynny yn awr a’r hyn y gallent ac y dylent fod yn y dyfodol. Mae Llanidloes yn un o’r enghreifftiau hynny o ble y credwn y dylai gweddill y darparwyr gofal iechyd edrych yn fwyfwy tebyg iddynt, am ei fod yn cyd-fynd â chyfeiriad teithio’r Llywodraeth hon eisoes, a’r mathau o newidiadau rydym eisiau eu cefnogi i helpu i gynnal a gwella gofal iechyd lleol yn ogystal. Mae’n deg dweud nad yw pob newid yn y cyfeiriad hwn yn cael eu cefnogi’n arbennig yn lleol ar y pryd, ac mae Llanidloes yn enghraifft dda lle nad oedd pawb o blaid y mathau o newidiadau sy’n cael eu gwneud yn awr. Rwy’n falch o weld bod yna newid go iawn wedi bod, a hynny ar draws y pleidiau yn ogystal, a chan feddwl am y mathau o dimau y siaradwn amdanynt, mae’r dull yn Llanidloes yn gyson â’r un a nodwyd yn y cynllun gofal sylfaenol cenedlaethol. Rwy’n meddwl am rywbeth a ddywedodd Lee Waters yn y Siambr hefyd am y dull a ddefnyddir yng Nghydweli, lle y mae gwahaniaeth yn y model gofal wedi bod yn hynod o bwysig o ran cynnal gofal iechyd lleol yn hytrach na’i weld yn methu, gyda ffocws yn unig ar wasanaethau meddygon teulu lleol.
Rwy’n credu ei bod yn deg inni dynnu sylw at rai o’r egwyddorion sylfaenol o fewn y rhaglen lwyddiannus yn Llanidloes. Y gyntaf yw cydweithio, oherwydd mae’r bwrdd iechyd, y meddygon teulu a’r fferyllfeydd wedi bod â rolau llawn a chyfartal yn datblygu’r gwasanaeth newydd yn Llanidloes. Mae rhywbeth yno am randdeiliaid lleol yn dod at ei gilydd, nid yn unig y pŵer i gytuno, ond mewn gwirionedd, cydnabyddiaeth ar y cyd o’r risgiau o beidio â chytuno ar sut y gallai ac y dylai’r dyfodol edrych, ac mae’r rhain yn bobl sy’n byw yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu bron bob amser. Felly, mae yna ddiddordeb uniongyrchol go iawn mewn gweld y gwasanaethau’n parhau i fod yn llwyddiannus. Rydym yn gwybod bod cleifion yn fodlon ar y gwasanaeth. Cânt eu gweld yn gyflym ac maent yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn effeithlon. Crëwyd gofod i feddygon teulu dreulio mwy o amser yn gwneud yr hyn na all ac na ddylai neb ond hwy ei wneud yn ogystal, yn enwedig gweld pobl sydd ag anghenion cymhleth. Ond hefyd mae’r fferyllwyr cymunedol yn cydnabod ei fod yn werth chweil yn broffesiynol. Mae yna gydnabyddiaeth gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill fod mwy y gall fferylliaeth gymunedol ei wneud hefyd.
Hoffwn wneud dau bwynt arall. Mae un am rannu gwybodaeth, a’r hyn y gallasom ei wneud i alluogi’r system ehangach i rannu gwybodaeth yn ddiogel, drwy fod fferyllfeydd cymunedol penodol yn cymryd rhan mewn rhwydwaith lle y gallant weld fersiwn o’r cofnod meddyg teulu. Mae hynny’n bwysig iawn, ac rwy’n falch iawn o gadarnhau ein bod wedi rhagori ar ble rydym eisiau bod gyda Dewis Fferyllfa yn y broses o gyflwyno fferyllfeydd cymunedol ledled Cymru. Nodais fy mod yn disgwyl y byddai hanner ein fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru ar-lein erbyn diwedd mis Mawrth 2018. Rydym eisoes dros hanner ffordd ar hyn o bryd, felly rydym bump i chwe mis o flaen lle’r oeddem yn disgwyl bod. Mae honno’n stori lwyddiant go iawn, gan fod pobl yn cydnabod mewn enghreifftiau fel Llanidloes a chymunedau eraill yng Nghymru ei fod wedi bod o fudd mawr i bawb o fewn y gymuned gofal iechyd yn lleol, ond o fudd go iawn i ddinasyddion lleol yn benodol. Ac ydy, mae’r rhan arall yn cynnwys presgripsiynu annibynnol ac wrth gwrs, ceir amrywiaeth o fferyllfeydd cymunedol sydd eisoes yn bresgripsiynwyr annibynnol. Rydym yn ceisio annog amrywiaeth o bobl eraill yn ogystal â meddygon i gael y gallu i fod yn bresgripsiynwyr annibynnol, gan ddefnyddio eu sgiliau clinigol i wneud hynny. Mae yna amrywiaeth o nyrsys sy’n gallu gwneud hynny ac ystod o weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill—fferyllwyr, therapyddion ac eraill—i gyd o fewn eu cymhwysedd clinigol eu hunain. Felly, mae yna ddull cydweithredol ac amlddisgyblaethol i’w weithredu. Dyna un o nodweddion allweddol, nid yn unig yr hyn sydd wedi digwydd yn Llanidloes, ond yn fwy cyffredinol yn y rhaglen bennu cyfeiriad genedlaethol ar gyfer gofal iechyd lleol. Ac wrth gwrs, fe’i cefnogir gan gronfa o £43 miliwn, gan gynnwys £4 miliwn sydd yn y rhaglen bennu cyfeiriad genedlaethol honno, a cheir llawer o enghreifftiau eraill ledled Cymru o sut beth ydyw, naill ai o fewn y rhaglen neu y tu allan iddi. Rhan o fy her a fy optimistiaeth am y gwasanaeth yw bod gennym enghreifftiau o’r hyn sy’n gweithio, gan wella gofal iechyd lleol i’r bobl sy’n gweithio yn y timau gofal iechyd lleol hynny, ond yn hanfodol, i’r dinesydd yn ogystal. Ac er yr holl heriau sy’n ein hwynebu, yn ogystal â gwledydd eraill yn y DU, mae gennym enghreifftiau da a gallwn ddweud, ‘Mae hyn yn gweithio yng Nghymru eisoes.’ Mae yna enghraifft yn y Gymru wledig sy’n gweithio, ac yn sicr dylem allu cyflwyno hynny mewn gwahanol rannau o’r Gymru wledig. Yr un peth gyda Chymoedd Cymru, y Gymru drefol yn ogystal. Ac mewn gwirionedd, mae yna lawer o wersi i’w dysgu’n barod. Ein her gyson yw pa mor gyflym a pha mor gyson y gallwn wneud hynny ar draws y wlad.
A soniais yn gynharach am y platfform Dewis Fferyllfa. Roedd hwnnw’n ddewis bwriadol i’w wneud. Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn aml yn cael ei ddifrïo, ond fe wnaethant helpu i ddatblygu’r platfform TG newydd, ac yna buddsoddodd Llywodraeth Cymru bron i £800,000 i sicrhau ei fod ar gael. Yn ogystal â hynny, mae gennym systemau yn yr ysbytai sy’n caniatáu i wybodaeth wedi’i moderneiddio am gleifion gael ei throsglwyddo rhwng y meddyg teulu a’r ysbyty yn ogystal. Felly, rydym o ddifrif yn gwneud mwy i rannu gwybodaeth, ond rydym yn dal i fod yn awyddus i wneud rhagor, rydym yn dal yn awyddus i symud yn gyflymach nag y gwnawn ar hyn o bryd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Cefais ymweliad diddorol â fferyllfa gymunedol ym Mhorth Tywyn yr wythnos o’r blaen, ac roeddwn yn siomedig nad oedd system gyfrifiadurol y fferyllydd yn siarad â’r system gyfrifiadurol y mae gweddill y GIG yn ei defnyddio, ac mae’r mathau hyn o rwystrau digidol yn rhwystro’r potensial sydd gan y model hwn.
Yn wir. Mae mwy i ni ei wneud ynglŷn â sicrhau bod gennym system sydd wedi’i chydgysylltu’n llawn. Ac mae rhywbeth am gael platfform i ganiatáu i gofnod gael ei rannu, ac yna i’r hyn sy’n fusnesau annibynnol ar hyn o bryd gael eu platfformau eu hunain a all siarad yn gyson â hwy mewn gwirionedd. Wrth i ni barhau i ddatblygu ein platfform digidol o fewn y gwasanaeth iechyd, mae angen i ni wneud yn siŵr fod gennym bethau sy’n gyson rhwng gwahanol rannau ein system. Nid yw’n her hawdd, ond mae’n rhywbeth rydym yn ei ddisgwyl fel rhan o’r hyn rydym am ei gyflawni. Ac yn yr un modd, gwn eich bod chi, Lee, wedi gwneud pwyntiau o’r blaen am ddal i fyny gyda disgwyliadau’r cyhoedd, gan fod y rhan fwyaf o’r cyhoedd eisoes yn disgwyl i fferylliaeth a’u meddygfa leol allu siarad â’i gilydd ar blatfform digidol. Maent yn disgwyl i’r system ysbytai a’u system gofal iechyd leol fod wedi eu cydgysylltu yn ogystal. Felly, mae gennym lawer i’w wneud i ddal i fyny. Ac rwy’n cydnabod y pwynt. A dweud y gwir, cyfarfûm â fferyllwyr o Borth Tywyn mewn diwrnod yn ddiweddar gyda’r bwrdd iechyd, a chyda’r brifysgol, ynghylch yr hyn roeddent wedi llwyddo i’w wneud eisoes a’r arloesi pellach roeddent am ei weld yn digwydd hefyd. Ac mewn gwirionedd, mae gweld yr arloesedd hwnnw’n digwydd, a’i weld yn llwyddo, yn rhan o’r hyn sy’n rhoi anogaeth go iawn i mi ynglŷn â’r dyfodol. Mae pethau’n digwydd, a byddai’n well gennyf gael yr her o, ‘Sut rydym yn gwneud hynny’n fwy llwyddiannus ar draws y wlad?’ yn hytrach na, ‘Nid oes gennym unrhyw syniadau ac nid ydym yn gwybod beth i’w wneud.’
Wrth gwrs, ceir cyfleoedd i fferyllwyr cymunedol hyfforddi presgripsiynwyr annibynnol, fel y gofynnodd Russell George, ac rwy’n hapus i weld hynny’n cael ei gefnogi’n fwy cyffredinol, yn ogystal â gweld mwy o gyfraniad yn cael ei wneud gan fferyllwyr cymunedol, a meddwl sut y gwnawn hynny gyda staff, gyda’r bobl, gyda’r gweithlu ac wrth gwrs, y platfform i ganiatáu iddynt wneud hynny mor effeithiol â phosibl.
Mae’r gwasanaeth mân anhwylderau, sydd bellach yn cael ei gyflwyno ar blatfform Dewis Fferyllfa, yn bwysig ynddo’i hun. Mae’n cymryd pwysau oddi ar feddygon teulu, yn rhoi mwy o ddewisiadau i’r dinesydd, a dylai hynny olygu wedyn fod gennym bethau eraill y gallwn eu gwneud, gan gynnwys rheoli cyflyrau cronig ac eraill yn ogystal. Felly, rwy’n ei weld fel dechrau cael platfform dibynadwy i’w gyflwyno, ac yna mae mwy y gallem ac y dylem ei wneud, ac rwyf wedi gwneud y sylwadau hynny o’r blaen yn y Siambr hon a thu hwnt.
Rwyf eisiau mynd yn ôl at eich pwynt am barhau i fuddsoddi mewn fferylliaeth gymunedol. Ac rwy’n hapus iawn ac yn falch o’r hyn rydym wedi gallu ei wneud yng Nghymru. Mae pawb yn gwybod ein bod yn wynebu dewisiadau anodd, ac ni wnaf bwyntiau gwleidyddol am y Ceidwadwyr Cymreig o leiaf, ond mae yna ddewisiadau anodd i’w gwneud. Rydym yn gwybod bod llai o arian cyhoeddus ar gael. Mae gan Lywodraeth Cymru gyllideb lai mewn termau real, ac nid ydym yn disgwyl i hynny newid mewn gwirionedd yn y cylch cyllidebol a ddisgwyliwn ym mis Tachwedd. Felly, mae’r dewisiadau a wnawn yn fwy pwysig byth. A gwneuthum ddewis bwriadol i barhau i fuddsoddi £144 miliwn bob blwyddyn mewn fferylliaeth gymunedol. Ar draws ein ffin, yn Lloegr, cafwyd toriadau o 7 y cant i’r tîm fferylliaeth gymunedol. Nawr, mae hwnnw’n ddewis gwahanol. Mae hynny’n rhan o ddatganoli’n bod yn wahanol, ond rhan o’r rheswm pam y dewisais wneud hynny oedd fy mod yn meddwl bod mwy y gallwn ei gael o’r rhwydwaith fferylliaeth gymunedol. Ac rwyf am weld y rhwydwaith yn cael ei gynnal, a’i weld yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd wahanol. Ac os na all gynnal y buddsoddiad yn y gwasanaeth, efallai y byddwn yn gweld rhai fferyllfeydd yn peidio â bod mwyach, nid oherwydd bod yna ddadl ynghylch ansawdd, nid oherwydd bod crynhoad defnyddiol o fferyllfeydd lleol yn darparu gwasanaeth gwell a mwy cadarn, ond yn syml oherwydd na fyddai’r arian yno i hynny ddigwydd.
A dyna pam y mae cyflwyno’r platfform yn bwysig, ond hefyd mae rhywbeth am rywbeth yn hyn hefyd. Ar ôl gwneud dewis bwriadol i beidio â thorri’r buddsoddiad yn y system fferyllfeydd cymunedol yma yng Nghymru, mae yna ddisgwyliad ein bod yn gweld mwy o ansawdd yn yr hyn sy’n cael ei ddarparu, ac nid taliad yn ôl cyfaint trwy bresgripsiynu a thrwy ddarparu cyffuriau, ond taliad yn y gallu i ddarparu mwy o ansawdd yn y gofal y mae fferyllwyr cymunedol yn ei ddarparu mewn gwirionedd. A dylai hynny ei wneud yn lle mwy diddorol iddynt weithio ynddo. Mewn rhai ffyrdd, nid yw’n annhebyg i’r sgwrs gydag optometryddion stryd fawr sydd am allu gwneud pethau gwahanol. Ac mae’r ffordd rydym wedi cyflwyno gwasanaethau ar gyfer optometryddion y stryd fawr wedi gwneud y swydd yn fwy diddorol i’r bobl hynny, ac mae’n ddefnydd gwell o’n hadnoddau ar draws y system—yn well i feddygon teulu beidio â chael pobl yn dod atynt gyda phroblemau gofal llygaid pan nad hwy yw’r bobl iawn i’w gweld, swydd well i’r optometryddion ei gwneud eu hunain, ac mewn gwirionedd, i’r dinesydd, mynediad cyflymach at y gofal iechyd proffesiynol cywir yn eu cymuned leol. A dyna fwy o’r hyn rwy’n disgwyl ei weld yn ein system ar draws y wlad.
Hefyd, dyna pam, o’r mis hwn, rwyf wedi rhyddhau £1.5 miliwn yn benodol i fynd i mewn i’r rhaglen ansawdd fferylliaeth honno, a bydd yn cefnogi gwaith cydweithredol rhwng fferyllfeydd a darparwyr gofal iechyd lleol eraill i sicrhau bod y manteision sydd gennym ar hyn o bryd yn cael eu gwireddu. Felly, dyna’r cyfeiriad y mae’r Llywodraeth hon yn ei osod a dyna’r amgylchedd rydym eisiau darparu gofal iechyd lleol ynddo. Rwy’n credu bod Llanidloes yn enghraifft dda o’r hyn y gallem ac y dylem weld mwy ohono yn y dyfodol, a mwy y gallwn ei ddysgu am yr hyn sydd i’w gael yn iawn ac i’r un graddau, y pethau na fydd yn mynd yn iawn a chamgymeriadau na ddylem eu hailadrodd mewn rhannau eraill o’n system.
Felly, mae llawer y gallwn fod yn falch ohono a llawer rwy’n falch ohono yn ein system yma hefyd. Ac edrychaf ymlaen at weithio ochr yn ochr â fferylliaeth gymunedol a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i ddarparu’r gofal iechyd gorau posibl, hyd yn oed o fewn y cyfyngiadau presennol y mae pawb ohonom yn gwybod ein bod yn gweithredu ynddynt.
Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd ein trafodion am heddiw. Diolch.