Part of 2. 2. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 25 Hydref 2017.
Mae gwerthu ‘The Big Issue’, wrth gwrs, yn gyfraniad gwerthfawr iawn i fod o gefnogaeth i bobl sydd yn ddigartref ac i hyrwyddo’r achos i fynd i daclo digartrefedd. Mae polisi y Cynulliad, wrth gwrs, ar hyn o bryd yn golygu na fedrir caniatáu codi arian ar ystâd y Cynulliad. Mae hynny’n wir am bob achos da y gallai unrhyw Aelod Cynulliad fan hyn ei gynnig fel syniad. Ond mae’n wir i ddweud hefyd y gallech chi ysgrifennu at y Comisiwn a gofyn am eithriad posib, ond fe fyddwn ni’n gorfod codi’r mater unwaith eto. Unwaith mae rhywun yn caniatáu un eithriad, yna fe allaf i warantu y bydd pob un ohonoch chi fel Aelodau eisiau cyflwyno eithriadau eraill, a’r rheini i gyd hefyd yn achosion da, mae’n siŵr.