Part of 2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 25 Hydref 2017.
Roeddwn yn gofyn mewn perthynas â thrafodaethau a gefais gyda ‘The Big Issue’ pan oeddwn yn gwerthu copïau gyda hwy yng Nghaerdydd. Roeddent yn dweud eu bod yn cael eu gwasgu allan gan bobl a oedd yn cardota yng Nghaerdydd fel na allent werthu eu cylchgronau yn dda iawn yno. Felly, tybed a oes capasiti yn yr ystad i rai o werthwyr ‘The Big Issue’ ddod i werthu i’r rhai sy’n gweithio yn y Cynulliad neu o gwmpas ystad y Cynulliad, o ystyried bod hwn yn achos da a fydd yn cynorthwyo pobl i ddod oddi ar y strydoedd, o fod yn ddigartref i gael gwaith, o bosibl. Felly, tybed—. Yn amlwg, os oes angen i mi ysgrifennu, gallaf ysgrifennu, ond tybed a oes unrhyw hyblygrwydd yn y system fel y gallwn gael sicrwydd ein bod wedi ceisio annog pobl i brynu ‘The Big Issue’ yn ystad y Cynulliad a’r cyffiniau.